Weithiau, gall sefyllfa neilltuol achosi iechyd meddwl gwael, ond gall hefyd effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg, am unrhyw reswm neu am ddim rheswm o gwbl.
Bydd y cymorth ar gyfer problemau iechyd meddwl yn wahanol i bawb ac i’w gael mewn amryw o lefydd, ond weithiau mae’n anodd gwybod ble i droi am gymorth.
Wrth i chi fynd yn eich blaen i ddarllen, byddwn yn nodi rhai llwybrau tuag at gael mwy o gyngor ac arweiniad ar iechyd meddwl, ac yn eich cyfeirio at wasanaethau cymorth. Mae llawer o’r rhain yn rhoi cyngor ar amrywiaeth o anghenion iechyd meddwl a lles, ond bydd rhai yn ymateb yn benodol i amgylchiadau penodol all fod yn effeithio ar eich iechyd meddwl.
Siarad am eich iechyd meddwl
Gall siarad am eich iechyd meddwl fod yn bwysig, ond mae llawer yn cael trafferth bod yn agored. Y stigma neu’r ofn ynghylch iechyd meddwl sydd tu cefn i hyn weithiau.
Mae Amser i Newid Cymru yn mynd i’r afael â’r stigma hwn ac yn cydnabod bod trafod salwch meddwl yn dal yn bwnc na chewch chi ddim sôn amdano, a hynny er bod problemau iechyd meddwl yn debygol o effeithio ar lawer ohonom ni. Mae Pencampwyr Amser i Newid yn arwain yr ymgyrch a gallai fod yn fuddiol i chi ddarllen eu hanesion a sut mae siarad am eu hiechyd meddwl wedi’u helpu nhw.
Os ydych chi’n cael trafferth siarad am eich iechyd meddwl chi, neu ddeall iechyd meddwl rhywun arall, mae Amser i Newid Cymru yn rhoi llawer o gyngor ac adnoddau defnyddiol ar:
- Y ffeithiau am iechyd meddwl
- Gwybodaeth am wahanol gyflyrau iechyd meddwl
- Sut i ddweud wrth rywun am eich iechyd meddwl
- Siarad â rhywun arall am eu hiechyd meddwl a gwrando
Mae llawer o enwogion wedi siarad am eu profiad efo iechyd meddwl. Gwyliwch fideo ble bu’r ysgrifennwr a’r darlunydd Matthew Johnstone, yn gweithio gyda Sefydliad Iechyd y Byd i siarad am drechu "iselder – y ci du".
Yn y rhaglen ddogfen ar y cyd rhwng y BBC a’r Brifysgol Agored yn ddiweddar, Psychosis and Me, bu’r actor David Harewood yn siarad am ei brofiad o gael diagnosis o Seicosis a thriniaeth ar ei gyfer. Mae Trisha Goddard, Jim Brown a Stephen Fry yn edrych ar yr ofn a’r tristwch sydd yn effeithio ar eu bywyd o ddydd i ddydd, ac yn trafod sut maent yn defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl.
Cofiwch, mae profiad pawb o iechyd meddwl yn wahanol. Ni ddylech fyth deimlo dan bwysau i siarad am eich iechyd meddwl, ond efallai y gwelwch fod siarad yn helpu. Dyma ambell bwt arall o gyngor os ydych chi’n ei chael hi’n anodd siarad am eich iechyd meddwl:
- Ysgrifennwch lythyr os oes ofn arnoch chi siarad wyneb yn wyneb.
- Siaradwch â rhywun sydd ddim yn eich ‘nabod chi fel y cyfryw, fel meddyg teulu, gwasanaeth cymorth neu therapydd os nad ydych chi’n teimlo’n gyfforddus yn siarad efo rhywun sydd yn agos atoch chi.
- Dechreuwch drwy ysgrifennu ac yna siarad.
- Ceisiwch ymarfer siarad yn y drych cyn siarad â rhywun os ydych chi’n cael trafferth gwneud hynny.
- Cofiwch y byddwch chi’n teimlo cryn ryddhad mae’n debyg ar ôl i chi siarad â rhywun.
- Cofiwch nad ydych chi ar eich pen eich hun.
Os ydych chi eisiau siarad â rhywun proffesiynol, neu eisiau rhagor o gymorth, mae llawer o sefydliadau y gallwch chi gysylltu â nhw. Mae rhestr o wahanol wasanaethau cymorth ar ddiwedd yr erthygl hon.
Astudio ac iechyd meddwl
Gall ein hiechyd meddwl a’n lles newid o ddydd i ddydd. Gall astudio mewn unrhyw Brifysgol, mewn unrhyw fodd, lyncu eich amser, a’i gwneud hi’n anoddach i chi gymryd amser i ofalu am eich iechyd meddwl.
Mae’n beth cyffredin iawn i chi gael anawsterau yn ystod eich amser yn fyfyriwr. Efallai y gwelwch fod astudio yn codi lefel straen a gorbryder, yn ogystal â gwaethygu problemau iechyd meddwl sydd gennych eisoes.
Daw’r anawsterau hyn ym mhob lliw a llun, a gallant effeithio ar eich astudiaethau mewn gwahanol ffyrdd. Boed chi wedi cael diagnosis o broblem iechyd meddwl, neu ddim, mae’n bwysig deall sut mae sylwi bod eich iechyd meddwl a’ch lles yn dioddef er mwyn i chi wneud rhywbeth. Yn gyntaf oll, er mwyn i chi allu teimlo’n ddiogel, yn iach a gwybod bod cymorth ar gael i chi, ond gall hefyd helpu i chi astudio yn effeithiol a llwyddo yn y brifysgol.
Cofiwch, nid ydych chi ar eich pen eich hun. Ar hyn o bryd, mae’r Brifysgol Agored yn cefnogi mwy na 10,000 o fyfyrwyr sydd wedi dweud wrthym fod ganddynt broblem iechyd meddwl. Os ydych chi’n teimlo eich bod chi’n cael trafferth ymdopi efo’ch astudiaethau, bydd gan ddarparwr eich addysg lwybrau i helpu.
Os ydych chi’n astudio efo’r Brifysgol Agored, siaradwch efo’ch Tîm Cymorth i Fyfyrwyr neu diwtor. Os ydych chi’n astudio mewn sefydliad arall, chwiliwch am enw eich sefydliad a ‘chymorth i fyfyrwyr’ i gael gwybod efo pwy i siarad. Fel arall, siaradwch â chynrychiolydd undeb y myfyrwyr neu eich darlithwyr a’ch tiwtoriaid.
Galar a phrofedigaeth
Gall colli rhywun agos atoch chi fod yn frawychus, boed yn gymar, yn aelod o’r teulu, yn ffrind neu’n gydweithiwr. Mae galar yn effeithio ar bawb yn wahanol. Rydych chi’n debygol o fynd drwy amryw o emosiynau wrth i chi ddechrau dod i delerau â’ch colled. Mae’n eithaf cyffredin i bobl deimlo:
-
Sioc a diffyg teimlad.
-
Euogrwydd am rywbeth ddaru chi ddweud neu ddim ei ddweud, eu am fethu ag atal marwolaeth eich anwylyd.
-
Blinder neu ludded.
-
Yn flin efo’u hunain, neu’r sawl maent wedi’i golli neu aelodau o’r teulu, gweithwyr proffesiynol neu’r rheswm am y golled.
-
Tristwch llethol efo llawr o grio.
Gall y teimladau pwerus hyn godi yn annisgwyl, ond efallai na fyddant yno drwy’r adeg. Nid oes ffordd gywir nac anghywir i deimlo, ond sut bynnag rydych chi’n teimlo gallwch chwilio am gyngor a chymorth gan y gwasanaethau isod.
Os ydych chi’n bod yn gefn i rywun sydd wedi cael profedigaeth, gall pethau bychain sy’n dangos caredigrwydd neu bryder wneud gwahaniaeth mawr i helpu pobl sy’n galaru. Er hynny, gall fod yn anodd siarad am farwolaeth ac mae llawer yn ei gweld hi’n anodd gwybod beth i’w ddweud pan fyddant yn ceisio bod yn gefn i rywun. Os ydych chi’n gofalu am rywun sydd wedi colli rhywun, mae gan Mind gyfoeth o gyngor ar sut i helpu y gorau gallwch chi.
Mae cyflwyniad i farwolaeth, marw a galar yn eich gwahodd i feddwl yn ddyfnach am wahanol safbwyntiau ar farwolaeth; yn ogystal â sut mae galar yn cael ei fynegi, i’ch helpu chi ddeall yn well y prosesau emosiynol y gallech chi, neu rywun arall, fod yn mynd drwyddynt.
Mae’n bwysig hefyd gofalu am eich lles eich hun tra byddwch chi’n gefn i eraill. Os ydych chi, neu rywun rydych chi’n ei gefnogi yn cael trafferth, gallwch gysylltu â’r gwasanaethau isod am fwy o gymorth a chyngor.
Rhagor o gyngor a chymorth ar iechyd meddwl
Rydych chi wedi darllen rhywfaint o gyngor ac arweiniad ar reoli eich iechyd meddwl a’ch lles, ond isod mae gwybodaeth a fydd yn eich arwain chi at wasanaethau cymorth allai eich helpu chi fwy.
Efallai y gwelwch fod angen cymorth arnoch chi efo rhywbeth penodol sydd wedi digwydd yn eich bywyd, neu sydd yn digwydd i chi ar hyn o bryd. Gall fod yn bwysig cael cymorth penodol yn gyntaf oll oherwydd gallai roi sylw i unrhyw faterion sydd yn gysylltiedig â’ch iechyd meddwl ac yn effeithio arno. Mae gan Mind restr gyfansawdd o wasanaethau ar draws y DU all helpu fel gwasanaethau argyfwng, cymorth ar gyfer bod yn gaeth ac yn ddibynnol, cyngor ar gam-drin yn y cartref a mwy.
Cofiwch mai dim ond mewn rhai rhannau o’r DU y mae rhai o’r gwasanaethau hyn ar gael.
Os oes angen cymorth brys arnoch chi, ffoniwch neu ewch i’r Uned Ddamweiniau ac Achosion Brys i gael cymorth ar unwaith.
Cydnabyddiaethau
Ysgrifennwyd yr erthygl gan y Brifysgol Agored yng Nghymru mewn partneriaeth â Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam, Addysg Oedolion Cymru, a Chymdeithas Myfyrwyr y Brifysgol Agored. Cafodd lawer o’r cynnwys yn yr erthygl hon ei gorffori gan ddefnyddio sylwadau o arolwg a wnaed ymysg myfyrwyr rhan amser ac Addysg Uwch Cymru yn 2020. Mae cysylltiadau wedi’u gosod yn uniongyrchol drwy gydol yr erthygl hon i fynd â chi at adnoddau defnyddiol eraill ond mewn rhai achosion mae gwybodaeth a chyngor wedi deillio a’u hail-bwrpasu o’r sefydliadau hyn: Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), Canolfan Gymorth y Brifysgol Agored, Mind Cymru ac Amser i Newid Cymru.
Mae’r adnodd hwn yn rhan o ‘Gasgliad Llesiant ac Iechyd Meddwl’ wedi ei greu gan y Brifysgol Agored yng Nghymru. Gallwch ddysgu mwy a dod o hyd i gyrsiau, erthyglau a gweithgareddau eraill ar dudalen hafan y casgliad.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon