Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Straen a phryder yn yr oes ddigidol: Ochr dywyll technoleg

Diweddarwyd Dydd Llun, 15 Chwefror 2021
Pam bod technoleg newydd yn gwneud i lawer ohonom deimlo’n bryderus a dan straen? Mae Dr Gini Harrison a Dr Mathijs Lucassen yn edrych ar y pum prif ffactor sy’n achosi straen:

Mae technoleg ym mhob man, ac mae ffonau symudol wedi dod yn rhan allweddol o fywyd bob dydd. Yn ôl ffigurau Ofcom yn 2017, mae 94% o oedolion y DU yn berchen ar ffôn symudol; ac mae dros dri chwarter y ffonau hynny’n rhai clyfar. Er bod ffonau symudol wedi’u dylunio’n wreiddiol i hwyluso galwadau wrth grwydro, mae arolwg defnyddwyr ffonau symudol (2016) Deloitte yn awgrymu nad yw traean o ddefnyddwyr ffonau clyfar yn gwneud galwadau llais traddodiadol o gwbl. Yn lle, mae ein ffonau’n cael eu defnyddio fel cyfrifiaduron symudol, ar gyfer edrych ar e-byst, siopa ar-lein, darllen y newyddion, llwytho cerddoriaeth a fideos i lawr, ymgysylltu ar y cyfryngau cymdeithasol, archebu bwyd, darllen mapiau... a llawer iawn mwy. Mae'r rhyngrwyd yn ein pocedi bob amser a gallwn ddod o hyd i’r ateb i unrhyw gwestiwn bron wrth glicio un botwm. Ond er bod y datblygiadau hyn o ran swyddogaethau a mynediad technolegol yn wych; mae rhai anfanteision. 

Mae tystiolaeth ein bod ni’n dibynnu gormod ar ein ffonau, neu hyd yn oed yn gaeth iddyn nhw. Meddyliwch sut ydych chi’n teimlo pan rydych yn sylweddoli eich bod wedi anghofio eich ffôn, neu wedi’i adael yn rhywle. Mae’n gallu gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus dydy? Yn wir, mae ymchwil ddiweddar wedi dangos bod rhai pobl yn profi straen a phryder sylweddol pan maent wedi’u gwahanu oddi wrth eu ffôn. Maent hyd yn oed yn gallu profi symptomau tebyg i'r rhai mae pobl yn eu cael pan maent yn gaeth i rywbeth. Mae rhywfaint o ymchwil wedi dangos bod lefelau uchel o ymgysylltu â ffonau clyfar a thechnoleg amlgyfrwng yn gallu newid strwythur a swyddogaeth ein hymennydd. 

Felly, pam bod technoleg yn gwneud i lawer ohonom ni deimlo’n bryderus a dan straen? Dyma rydyn ni’n meddwl yw’r pum prif beth sy’n achosi straen:

1: Tynnu Sylw Parhaol  

Cyn i chi ddarllen mwy, gwyliwch y fideo hwn ar YouTube sy’n dangos sut mae’r rhyngrwyd yn effeithio ar ein hymennydd.

Mae’r hysbysiadau sy’n bipian, yn dirgrynu neu’n fflachio’n gyson yn golygu bod ein ffonau’n tynnu ein sylw yn barhaus ac rydym yn cael ein hannog i stopio beth rydyn ni’n ei wneud i edrych ar ein ffonau. Yn wir, gwnaeth astudiaeth yn y DU ganfod bod defnyddwyr ffonau clyfar yn datgloi eu ffonau 85 gwaith y diwrnod ar gyfartaledd; ac yn eu defnyddio am oddeutu pum awr bob diwrnod. Mae hyn yn golygu nad ydym yn gallu canolbwyntio’n iawn na chofio pethau, sy’n achosi i ni deimlo fwyfwy fel ‘pysgodyn aur’, ac mae hynny ynddo’i hun yn gallu achosi straen.  Atgyfnerthir hyn gan ymchwil sy’n dechrau dangos cydberthynas rhwng defnydd sylweddol o ffonau clyfar a’r rhyngrwyd a sgiliau gwybyddol isel fel canolbwyntio, cofio a dysgu. 

2: Patrwm Cysgu Anghyson

woman asleep with her smartphone

Mae llawer ohonom ni’n defnyddio ein ffonau pan mae hi’n amser gwely. Rydych yn mynd i’r gwely gyda’r bwriad o gysgu, ond rydych chi am edrych ar eich ffôn (dim ond am ‘eiliad’) i chwilio am rywbeth dibwys fel y tywydd yfory... ac yna awr wedyn rydych chi dal ar eich ffôn yn gwylio fideo, ac yn ceisio penderfynu a ydych yn clywed llais cyfrifiadur yn dweud ‘yanny’ neu ‘laurel’. Mae edrych ar ein ffonau pan ddylem fod yn mynd i gysgu yn effeithio’n negyddol arnom ni mewn dwy ffordd, drwy or-ddeffro ein hymennydd a’i gwneud yn anodd i ni ymlacio a mynd i gysgu, a drwy ddod â ni i gysylltiad â golau glas o’r sgrin. Mae ymchwil yn awgrymu bod cysylltu â sgrin las yn gallu arwain i'r corff yn gynhyrchu llai o felatonin, sy’n amharu ar ein rhythmau circadaidd (hynny yw patrymau cysgu-deffro), gan ei gwneud yn fwy anodd i ni fynd i gysgu ac aros ynghwsg. Yn anffodus, mae cwsg gwael yn tueddu i olygu llai o wytnwch a lefelau uwch o bryder a straen. 

3: Cydbwysedd rhwng Bywyd a Gwaith

Work life balance in Welsh

Yn y gorffennol roedd ffin glir rhwng pryd oedd bywyd gwaith yn dod i ben a bywyd gartref yn dechrau... nid yw’r ffin hon mor glir bellach. Mae’r mwyafrif ohonom ni’n cael e-byst gwaith ar ein ffonau, sy’n golygu ein bod ar gael drwy’r amser ac mae pobl yn gallu cysylltu â ni unrhyw bryd. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd iawn i ni ddat-gysylltu’n llwyr o’r gwaith ac ymlacio.

4: Mae F.O.M.O

...neu Ofn Colli Allan yn fath o bryder cymdeithasol sy’n deillio o’r ofn eich bod yn colli allan ar rywbeth; boed hynny’n ddigwyddiad, yn gyfle gwaith neu gyfle cymdeithasol, neges, cysylltiad posibl, neu rywbeth cŵl yr hoffech ei weld neu fod yn rhan ohono. Felly rydyn ni eisiau bod mewn cysylltiad... ‘rhag ofn’.  Er mwyn profi hyn, gofynnwch i’ch ffrindiau a’ch teulu os ydyn nhw wedi ystyried tynnu eu hunain oddi ar y cyfryngau cymdeithasol erioed. Fel ni, mae’n debyg eu bod nhw wedi ystyried hynny... ond mae’r mwyafrif yn penderfynu peidio, oherwydd eu bod yn Ofni Colli Allan. Yn eironig, po fwyaf o gysylltiad sydd gennym ni, y mwyaf tebygol ydyn ni o fod ag Ofn Colli Allan. Mae hyn oherwydd bod ag Ofn Colli Allan yn cael ei achosi’n aml gan y postiadau rydyn ni’n eu gweld ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, gan eu bod yn ein harwain i gredu bod ein ffrindiau a’n cydnabod yn cael profiadau cyffrous a/neu ddiddorol pan nad ydym ni yno. I gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil sy’n edrych ar y berthynas rhwng defnyddio ffonau clyfar mewn ffordd sy’n arwain at broblemau, Ofn Colli Allan a llesiant meddyliol, cliciwch yma.

5: Cymhariaeth Gymdeithasol

Gall sianeli cyfryngau cymdeithasol wneud i ni feddwl bod bywydau pobl eraill yn well, ond ydyn nhw go iawn? Gwyliwch Beth sydd ar eich meddwl cyn darllen mwy.

Ni allwn beidio â chymharu ein hunain ag eraill, ac mae theori cymhariaeth gymdeithasol yn awgrymu ein bod ni’n defnyddio’r cymariaethau hyn i werthuso sut rydym yn meddwl ac yn teimlo amdanom ni’n hunain. Mae'r cyfryngau cymdeithasol, oherwydd eu natur, yn annog cymhariaeth gymdeithasol gan eu bod yn llawn gwybodaeth a ellir ei defnyddio’n hawdd fel metrig llwyddiant cymdeithasol ymddangosiadol (ee ffrindiau, hoffi, rhannu, dilynwyr ac yn y blaen). Mae’r metrigau hyn yn achosi problemau hefyd oherwydd os nad ydym yn cael digon o bobl yn hoffi sylwadau neu lun rydyn ni wedi’u rhannu, neu os oes mwy o bobl wedi hoffi postiadau rywun arall neu os oes ganddynt fwy o ffrindiau na ni, mae’n gallu gwneud i ni deimlo’n israddol. Felly, mae’r gwahaniaeth rhwng bywyd go iawn a beth mae pobl yn ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn golygu ein bod ni ond yn tueddu i weld ‘uchafbwyntiau’ bywydau pobl eraill sydd wedi’u golygu’n sylweddol. Mae hyn yn rhoi’r camargraff bod gan bobl eraill fywydau mwy cyffrous/perffaith/diddorol na ni ond go iawn mae pawb yn cael dyddiau da, dyddiau drwg a rhai yn y canol... gan gynyddu’r tebygolrwydd o gymariaethau cymdeithasol negyddol, a allai arwain at ganlyniadau difrifol o safbwynt ein llesiant.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut mae osgoi a/neu reoli straen ddigidol yn ein herthygl gysylltiedig

 

References

Andrews, S., Ellis, D. A., Shaw, H., & Piwek, L. (2015). Beyond self-report: tools to compare estimated and real-world smartphone use. PloS one, 10(10), e0139004.

Appel, H., Gerlach, A. L., & Crusius, J. (2016). The interplay between Facebook use, social comparison, envy, and depression. Current Opinion in Psychology, 9, 44-49.

Chang, A. M., Aeschbach, D., Duffy, J. F., & Czeisler, C. A. (2015). Evening use of light-emitting eReaders negatively affects sleep, circadian timing, and next-morning alertness. Proceedings of the National Academy of Sciences112(4), 1232-1237.

Cheever, N. A., Rosen, L. D., Carrier, L. M., & Chavez, A. (2014). Out of sight is not out of mind: The impact of restricting wireless mobile device use on anxiety levels among low, moderate and high users. Computers in Human Behavior37, 290-297.

Corcoran, K., Crusius, J., & Mussweiler, T. (2011). Social comparison: Motives, standards, and mechanisms. D. Charee (Ed.), Theories in Social Psychology, Wiley (2011), pp. 119-139

Deloitte (2017). There’s no place like phone.  Consumer usage patterns in the era of peak smartphone. http://www.deloitte.co.uk/mobileuk2016/?_ga=2.233534102.96578695.1526645345-1184893347.1526645345 (accessed 18/5/2018)

Elhai, J. D., Levine, J. C., Dvorak, R. D., & Hall, B. J. (2016). Fear of missing out, need for touch, anxiety and depression are related to problematic smartphone use. Computers in Human Behavior, 63, 509-516.

Hughes, N., & Burke, J. (2018). Sleeping with the frenemy: How restricting ‘bedroom use’of smartphones impacts happiness and wellbeing. Computers in Human Behavior, 85, 236-244.

Konok, V., Pogány, Á., & Miklósi, Á. (2017). Mobile attachment: Separation from the mobile phone induces physiological and behavioural stress and attentional bias to separation-related stimuli. Computers in Human Behavior71, 228-239.

Loh, K. K., & Kanai, R. (2014). Higher media multi-tasking activity is associated with smaller gray-matter density in the anterior cingulate cortex. Plos one, 9(9), e106698.

McCuistion, T. S. (2016). The Relationship Between Resilience and Sleep Quality. Electronic Theses and Dissertations; Digital Commons@ACU

Ofcom (2017). Fast Facts; Statistics and facts on the communications industry taken from Ofcom research publications. https://www.ofcom.org.uk/about-ofcom/latest/media/facts (accessed 18/5/2018)

Seabrook, E. M., Kern, M. L., & Rickard, N. S. (2016). Social networking sites, depression, and anxiety: a systematic review. JMIR mental health, 3(4), e50

Seo, H.S., Jeong, E., Sungwon, C., Kwon, Y., Park, H. & Kim, Inseong (2017) Neurotransmitters in Young People with Internet and Smartphone Addiction: A Comparison with Normal Controls and Changes after Cognitive Behavioral Therapy. RSNA conference presentation in Neuroradiology (Cognitive and Psychiatric Disorders): http://archive.rsna.org/2017/17040126.pdf (accessed 18/5/2018)

Tromholt, M. (2016). The Facebook experiment: Quitting Facebook leads to higher levels of well-being. Cyberpsychology, Behavior, and Social Networking, 19(11), 661-666.

Wilmer, H. H., Sherman, L. E., & Chein, J. M. (2017). Smartphones and cognition: A review of research exploring the links between mobile technology habits and cognitive functioning. Frontiers in psychology8, 605.

 

Mae’r adnodd hwn yn rhan o ‘Gasgliad Llesiant ac Iechyd Meddwl’ wedi ei greu gan y Brifysgol Agored yng Nghymru. Gallwch ddysgu mwy a dod o hyd i gyrsiau, erthyglau a gweithgareddau eraill ar dudalen hafan y casgliad.


 

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Awdur

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?