Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Pum rheswm pam dylai ymwybyddiaeth ofalgar fod yn bwysig i chi

Diweddarwyd Dydd Llun, 15 Chwefror 2021
Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn golygu canolbwyntio ar y presennol a derbyn eich teimladau, eich meddyliau a theimladau eich corff ar yr un pryd. Pam bod ymwybyddiaeth ofalgar yn bwysig?

1: Mae amser wedi dangos bod ymwybyddiaeth ofalgar yn gweithio - Mae pobl wedi bod yn ei ymarfer ers canrifoedd

woman doing yoga on a rock on the beach Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn seiliedig ar ddoethineb arferion penodol sydd â’u gwreiddiau yn y traddodiad Bwdhaidd, a chrefyddau eraill hefyd. Gellir ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar fel y mae wedi’i hymarfer ers dros fil o flynyddoedd trwy ioga, myfyrdod a thechnegau anadlu.

Awgrym ymarferol: Un ffordd o ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar yw neilltuo rhywfaint o amser bob dydd i wneud ymarfer syml. Ar gyfer yr ymarfer hwn, bydd angen i chi eistedd yn dawel a thalu sylw i’ch anadlu, gan ganolbwyntio’n ôl ar eich anadlu os bydd eich meddwl yn crwydro (mae’n swnio’n eithaf hawdd, ond mae’n galw am dipyn o ymdrech). Ewch ar wefan GIG i gael rhagor o wybodaeth. 

2: Gall ymwybyddiaeth ofalgar eich helpu i reoli rhywbeth rydyn ni gyd yn ei brofi - poen

Mae poen yn rhan o’r cyflwr dynol, ni ellir ei hosgoi, ond nid oes rhaid i’r meddwl na’r corff ymateb yn reddfol i brofiadau poenus. Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn sgìl sy’n ein galluogi ni i ymateb llai i beth sy’n digwydd yn yr eiliad bresennol. Mae’n ffordd o gysylltu â’n profiadau (cadarnhaol, negyddol a niwtral) mewn ffordd benodol, er mwyn lleihau ein poen gyffredinol a gwella ein hymdeimlad o lesiant.

Awgrym ymarferol: Mae Ruby Wax yn siarad am sut mae ymwybyddiaeth ofalgar wedi gwneud gwahaniaeth i’w bywyd o ran rheoli iselder a phoen.

Gwyliwch y clip hwn ar YouTube.

Fodd bynnag, fel y dywed Ruby “...ni allwch fynd i’r gampfa i wneud dim ond un eisteddiad”, fel gydag ymarfer corff, mae’n rhaid i chi ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar.

 

3: Gall y mwyafrif ohonom ni gael ein tynnu i mewn i’r fagl o fod yn anfeddylgar

Os rydym yn hollol onest â ni’n hunain, prin iawn rydyn ni’n bod yn feddylgar. Fel arfer, rydym yn cael ein denu at batrymau meddwl di-fudd neu’n canolbwyntio ar bethau sydd ddim yn ymwneud â’r presennol, dyma yw anfeddylgarwch. Er enghraifft, yn ystod amser bwyd, mae’r rhan fwyaf ohonom yn bwyta’n rhy gyflym i feddwl am beth rydym yn ei fwyta a mwynhau’r profiad, gan ein bod yn rhy brysur yn llowcio’r bwyd.

Awgrym ymarferol: Dylech fwyta’n arafach, rhoi’r teledu neu’r cyfrifiadur i ffwrdd, a chreu gofod lle gallwch werthfawrogi blas a theimlad y bwyd rydych yn ei fwyta, a thalu sylw i’r profiad.

4: Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn helpu llawer o bobl yn y Deyrnas Unedig a thramor yn barod

Roedd Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni’n canolbwyntio ar ymwybyddiaeth ofalgar, oherwydd bod y Sefydliad Iechyd Meddwl yn meddwl ei fod yn  fuddiol iawn.  Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn cael ei gynnwys mwy mewn ymchwil hefyd. Yn 1970, roedd tua 24 erthygl wedi’i chyhoeddi am ymwybyddiaeth ofalgar, erbyn 2014, roedd bron i 20,000 o erthyglau.

Awgrym ymarferol: Rhowch gynnig ar y Podlediad hwn gan y Sefydliad Iechyd Meddwl (“Ymwybyddiaeth Ofalgar – ymarfer 10 munud), sydd wedi’i leisio gan yr Athro Mark Williams, sy’n arbenigwr ym maes ymwybyddiaeth ofalgar.

5: Gallwn ni gyd gymryd amser i ‘stopio a mwynhau’r eiliad bresennol’

Pan glywsom fod un o benodau’r gyfres ‘All in the Mind’ am ganolbwyntio ar ymwybyddiaeth ofalgar, fel tîm yn y Brifysgol Agored, gwnaethom ddechrau siarad am yr amseroedd lle’r oedden ni’n bod yn anfeddylgar yn anfwriadol. Mae hyn yn digwydd i bobl sydd wedi defnyddio ymwybyddiaeth ofalgar fel therapi. Dyma pam bod angen i ni gyd atgoffa ni’n hunain beth yw gwerth ymwybyddiaeth ofalgar.

Awgrym ymarferol: Ewch am dro yn yr awyr agored, sylwch sut mae’r planhigion a’r coed yn newid gyda’r tymhorau, sylwch ar yr arogleuon, neu sut mae’r tymheredd yn teimlo ar eich croen, a gwerthfawrogi bod yn yr eiliad honno.   

Trawsgrifiad

 

 

Mae’r adnodd hwn yn rhan o ‘Gasgliad Llesiant ac Iechyd Meddwl’ wedi ei greu gan y Brifysgol Agored yng Nghymru. Gallwch ddysgu mwy a dod o hyd i gyrsiau, erthyglau a gweithgareddau eraill ar dudalen hafan y casgliad.


 

Like this? Try our FREE courses

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Awdur

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?