Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Llywio drwy les: Edrych ar iechyd meddwl a lles

Diweddarwyd Dydd Llun, 15 Chwefror 2021
Gall bywyd fod yn gyfres o adegau gwell a gwaeth. Weithiau, mae’n anodd gwybod a ydym ni’n llawn ddeall beth yw ystyr termau fel iechyd meddwl a lles. Yn yr erthygl hon, byddwn yn edrych ar y termau hyn a sut mae’r pethau sydd yn digwydd i ni yn siapio ein hiechyd meddwl a’n lles. 

Byddwn hefyd yn eich helpu chi i ddeall mwy am werth cymorth cymdeithasol, cwsg, diet ac ymarfer corff, a sut all y rhain warchod ein lles. Yn olaf, byddwn yn edrych ar yr opsiynau sydd ar gael i ni o ran triniaeth os byddwn ni’n wael, ac yn dysgu mwy am y gwahanol fathau o therapi sydd ar gael. 

Graphic of training shoes surrounded by sports equipment, an iPhone monitoring heartbeat and an apple on a green background.

Beth yw lles?

Mae iechyd meddwl a lles yn dermau sy’n cael eu defnyddio’n gyffredin mewn iaith bob dydd. Er hynny, yn ôl gwaith ymchwil, mae lles yn gallu golygu rhywbeth gwahanol i bawb. Er enghraifft, pan ofynnwyd i fyfyrwyr y Brifysgol Agored grynhoi’r hyn oedd lles yn ei olygu iddyn nhw, defnyddiodd rai eiriau fel ‘bodlonrwydd’, ‘llonyddwch’ a ‘hapusrwydd’ oedd yn dangos eu bod nhw’n credu bod lles yn ymwneud ag agweddau ar iechyd meddwl. Er hynny, rhoddodd fyfyrwyr eraill eiriau oedd yn dangos eu bod nhw’n meddwl mai lles yw byw bywyd ‘heb waeledd’ ac roedd termau eraill yn canolbwyntio ar yr agweddau corfforol ar iechyd. Mae’r rhan fwyaf o academyddion bellach yn derbyn bod iechyd meddwl a lles corfforol ynghlwm wrth ei gilydd. Er enghraifft, mae’r diffiniad o iechyd meddwl a ddefnyddir gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn dibynnu ar gysyniad eang o ‘les’: 

Cyflwr lles ble mae pob unigolyn yn cyflawni eu potensial, yn gallu ymdopi gyda straen arferol bywyd, yn gallu gweithio’n gynhyrchiol ac yn llwyddiannus, ac yn gallu cyfrannu at gymdeithas. Mae’n gyflwr o les corfforol, meddyliol a chymdeithasol llawn, nid absenoldeb salwch neu wendid yn unig.

Er bod canmol i’r diffiniad hwn, bu rhywfaint o feirniadaeth hefyd oherwydd natur rhy bositif y diffiniad. Er enghraifft, awgryma rai academyddion nad yw canolbwyntio ar gyflwr lles cyflawn wastad yn ddefnyddiol, gan awgrymu bod llawer o bobl sydd ag iechyd meddwl da yn aml yn teimlo’n drist neu’n flin  (Galderisi et al, 2015). Ânt ymhellach gan ddweud nad oes posibl i ni fod mewn hwyliau cwbl hwyliog oherwydd nad oes gennym reolaeth lwyr ar ein hamgylchedd, na rheolaeth dros yr hyn sy’n digwydd i ni. Yn hytrach, mae cyfleu emosiynau negyddol i ymateb i sefyllfaoedd anodd mewn bywyd yn gwbl iach i’r meddwl. 

Mesur lles

Gan ein bod yn meddwl am ein lles personol, ac yn ei ddeall, mewn amrywiol ffyrdd, gallech feddwl y byddai’n anodd i’w fesur, neu o’i roi mewn ffordd arall, i roi rhif ar ein hymdeimlad o les. Fyddech chi ddim ar eich pen eich hun. Mae rhai pobl yn meddwl ei bod hi’n anodd, neu’n amhosibl hyd yn oed, i fesur rhywbeth fel lles. Er hynny, yn y DU, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn mesur lles personol yn y boblogaeth. Yn fyr, maent yn mesur lles personol drwy ei rannu yn bedair adran, a gall pob un effeithio ar les unigolyn yn gyffredinol:

  • Bodlonrwydd â bywyd yn gyffredinol
  • Teimlad bod y pethau a wnânt yn werth chweil
  • Lefel hapusrwydd
  • Lefelau gorbryder

Er mwyn mesur lles y genedl, defnyddir hwn i gael sgôr ‘lles’ cyffredinol. Mae’r dulliau hyn yn dibynnu ar ffyrdd safonedig o asesu effaith neu gyfraniad pob un o’r ffactorau hyn tuag at deimlad cyffredinol o les. Wrth wneud hynny, mae’r ymchwilwyr yn rhagdybio ac yn amcangyfrif. Yn y byd go iawn, mae’r ffordd y mae pob un o’r ffactorau hyn yn effeithio ar les rhywun yn dibynnu ar yr unigolyn sy’n eu cael nhw. Er enghraifft, bydd un ffactor yn effeithio fwy ar un unigolyn o gymharu ag unigolyn arall h.y. gall unigolyn weld bod gwneud gweithgareddau ystyrlon yn bwysicach na theimlo’n hapus yn gyffredinol.  

Mae manteision ac anfanteision i’r ffyrdd safonedig hyn o gyfrifo lles. Er hynny, gall ystadegau helpu ni edrych ar rai o’r mythau cyffredin am iechyd meddwl. Er enghraifft, tybiwyd unwaith mai dim ond pobl â phroblemau iechyd meddwl oedd yn gweld newid yn  eu hwyliau a’u hymdeimlad o les. Rydym bellach yn deall ei bod hi’n eithaf cyffredin gweld newid yn lles a hwyliau y rhan fwyaf o bobl. Mae data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos, ar gyfartaledd, bod pobl yn y DU wedi rhoi sgôr o 7.8 allan o 10 am y mynegai hapusrwydd. Yn ôl yr un gwaith ymchwil, roedd sgorau gorbryder, ar gyfartaledd, yn yr un boblogaeth yn 3.2 allan o 10. Gallwch chwilio am sut roedd pobl yn eich cod post chi yn teimlo drwy ddefnyddio’r mapiau lles personol rhyngweithiol.

Image of five young people stood in front of a brick wall with each holding up a simplified mask face in front of their own face. The faces get progressively happier from left to right.

Pa fath o ffactorau sydd yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles? 

Gall llawer o wahanol bethau effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles. Mae’n normal i’ch lles chi fod ar lefel wahanol ar wahanol adegau yn eich bywyd, ac yn dibynnu ar y pethau sydd yn digwydd o’n hamgylch ni. Mae’n bwysig derbyn bod ffactorau o’n cwmpas yn bwysig ac yn dylanwadu ar iechyd meddwl a lles. Yn aml, nid yw’r ffaith hon yn cael ei chydnabod ddigon. 

Er mwyn deall beth sydd yn effeithio ar les rhywun, mae angen i chi feddwl am eu hamgylchiadau unigol. Er enghraifft, mae amgylchiadau mewnol unigolyn (incwm, statws cyflogaeth, amgylchiadau byw a chymdeithasol), ochr yn ochr â’u hadnoddau personol (iechyd, ymdeimlad o wytnwch ac optimistiaeth), yn rhoi ymdeimlad o les iddynt. Cewch weld enghraifft o hyn yn y model isod yn Ffigur 1, model lles dynamig. 

Good feeling image in Welsh

Addaswyd y model hwn o adroddiad o’r enw Measuring Wellbeing gan The New Economic Foundation. Mae’n dangos sut mae gwahanol agweddau ar ein lles yn plethu â’i gilydd a sut mae gwella un agwedd yn gallu dylanwadu ar rannau eraill o brofiadau unigolyn. Er ein bod yn aml yn meddwl mai rhywbeth personol yw lles sy’n ymwneud â’n hwyliau a’n sgiliau ymdopi, gall pethau allanol sydd yn digwydd hyd yn oed effeithio ar les pobl sydd yn unigolion gwydn cryf ac yn weddol fodlon mewn bywyd. 

Cymorth cymdeithasol, cwsg a chynhaliaeth  

Yn ogystal â’r amrywiadau naturiol hyn, bydd gwahanol amgylchiadau, fel salwch corfforol, lefelau straen yn y gwaith, neu faterion ariannol, yn effeithio ar ein cyflwr emosiynol. Mae llawer o’r pethau hyn tu hwnt i’n rheolaeth. Er hynny, mae’n bwysig cofio bod rhai ffactorau o fewn ein rheolaeth all effeithio’n sylweddol ar ein lles. Cwsg yw un o’r ffactorau mwyaf hanfodol i’n lles meddyliol. Mae cwsg a lles yn perthyn yn gryf, mae’r un mor bwysig i’n hymdeimlad o les â mathau eraill o gynhaliaeth fel bwyd a dŵr. Er bod pawb ohonom yn ymwybodol o werth noson dda o gwsg, efallai nad ydym yn sylweddoli bod newidiadau yn ein bywyd yn gallu achosi straen seicolegol dwys a golygu bod ein blinder a’n hangen i gysgu yn gallu cynyddu. Efallai bydd apiau ymlacio fel Calm yn ddefnyddiol os ydych chi’n cael trafferth cysgu. Mae’r Sleep Council hefyd yn rhoi saith darn o gyngor ar gysgu’n well. 

Graphic of a hand with a heart in the middle of it and then a dotted circle around the edge which has 5 coloured bubbles at various points. The bubbles each have an image inside; the first shows a bicycle, the second shows a person meditating, the third shows an apple, the fourth has a heart and the final bubble shows a person snoozing in bed.

Mae diet yn un ffactor sydd wedi cael mwy a mwy o sylw. Yn ôl gwaith ymchwil newydd, mae anghydbwysedd mewn bacteria yn y perfedd yn gallu effeithio ar ein hiechyd meddwl. Mae Mind wedi creu fideo i’ch helpu chi ystyried effaith bwyd a’ch hwyliau. Gall newid eich diet deimlo’n beth anodd ar y dechrau, ond cofiwch nad oes raid i fwyta’n iach fod yn rhywbeth cymhleth na drud. Rhowch gynnig ar y syniadau hyn ar sut i fwyta’n dda am lai. 

Yn olaf, nid ydym yn rhoi digon o sylw i bwysigrwydd perthynas i’n hymdeimlad o les. Gwyddom fod ansawdd bywyd pobl sydd yn cael digon o gyswllt ag eraill yn aml yn well o gymharu â’r rheiny nad ydynt yn cael fawr o gyswllt cymdeithasol. 

Ar y llaw arall, mae unigrwydd yn ffenomen naturiol a bydd y rhan fwyaf o bobl yn teimlo’n unig ar ryw adeg yn eu bywyd. Gallwch deimlo’n unig hyd yn oed pan fyddwch chi yng nghanol pobl. Mae newidiadau cyffredinol mewn bywyd yn adegau allweddol sydd yn arwain i bobl deimlo’n unig, fel gadael cartref, dechrau swydd newydd, ymddeol neu ysgaru. Gall llawer o ymrwymiadau eraill mewn bywyd arwain at unigrwydd hefyd fel salwch, cyfrifoldebau gofalu neu brofedigaeth. 

Er bod y risg o deimlo’n unig yn gallu cynyddu efo oed, gwyliwch y sgwrs hon ble mae Dr Deborah Morgan yn trafod sut y gall unrhyw un deimlo’n unig a sut y gallwn leddfu unigrwydd.

Fel hanes Brian yn sgwrs Dr Morgan, gall unigolion hefyd fod wedi’u hynysu oddi wrth gymdeithas, sydd yn cael ei ddiffinio fel diffyg cysylltiad â phobl eraill. Mae gwledigrwydd, diffyg gwasanaethau cymorth neu drafnidiaeth yn eich ardal leol yn gallu eich ynysu oddi wrth gymdeithas, heb fawr o gyfleoedd i wneud cysylltiadau. Drwy fod yn ymwybodol o’r hyn sy’n achosi unigrwydd ac ynysu cymdeithasol, gallwch wneud rhywbeth i osgoi teimlo’n unig ac unrhyw effaith arall ar eich lles.

Mae cysylltiadau rhyng-genedliadol yn bwysig er mwyn goresgyn unigrwydd. Drwy ymwneud â phobl ar sail diddordeb, yn hytrach na grwpiau oedran, gall hyn helpu i feithrin perthynas werth ei chael. Gallwch gael boddhad mawr drwy wneud rhywbeth rydych chi’n ei fwynhau. Gall dysgu sgil newydd neu fod mewn addysg helpu, efallai y byddwch chi’n dymuno edrych ar OpenLearn, FutureLearn neu sefydliadau fel Men’s Sheds Cymru. Am fwy o gymorth, mae Heneiddio’n Dda yng Nghymru wedi datblygu canllaw poced i helpu efo unigrwydd. Er bod hwn wedi’i anelu at bobl hŷn, mae’r cyngor yn gyffredinol i helpu efo teimlo’n unig a gwneud cysylltiadau. 

Problemau iechyd meddwl

Mae’r erthygl hon wedi canolbwyntio ar deimladau lles ac wedi edrych ar rai o’r ffyrdd y gall ein lles corfforol a meddyliol ryngweithio. Mae’n bwysig bod yn ymwybodol bod gennym ‘iechyd meddwl’ yn yr un modd ag yr ydym yn gallu dweud fod gennym ‘iechyd corfforol’. Yn aml pan fyddwn ni’n siarad am iechyd meddwl, gallwn feddwl mai dyma’r materion all ddatblygu pan aiff pethau o chwith. Mae problemau iechyd meddwl, mewn gwirionedd, yn derm gwell i ddisgrifio’r hyn rydym ni’n aml yn cyfeirio ato. 

Gall y mathau hyn o broblemau fod yn fwy cuddiedig o’r golwg ac mewn rhai achosion cânt eu cuddio’n fwriadol oherwydd bod pobl yn poeni am y stigma. Fel y soniwyd ynghynt, mae iechyd meddwl yn amrywio o bryd i’w gilydd ac yn amrywio ar hyd graddfa fel ei bod hi’n anodd dweud pan fydd gan rywun broblem iechyd meddwl. Ond wrth ystyried salwch iechyd meddwl, gall fod yn ddefnyddiol mynd yn ôl at ddiffiniad Sefydliad Iechyd y Byd ar ddechrau’r erthygl hon. Y diffiniad yw cyflwr lles ble mae pob unigolyn yn cyflawni eu potensial, ac yn gallu ymdopi efo straen arferol bywyd, ac yn gallu gweithio’n gynhyrchiol.  

Yn gyffredinol, gellir barnu bod gan rywun broblem iechyd meddwl pan nad yw’n ymdopi gyda bywyd o ddydd i ddydd a methu gweithio na chyflawni ei botensial. Ffrindiau ac aelodau’r teulu sydd yn aml yn gweld bod rhywbeth o’i le. Efallai y byddant yn gweld nad yw eu perthynas yn gweithredu nac yn ymdopi efo gofynion arferol bywyd pob dydd. Gall hyn amlygu’i hun mewn amrywiaeth o ffyrdd, er enghraifft dim awydd bwyd, trafferth cysgu, neu golli diddordeb mewn diddordebau arferol. Er hynny, mae gwneud diagnosis o broblem iechyd meddwl yn dibynnu ar gael ymarferwyr meddygol i weld arwyddion a symptomau ‘nad ydynt yn iach’.

Graphic of four line drawn heads from a side view and displayed as two above two. The top left head has a low battery in it. The second head has clouds and lightning strike in it. The bottom left head has a knotted piece of string in it and the fourth head has three question marks in it.

Trin iechyd meddwl

Mae problemau iechyd meddwl yn wahanol i wahanol bobl. Er enghraifft, o ran iselder, efallai un episod gaiff rhai pobl, tra bydd eraill yn cael iselder o bryd i’w gilydd, ac eraill drwy’r adeg. Efallai bod angen help proffesiynol ond, mewn rhai achosion, mae’n bosibl gwneud newid a fydd yn gwella ymateb yr unigolyn i’w ofid a gwella’i les. Mae hunanofal (siarad efo ffrindiau, diet iach, ymarfer corff rheolaidd, gweithgareddau cymunedol ac ati) a gofal ffurfiol (seicotherapi, tabledi gwrth-iselder) yn ffyrdd effeithiol i drin salwch meddwl.  

Mae seicotherapi yn derm cyffredinol am ystod eang o arferion sef cwnsela neu therapïau siarad. Gwahanol fathau o seicotherapyddion sydd yn cynnal y rhain i gyd. Gall seicotherapydd fod yn seiciatrydd, yn seicolegydd neu’n weithiwr proffesiynol iechyd meddwl arall, sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol pellach mewn seicotherapi. Mae llawer o wahanol fathau o seicotherapi. Fe’u gelwir weithiau hefyd yn therapïau siarad ac maent yn cynnwys: 

  • Therapïau gwybyddol ymddygiadol 
  • Therapïau seicoddadansoddol
  • Therapïau seicodynamig
  • Seicotherapi systemig a theuluol
  • Therapïau celf a chwarae
  • Seicotherapïau dyneiddiol a chyfunol

Bwriad yr holl therapïau siarad hyn yw helpu pobl i oresgyn straen, problemau emosiynol neu berthynas neu arferion trwblus. Defnyddir gwahanol therapïau ar gyfer gwahanol fathau o broblemau. Yn dibynnu ar natur y problemau, gall therapi hefyd ddigwydd efo unigolion, grwpiau, cyplau a theuluoedd. Felly mae’n bwysig cofio os wnewch chi roi cynnig ar un math o therapi a bod hwnnw ddim yn llwyddo, y gallai rhai eraill fod yn fwy effeithiol. Gallwch ddefnyddio gwefan Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain i chwilio am wahanol seicotherapyddion yn eich ardal chi. Neu gyfeiriadur Cymdeithas Seicolegol Prydain i chwilio am seicolegydd.

Casgliad 

Un o’r pethau pwysicaf allwch chi ddysgu o hyn i gyd yw ei bod hi’n bwysig cofio nad oes un ffactor sydd yn dylanwadu ar les – mae lles yn ganlyniad cyfuniad o lawer o wahanol agweddau ar fywyd unigolyn i gyd yn rhyngweithio gyda’i gilydd. 

Nid yw ein lles meddyliol yn sefydlog a gall newid dros amser wrth i’n hamgylchiadau newid. Mae’r syniad bod iechyd meddwl yn gallu edrych yn wahanol i wahanol bobl yn bwysig hefyd. Gall iechyd meddwl fod mewn gwahanol ffurfiau. Bydd yn amrywio yn ôl y profiadau a gawn, gall y pethau sy’n digwydd i ni effeithio arnom ni er gwell ac er gwaeth. Mae’n bwysig cydnabod bod ystod o ffactorau allanol weithiau yn effeithio ar ein bywyd, ac mai ychydig o reolaeth sydd gennym dros rai ohonynt, ond gall y cyfan ohonynt effeithio ar ein lles a’n hiechyd meddwl. 

Yn anad dim, gall pob un ohonom gael cyfnodau trist neu deimlo’n orbryderus, yn ogystal â theimlo’n hapus neu’n gyffrous. Mae’n bwysig cydnabod bod ein hwyliau yn newid ac i ni wybod beth sydd yn normal i ni yn bersonol. Mae’n bwysig hefyd gofalu ein bod yn adnabod y pethau hynny mae angen i bob un ohonom eu gwneud er mwyn cymryd rheolaeth ar ein hiechyd meddwl i sicrhau ein bod yn cadw’n iach. 

Am gyngor ar eich iechyd meddwl, cewch ragor o wybodaeth am wasanaethau lleol a chenedlaethol yma.

 

Cyfeiriadau 

Galderisi S, Heinz A, Kastrup M, Beezhold J, Sartorius N. Toward a new definition of mental health. World Psychiatry. 2015;14(2):231-233. doi:10.1002/wps.20231.

 

Mae’r adnodd hwn yn rhan o ‘Gasgliad Llesiant ac Iechyd Meddwl’ wedi ei greu gan y Brifysgol Agored yng Nghymru. Gallwch ddysgu mwy a dod o hyd i gyrsiau, erthyglau a gweithgareddau eraill ar dudalen hafan y casgliad.


 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Awdur

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?