Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
Awdur: Helen Dare

Rheoli amser ac astudio

Diweddarwyd Dydd Llun, 15 Chwefror 2021
Boed chi’n fyfyriwr llawn amser neu ran amser, mae astudio yn debygol o olygu ymrwymiad arall yn eich bywyd. Wrth i ni geisio cydbwyso llawer o bethau, gall hyn weithiau effeithio ar ein lles a gwneud i ni deimlo fod pethau’n ormod.

Yma, awn ni â chi ar daith drwy amser (rheoli amser) i edrych ar ychydig o gyngor all eich helpu chi i gydbwyso bywyd, addysg a phethau eraill allai fod yn mynnu eich amser. Cyn i chi ddarllen mwy, edrychwch ar bytiau o gyngor syml ar reoli amser a meddyliwch ba rai rydych chi’n eu gwneud ar hyn o bryd a ble allech chi wneud mwy.

Gwneud amser

Time management ‘Does dim dianc rhag y ffaith y gall bywyd fod yn brysur iawn a bod llawer i’w jyglo. Gall Cynlluniwr Amser Y Brifysgol Agored eich helpu chi weld yn union sut allwch chi wneud amser i astudio o gwmpas eich ymrwymiadau eraill. Drwy ddefnyddio cynlluniwr, gallwch amserlennu popeth sy’n digwydd, pob apwyntiad a thasg fel nad ydych chi’n mynd yn brin o amser. Gallwch ei ddefnyddio i osod dyddiadau cwblhau i’ch helpu chi gadw gafael ar bethau a chynllunio amser ychwanegol i’ch hun a threulio amser gyda’ch anwyliaid. 

Am fwy o gyngor helaeth, mae’r Brifysgol Agored yn darparu digonedd o wybodaeth ar gael amser i astudio. Cofiwch, gallwch ddefnyddio’r cyngor hwn ar gyfer pob agwedd ar fywyd. Boed chi’n gwrando ar bodlediad sy’n gysylltiedig â’ch astudiaethau ar eich siwrne, yn darllen dros frecwast, neu’n defnyddio eich amser cinio i wneud y galwadau ffôn ‘gweinyddol’ hynny mewn bywyd. Mae defnyddio eich amser sbâr yn hanfodol i’ch lles ac er mwyn rheoli amser yn dda.

Yn ôl Thivashni, Gradd Meistr mewn Addysg yn y Brifysgol Agored mewn Arfer Gynhwysol: 

Fel arfer mi fyddai’n gwneud nodiadau cludadwy h.y. nodiadau sain mp3 o’r gwaith darllen helaeth mae’n rhaid i mi wneud fel ‘mod i’n gallu gwrando arnynt unrhyw dro pan fyddai’n gwneud gwaith tŷ neu’n teithio. Mi fyddai’n gwrando ar fy nodiadau wrth wisgo amdanaf a choginio ac ati, felly rydw i’n ymwneud â’r deunydd yn aml. Rydw i’n athro llawn amser felly mae amser yn brin iawn i mi ac mae angen dyblu’r oriau mewn diwrnod. 

Cadw trefn a gwybod sut i flaenoriaethu

Mae’r ymadrodd ‘tŷ glân, meddwl glân’ yn nodi’n glir bod cael amgylchedd trefnus o’ch cwmpas yn gallu helpu gyda rheoli lefelau straen. Diolch i gyfres Marie Kondo ar Netflix, sydd yn ein hannog i ‘greu llawenydd’ tra rydym yn tacluso ein cartrefi, mae cydnabyddiaeth bod cael trefn yn llesol.  

Drwy roi hyn ar waith a rhoi trefn ar elfennau eraill, llai ffisegol yn eich bywyd, gall hyn helpu chi i reoli eich amser a blaenoriaethau gwahanol, sydd yn fwy llesol eto. 

Mae llawer o gyngor i’w gael ym mhob twll a chornel o’r rhyngrwyd ar sut i fod yn fwy trefnus yn y gwaith all fod yn berthnasol i reoli eich astudiaethau. Mae Dr Robert Leahy yn trafod sut mae rhannu gweithredoedd a chanolbwyntio ar y manylion,  yn hytrach nag edrych ar dasgau mawr brawychus, yn gallu helpu efo straen a rheoli llwyth gwaith.

Gellir defnyddio’r ddamcaniaeth drwy ddechrau gyda’r math symlaf o drefn: Y Rhestr Wneud. Mewn byd ble mae technoleg wastad ar flaenau ein bysedd, mae apiau am ddim fel Trello a Remember the Milk, neu apiau mae’n rhaid talu amdanynt fel Evernote, yn gallu helpu i reoli ein rhestri gwneud a blaenoriaethu tasgau. 

Drwy gael rhestri gwneud a meddwl am effaith pob tasg, gall hyn wella eich sgiliau rheoli amser gam ymhellach drwy greu: Matrics Blaenoriaeth Gweithredu. Ceisiwch roi sgôr allan o 10 ar gyfer pob tasg ar eich Rhestr Wneud ar ddwy raddfa. Yn gyntaf, sgoriwch y dasg am yr effaith gaiff y gweithgaredd ar eich nodau cyffredinol. Yn ail, am yr ymdrech sydd ei angen i’w gwblhau. Gan ddefnyddio’r templed isod, gallwch blotio pob gweithgaredd ar y matrics gan ddefnyddio’r sgorau hyn. Gallwch weld ar unwaith y tasgau sydd yn rhoi’r mwyaf yn ôl i chi am eich ymdrech, a ble i flaenoriaethu eich amser. 

Graph image in Welsh

Wrth feddwl am gydbwyso pob agwedd ar fywyd, gan gynnwys gweithio, astudio ac ymrwymiadau personol, mae’n werth ystyried hefyd yr effaith emosiynol sydd yn dylanwadu ar arwyddocâd cyffredinol tasg. Er mwyn rhoi tipyn o her i’r ffordd rydych chi’n blaenoriaethu a’r strategaethau rydych chi’n eu defnyddio i reoli eich amser, gwyliwch Rory Vaden yn trafod ‘Sut i luosi amser’.

Triciau pob dydd i arbed amser

Soniwyd ynghynt y gallwch ddefnyddio amser  prydau i astudio mwy. Dim ond os bydd eich prydau yn barod i’w bwyta y bydd hyn yn hawdd, ble nad oes rhaid i chi ddefnyddio amser i wneud prydau i chi eich hun, ac efallai eraill yn eich teulu. Gall pethau mewn bywyd sy’n arbed amser, fel paratoi prydau, deimlo’n frawychus i ddechrau, ond nid oes rhaid i hyn fod yn anodd. Gallwch wneud dwbl y pryd bwyd y noson gynt a chael y sbarion i ginio. Dyma rai syniadau am ryseitiau i’w coginio mewn sypiau, a gallwch rewi llawer ohonynt. Gallech hefyd neilltuo awr pob penwythnos i baratoi prydau. Mae Tasty yn darparu ‘yr unig ganllaw ar baratoi bwyd y mae angen i chi ei ddilyn’.

Gall hyn edrych fel petai’n dasg enfawr, ond bydd yn arbed amser i chi yn nes ymlaen yn yr wythnos. Petaech chi’n gwylio fideo Rory Vaden, dyma enghraifft berffaith o “Elwa drwy fuddsoddi amser”. Er enghraifft, gyda chinio wedi’i baratoi gallech drefnu’r apwyntiad hwnnw rydych chi wedi bod yn bwriadu’i wneud ers wythnosau neu efallai gorffen darllen pennod ar gyfer aseiniad. 

Mae’n werth nodi mai’r ffordd orau i baratoi prydau yw drwy wneud hyn ochr yn ochr â’r ‘siopa wythnosol’, sydd hefyd yn gallu helpu chi gyllidebu. Mae ysgrifennu rhestr siopa a defnyddio sbarion bwyd yn gyngor y mae’r GIG yn ei roi ar sut i fwyta’n dda os yw arian yn dynn ond bydd y cynghorion hyn hefyd yn helpu chi fod yn fwy trefnus.

Gohirio, gorweithio a gofalu am eich hun

Mae pawb yn osgoi gwneud pethau, neu fel yr ydym eisoes wedi trafod, yn rhoi blaenoriaeth i bethau eraill yn gyntaf, ac felly oedi rhag gwneud rhywbeth arall. Gall ‘gohirwyr’ osgoi tasgau anodd a mynd ati’n fwriadol i chwilio am bethau i dynnu’u sylw, all amharu’n sylweddol ar eu gallu i reoli amser. Os ydych chi’n gweld bod y brawddegau hyn yn wir amdanoch chi, efallai eich bod chi’n un am ohirio pethau. 

  • Rydych chi’n aml yn gwneud tasgau yr oeddech chi wedi bwriadu’u gwneud ddyddiau ynghynt. 
  • Rydych chi’n gweld nad yw pethau’n cael eu gwneud hyd yn oed pan nad oes fawr ar ôl i’w wneud. 
  • Rydych chi’n oedi rhag gwneud penderfyniadau, hyd yn oed pan fydd yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi o’ch blaen chi. 
  • Pan fydd gennych chi rywbeth anodd i’w wneud, rydych chi’n aros i’w gwblhau ac yn dweud wrthych eich hun y gwnewch chi o pan fyddwch chi wedi cael ‘mwy o ysbrydoliaeth’.
  • Rydych chi’n aml yn rhuthro i gwblhau tasgau ar amser. 

 

Gall gohirio fod yn demtasiwn, ond gall fod yn niweidiol. Os ydych chi’n dueddol o fod yn un am ohirio pethau, meddyliwch pam. Efallai bod ofn methu arnoch chi, mae perffeithiaeth yn aml yn rhinwedd mewn gohirwyr cronig. Unwaith y byddwch chi’n gwybod pam eich bod chi’n gohirio, gallwch feddwl sut i roi’r gorau i hyn. Mae cyngor ar ohirio a sut i fynd i’r afael â hyn ar gael ar y we. Gwyliwch y fideo isod hefyd gan Med School Insiders ar saith cam i helpu efo gohirio. 

Yn ôl Graham, myfyriwr o’r Brifysgol Agored:

Mae’n bwysig cymryd diwrnod i ffwrdd i adnewyddu’r meddwl. Mae’n debyg y byddwch chi’n teimlo na fedrwch chi fforddio gwneud hyn, ond mae angen amser segur arnoch chi. Ewch i redeg, cymerwch amser i edrych ar y byd o’ch cwmpas chi, mae’n werth cymryd seibiant. 

‘Ddim eisiau’ neu ‘methu’ gwneud rhywbeth? Gall hyn edrych fel petaech chi’n gohirio pethau, ond gall fod yn arwydd cynnar eich bod chi’n gorweithio eich hun nes eich bod wedi llwyr ymlâdd. Yn dibynnu ar faint rydych chi wedi ymlâdd, mae amrywiaeth o gyngor ar fynd i’r afael â symptomau ond tynnir sylw at bwysigrwydd gofalu amdanoch eich hun yn aml i gychwyn.

Mae’n bwysig cymryd amser i chi eich hun wrth astudio, sut bynnag y byddwch chi’n dewis gwneud hyn. Ceisiwch ddilyn cyngor Mind ar hunan ofal neu ddarllen profiad Rachel o ddarganfod hunan ofal tra’n cydbwyso bywyd ag astudio ar wefan y Sefydliad Iechyd Meddwl. Gallwch hefyd ddarllen am strategaethau lles allai helpu gyda’ch trefn i ofalu amdanoch eich hun.

Am fwy o gymorth a chyngor gyda’ch iechyd meddwl, gan gynnwys straen arholiadau neu orweithio, gallwch gael gwybodaeth ar y dudalen ‘cymorth i chi a’ch iechyd meddwl’.  

Cydnabyddiaethau

Ysgrifennwyd yr erthygl gan y Brifysgol Agored yng Nghymru mewn partneriaeth â Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam, Addysg Oedolion Cymru, a Chymdeithas Myfyrwyr y Brifysgol Agored. Cafodd lawer o’r cynnwys yn yr erthygl hon ei gorffori gan ddefnyddio sylwadau o a wnaed arolwg ymysg myfyrwyr rhan amser ac Addysg Uwch Cymru yn 2020. Mae cysylltiadau wedi’u gosod yn uniongyrchol drwy gydol yr erthygl hon i fynd â chi at adnoddau defnyddiol eraill ond mewn rhai achosion mae gwybodaeth a chyngor wedi deillio a’u hail-bwrpasu o’r sefydliadau hyn: Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), Y Brifysgol Agored a Psychology Today.


Mae’r adnodd hwn yn rhan o ‘Gasgliad Llesiant ac Iechyd Meddwl’ wedi ei greu gan y Brifysgol Agored yng Nghymru. Gallwch ddysgu mwy a dod o hyd i gyrsiau, erthyglau a gweithgareddau eraill ar dudalen hafan y casgliad.

 

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Awdur

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?