Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Oes gen i broblemau iechyd meddwl ac a ddylwn i gael help?

Diweddarwyd Dydd Llun, 15 Chwefror 2021
Sut mae canfod bod rhywbeth sydd wedi achosi straen wedi datblygu i fod yn broblem iechyd meddwl? Dyma bum pwynt y gallwch eu defnyddio fel canllaw....

Mae’n ddigon posib y byddwch chi rywbryd yn eich bywyd yn cael rhyw fath o broblem iechyd meddwl, a'r mathau mwyaf cyffredin yw iselder a gorbryder. Ond, oherwydd nad yw'r mwyafrif o bobl sydd â chyflwr iechyd meddwl byth yn gofyn am unrhyw fath o gymorth neu driniaeth ffurfiol, ni fydd llawer o'r problemau iechyd meddwl hyn yn cael eu canfod. Mae astudiaethau hydredol (h.y. ymchwil sy’n cael ei chynnal gyda'r un bobl dros lawer o flynyddoedd) yn ategu’r syniad bod cael profiad o anhwylder neu gyflwr iechyd meddwl y gellir ei ddiagnosio ar ryw adeg mewn bywyd yn beth arferol yn hytrach nag eithriad. Mewn astudiaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Schaefer a’i gydweithwyr (2017), canfuwyd bod gan dros 80% o'r rheini a gymerodd ran yn eu hastudiaeth iechyd a datblygiad gyflwr iechyd meddwl y gellid ei ddiagnosio, o adeg eu geni hyd ganol oed. Roedd hyn o blith grŵp cynrychiadol o dros 1000 o bobl oedd wedi cael eu hastudio dros gyfnod o bedwar degawd.

Felly, os bydd y mwyafrif ohonom yn cael profiad o salwch meddwl ar ryw adeg yn ein bywydau, pam mae pobl yn ei chael mor anodd adnabod yr arwyddion a'r symptomau, a chael triniaeth? Dyma bum rheswm pam y gallai pobl fod yn amharod i ofyn am help proffesiynol: 

1: Stigma sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl a’i effaith 

Yn anffodus, mae stigma’n gysylltiedig o hyd â chael diagnosis o gyflwr iechyd meddwl. Hawdd deall pam felly, o gofio'r stigma hwn, bod pobl â phroblemau iechyd meddwl yn poeni y bydd pobl yn eu beirniadu ac yn eu hystyried yn wan. O ganlyniad, mae llawer yn cadw eu profiadau iddyn nhw eu hunain neu’n gwadu bod ganddyn nhw broblem. Yn ffodus, erbyn hyn mae mwy o warchodaeth i'w gael rhag gwahaniaethu ar sail salwch meddwl yn sgil deddfwriaeth fel Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae'r warchodaeth gyfreithiol hon yn ei gwneud yn haws i bobl siarad am eu problemau iechyd meddwl, yn enwedig yn y gweithle. Ar ben y datblygiadau cyfreithiol hyn, mae ymgyrchoedd cyhoeddus mawr wedi ceisio herio stigma sy’n gysylltiedig  ag iechyd meddwl a chryfhau ymwybyddiaeth o’i effaith negyddol. Er enghraifft "Amser i Newid Cymru", fu’n ceisio lleihau stigma cysylltiedig ag iechyd meddwl a gwahaniaethu ers 2012.

Time to change in Welsh

2: Problemau ysgafn i gymedrol 

Mae pob unigolyn yn wahanol, ac mae’n gallu bod yn anodd i ni weld os yw'r hyn rydyn ni’n cael profiad ohono yn ‘normal’ ai peidio. “Dydy normal yn ddim byd mwy na rhaglen ar beiriant golchi dillad” meddan nhw, a'r norm go iawn yw y bydd y mwyafrif ohonom yn cael profiad o salwch meddwl ar ryw adeg yn ein bywydau. I'r mwyafrif ohonom, anawsterau ‘ysgafn i gymedrol’ fydd y rhain. Er enghraifft, mae cyfnodau byr o deimlo’n isel yn gyffredin ac yn aml yn ymateb normal i bethau sy’n achosi straen i ni. I'r mwyafrif o bobl, mae gofyn am gefnogaeth gan eu ffrindiau a/neu aelodau'r teulu yn gallu eu helpu i ddod drwy gyfnodau anodd o'r fath. Mae adnoddau hunangymorth ac ymyriadau fel ymwybyddiaeth ofalgar hefyd yn gallu bod yn ddefnyddiol o ran helpu pobl i oresgyn heriau bywyd. Os bydd eich hwyliau isel neu broblemau iechyd meddwl eraill yn parhau ac yn effeithio ar eich cwsg, eich perthynas ag eraill, eich swydd a/neu eich awydd am fwyd, mae’n gallu bod yn arwydd bod angen cymorth ychwanegol arnoch chi, a byddem yn argymell eich bod yn mynd i weld eich meddyg teulu.

Whoopi Goldberg quote in Welsh

Mae’r dyfyniad hwn wedi cael ei gyfieithu i’r Gymraeg.  Mae’r fersiwn Saesneg wreiddiol i’w gweld yma.
 

3: Pa bryd mae'r sefyllfa yn wirioneddol wael?

Mae’n bwysig eich bod yn gallu gweld pa bryd mae problem iechyd meddwl wedi datblygu i fod yn broblem go iawn. Mae llawer o bobl yn ei chael h'in anodd sylweddoli pa bryd mae eu problemau iechyd meddwl yn fwy difrifol. Efallai bod hyn yn ymddangos yn rhyfedd, ond oherwydd ei bod yn bosib bod rhywun wedi bod yn dioddef dros gyfnod hir o amser, efallai na fydd ei symptomau yn cael effaith ddramatig yn y dechrau. Ar ben hyn, hyd yn oed pan mae problemau iechyd meddwl yn gallu bod yn wanychol, efallai y bydd rhywun yn dal i deimlo nad yw ei broblemau’n ddigon difrifol i gyfiawnhau triniaeth broffesiynol. Os ydych chi’n poeni’n ddi-baid, yn cael profiadau dychrynllyd neu’n teimlo’n ofidus yn barhaus, mae cael cymorth a gwybodaeth wirioneddol yn gallu helpu. Efallai y bydd hyn yn golygu mynd i weld eich meddyg teulu i ddechrau. Weithiau, mae angen i bobl gael gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol ac mae meddyg teulu yn gallu helpu pobl i gael gafael ar wasanaethau o'r fath. Mae meddygon teulu yn helpu llawer o bobl gyda’u problemau iechyd meddwl, ac mae rhai arwyddion wedi bod yn ddiweddar eu bod yn cefnogi mwy a mwy o bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.

The University Hospital of Wales in Cardiff.

4: Cael triniaeth 

Mae sawl math o gefnogaeth ac ymyrraeth ar gael i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Ond mae’n gallu bod yn anodd gwybod beth i chwilio amdano wrth geisio cael help. Mae dod o hyd i'r math o gefnogaeth sy’n addas i chi yn gallu bod yn llethol ac yn flinedig ynddo’i hun. Ai seicotherapydd sydd ei eisiau arnoch chi? Seicolegydd ymarferydd? Cwnselydd? Ydi meddyginiaeth yn opsiwn? Ai cyfuniad o feddyginiaeth a therapi wyneb yn wyneb yw'r ymyriadau gorau i chi? Beth sy’n cael ei ariannu a beth y mae angen i chi dalu amdano? Mae heriau ynghlwm hefyd â chael sesiwn neu apwyntiad ar adeg ac mewn lle sy’n gyfleus i chi. Cafodd y rhaglen Gwella Mynediad i Therapïau Seicolegol (IAPT) ei lansio bron i 10 mlynedd yn ôl, ac mae dros 900,000 o oedolion yn dioddef o iselder a gorbryder wedi cael triniaeth drwy'r rhaglen hon, mewn sesiynau unigol ac mewn fformat grŵp. Ond, mae rhestr aros ar gyfer IAPT a mathau eraill o therapi sy'n cael eu hariannu gan y wladwriaeth. I'r rheini sydd ag arian i dalu am driniaeth, mae gwefannau fel welldoing.org yn gallu helpu pobl i ddod o hyd i therapydd.

mental health counselling cartoon

5: Diffyg gobaith

Mae gobaith yn hanfodol bwysig i bob un ohonom, ond pan mae rhywun yn brwydro â phroblemau iechyd meddwl, mae gobaith yn gallu bod dan fygythiad. Weithiau ni fydd pobl yn gofyn am help, hyd yn oed os ydyn nhw’n sylweddoli bod ganddyn nhw broblemau sylweddol, yn rhannol oherwydd eu bod yn teimlo mor negyddol am eu dyfodol. Mae teimlo’n ddiobaith am y dyfodol yn arwydd bod rhywun angen chwilio am help. Gall hwn ddod gan aelod o'r teulu, eich meddyg teulu, Samaritans Cymru, drwy linell wybodaeth MIND Cymru neu gan ffrind rydych chi’n ymddiried ynddo.

Bydd y mwyafrif ohonom yn cael pwl o salwch meddwl yn ystod ein hoes. Yr her ydi adnabod yr arwyddion a chwilio am help priodol pan mae angen yr help hwnnw arnoch. Un o'r pethau gorau y gallwch chi ei wneud yw siarad â phobl rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw am sut rydych chi’n teimlo a gofyn am help pan mae ei angen arnoch. 

Hope and despair in Welsh

Cyfeirnod

Schaefer, J. D. et al. (2017). Enduring mental health: Prevalence and prediction. Journal of Abnormal Psychology, 126(2), 212-224.

 

Mae’r adnodd hwn yn rhan o ‘Gasgliad Llesiant ac Iechyd Meddwl’ wedi ei greu gan y Brifysgol Agored yng Nghymru. Gallwch ddysgu mwy a dod o hyd i gyrsiau, erthyglau a gweithgareddau eraill ar dudalen hafan y casgliad.


 

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Awdur

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?