Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ymdopi ag Iselder

Diweddarwyd Dydd Llun, 15 Chwefror 2021
Mae'r erthygl hon yn trin a thrafod beth sy'n gallu digwydd pan mae pobl yn cael eu gorlethu gan deimladau o ofn a thristwch sydd mor ddwys nad ydyn nhw’n gallu mynd ymlaen â’u bywyd bob dydd. Ynddi mae tri o bobl sydd wedi bod yn ddigon dewr i herio’r stigma posib o fod yn agored am eu hargyfwng a’u defnydd o wasanaethau iechyd meddwl yn rhoi cipolwg inni ar eu taith.

Y cwbl rydych chi eisiau ei wneud ydi camu allan o bopeth, gadael y ras, y busnes i gyd. Mae erchyllter bywyd yn eich llethu.

Mae'r deunydd hwn yn rhan o gwrs Y Brifysgol Agored, sef D240 Cwnsela: archwilio ofn a thristwch. Mae wedi cael ei addasu o fideo Saesneg i greu erthygl yn Gymraeg. 

 

Trisha Goddard

Roeddwn i wedi f'amddifadu o gwsg. Roeddwn i’n gweithio nifer hurt o oriau'r wythnos. Ni allwn i’n fy myw a thynnu fy nhrwyn oddi ar y maen mewn unrhyw ffordd. Roeddwn i’n gweithio’n galetach ac yn galetach. Roeddwn i’n gweithio mwy a mwy o oriau. Yng ngolwg y sianel deledu, mi fyddwn wedi bod yn gwbl wych, ond roeddwn i'n teimlo’n hollol wag y tu mewn.

 

Trisha Goddard

 

Jim Brown

Mi fyddwn yn cael y teimlad ofnadwy yma o gorddi yn fy stumog; byddai’n troi ac yn troi. Roeddwn i’n mynd yn chwys oer drosta i a byddai cledrau fy nwylo’n chwysu - holl symptomau nodweddiadol gorbryder a dweud y gwir. Ac  ... i raddau fwy neu lai, mae hynny wedi aros gyda mi.  

 

Jim Bowen

 

Stephen Fry

Rydych chi'n dod i'r pwynt pan mae'r gwacter yna, gwacter y dyfodol, mor enbyd, yn gymaint o wal ddu o ddim byd, dim hyd yn oed pethau drwg, dydi o ddim fel pe bai'r dyfodol yn ogof llawn o angenfilod y mae arnoch chi ofn mynd i mewn iddi. Dim ond diddymdra. Y néant chwedl y Ffrancwyr. Le vide, y gwagle, y gwacter ac mae o’n ... ofnadwy.  

 

Stephen Fry

 

Sylwadau

Er bod teimladau o ofn a thristwch fel arfer yn ymatebion priodol a normal i bethau sy’n digwydd mewn bywyd, maen nhw’n gallu datblygu i fod mor oruchafol ac anodd eu trin nes bod pobl yn gofyn am help proffesiynol i ddelio â nhw. Mae'r anawsterau hyn yn aml yn cael eu hystyried yn ‘orbryder’ neu ‘iselder’ os ydyn nhw’n cael eu diagnosio.

 

Trisha Goddard

Wrth edrych yn ôl, mae’n debyg fy mod i wedi cael fy mhwl cyntaf o iselder pan oeddwn i yn f’arddegau, ond bryd hynny, yn ôl yn y 70au, y 70au cynnar, doedd pobl ddim yn ei adnabod.

 

Sylwadau

Mae Trisha Goddard fwyaf adnabyddus ym Mhrydain am ei sioe lwyddiannus lle'r oedd hi’n annog pobl eraill i drin a thrafod eu problemau. Ond chwalodd ei nerfau pan oedd hi’n cyflwyno rhaglen deledu ac yn rhedeg ei chwmni cynhyrchu ei hun yn Awstralia. 

 

Trisha Goddard

Mae pobl yn meddwl am iselder fel un peth, sef teimlo’n drist, a dyna ni.  Ond mae sawl math gwahanol o iselder. A dweud y gwir, roeddwn i’n orfywiog ... ac, yn 14 oed, rydw i'n cofio teimlo nad oedd gen i ddim rheolaeth ar bethau, a fy ffordd i o geisio cael rheolaeth oedd rhoi'r gorau i fwyta.  Umm - roeddwn i’n arfer byw ar joch o sieri a bisged bob dydd cyn mynd i’r ysgol. Roedd o’n rhyw fath o gosb hefyd, ond roedd gen i rywfaint o reolaeth dros hynny. Mi ddechreues i gyffwrdd pethau, fel tapiau. Fy rhif i oedd 4. Roeddwn i’n obsesiynol iawn. Roedd gen i sawl defod roedd yn rhaid i mi eu gwneud. A'r adeg honno, doedd neb wedi clywed am orbryder, anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD), na dim byd felly. Ond rydw i’n gwybod, ar ôl darllen fy nyddiaduron, rydw i’n gwybod fy mod i’n amlwg yn dioddef o iselder.  

 

Woman with her head down

 

Sylwadau

Mae Jim Brown yn beiriannydd ac yn dad. Mae hefyd wedi ysgrifennu llyfr am ei frwydr hir â gorbryder eithafol.  

 

Jim Brown

Wel, 'dwi’n meddwl fod y gorbryder yma wedi bod yn rhan ohono’i gydol fy mywyd mae’n debyg, a dwi’n meddwl fod hynny’n ymwneud ag, um, fy mherthynas i ag awdurdod a dweud y gwir. Yn benodol, wel, wyddoch chi, y prif unigolyn ag awdurdod ar y pryd wrth gwrs oedd fy nhad. Roedd y gorbryder yn ymwneud â bodloni gofynion pobl eraill cyn fy ngofynion fy hun. Os ydi hyn yn para yn ddigon hir, mae’n golygu dydych chi ddim yn dilyn eich diddordebau eich hun na diwallu eich anghenion na’ch dymuniadau eich hun mewn gwirionedd. 'Dwi’n meddwl bod yr iselder yn dod yn sgil hynny. 

 

Sylwadau

Mae'r actor, yr awdur a’r cyflwynydd Stephen Fry hefyd yn gallu gweld bod ei anhwylder deubegynol wedi dechrau yn ei arddegau.

 

Two heads together

 

Stephen Fry

Roedd yn dipyn o sioc pan wnes i sylweddoli bod y teimladau a'r meddyliau am ladd fy hun roeddwn i'n eu cael yn anghyffredin, nid y norm. Roedd llawer o deimladau eraill roeddwn i’n eu cael yn hollol normal. Ond mi ddysgais i mai'r hyn oedd yn anarferol oedd yr awydd oedd gen i i weld fy mywyd yn dod i ben a cheisio gwneud rhywbeth am y peth, ac fe wnes i hynny ychydig o weithiau o tua 17, 18 oed ymlaen. 

 

Trisha Goddard

Roeddwn i'n arfer meddwl bod yr holl fathau yna o ymddygiad yn normal. Rydych chi’n gallu normaleiddio'r peth yn eich meddwl eich hun. Ac fe ddaeth delio ag iselder, fel petai, yn rhan o bwy oeddwn i, tan i fy nerfau chwalu yn 1994. A dyna pa bryd y bu'n rhaid imi fynd i ysbyty meddwl am bum wythnos ac er mwyn dod allan, roedd yn rhaid imi siarad â seiciatrydd ddwywaith yr wythnos. A dyna pryd y rhoddwyd enw i'r peth: ‘iselder’.

 

Jim Brown

Y tro cyntaf iddo fod yn broblem go iawn oedd pan oeddwn i'n 28 oed, pan ges i bwl gwirioneddol wael o iselder. Roeddwn i ar bigau drain yn fy ngwaith ac roeddwn i’n gweld fy hun yn dechrau poeni am deimlo'n bryderus ac yn poeni fy mod i'n poeni! Ac fe drodd y cwbl yn gylch. Felly, yn nhermau gofalu amdanaf fy hun, gwneud bwyd a chael digon o gwsg yn gyson, aeth y cyfan ar chwâl. Yn y pendraw wrth gwrs, bu'n rhaid imi fynd i'r ysbyty.

 

Sylwadau

Yn y 1990au hwyr, roedd Stephen Fry yn ymddangos mewn drama yn y West End pan gafodd bwl o iselder ofnadwy.  Un noson, roedd yn eistedd yn ei gar yn y garej ar fin lladd ei hun.  Ond, yn hytrach, mewn anobaith a dryswch, aeth ar y fferi i Ffrainc.

 

Stephen Fry missing newspaper headlines

 

Stephen Fry

Mi welais i'r holl benawdau papur newydd yma yn dweud pethau fel ‘Fears for Fry’ a syllu arnyn nhw mewn anghrediniaeth lwyr. Roeddwn i wedi fy syfrdanu. Fedrwn i ddim credu gymaint roedd pobl yn poeni. Ar ôl sylweddoli ei fod, drwy amryfusedd, wedi ysgogi ymgyrch chwilio rhyngwladol amdano, dychwelodd i Lundain a mynd i'r ysbyty. Cafodd ddiagnosis o anhwylder deubegynol.

 

Stephen Fry

Peth ofnadwy ydi rhagweld dyfodol diddyfodol, os nad ydi hynny’n rhy amhosib. Y cwbl rydych chi eisiau ei wneud ydi camu allan ohono. Camu allan o'r holl ras, yr holl fusnes. Mae erchyllter bod yn fyw yn eich llethu.

 

Trisha Goddard

Yn y gorffennol, pan oeddwn i’n mynd drwy gyfnodau o deimlo’n isel, fe fyddwn i’n cysgu llawer. Hyd yn oed os nad oeddwn i’n gallu cysgu yn y nos, roedd fy meddwl i’n rasio yn y nos, roeddwn i’n gallu dal i fyny â'r cwsg hwnnw yn ystod y dydd.  Pan chwalodd fy nerfau, y gwahaniaeth oedd bod gen i fabi newydd, roeddwn i’n rhedeg cwmni teledu ac yn cyflwyno rhaglen deledu. A doeddwn i’n cael dim cwsg oherwydd bod gen i fabi newydd.  Am 3 o'r gloch y bore, roedd fy meddwl yn 'sglefrio’ fel roeddwn i’n ei alw - roedd yn troi ac yn troi wrth imi boeni a chynhyrfu; roedd fy mhriodas wedi chwalu.  Roeddwn i newydd ddod i wybod bod fy ngŵr ar y pryd wedi bod yn anffyddlon i mi ac roeddwn i'n meddwl - ‘Sut ydw i'n mynd i ymdopi, beth ydw i’n mynd i wneud? Oes raid imi wneud y sioe?’ Ac wedyn roedd yna lais arall yn fy mhen yn dweud, ‘Bydd ddistaw, taw, taw, mae angen i ti gysgu’. Felly roedd yna lawer o siarad yn mynd ymlaen yn fy mhen. O’r tu allan, doedd pobl ddim yn gallu gweld hynny. Roeddwn i’n barod i sgwrsio. Roeddwn i'n hwyliog. Yn rhy hwyliog. Roedd rhai pobl yn dweud ‘Be sy’n bod arnat ti?’ ac roeddwn i’n amddiffynnol iawn. Doeddwn i ddim yn coelio, pe baech chi wedi dweud wrtha’i bryd hynny fy mod i’n dioddef o iselder, fyddwn i ddim wedi’ch coelio chi ac mae hyn yn broblem y mae angen i bobl gofio amdani. Mae yna sawl math o iselder.  

 

Jim Brown

Mi wnes i fynd i'r ysbyty fel claf gwirfoddol, i’r ward seiciatrig. Ar y pryd, oherwydd fy mod i wedi colli gymaint o gwsg am wn i, doeddwn i ddim yn gwybod yn iawn beth oedd yn digwydd i mi ac mi dreuliais i noson waethaf fy mywyd mae’n debyg, na, noson waethaf fy mywyd yn bendant, ar fatres. Mi ges i ryw fath o feddyginiaeth i ysgogi rhyw fath o gwsg a gorffwys, ond mi wnes i wrthod ei chymryd hi. O ganlyniad, mi ges i noson ofnadwy. Ond dros yr ychydig ddyddiau nesaf yn sicr fe wnaeth y feddyginiaeth fy helpu i gael rhyw fath o drefn normal ar fy mywyd bod dydd unwaith eto. Ac erbyn diwedd yr wythnos, roeddwn i'n teimlo’n ddigon da i adael, ond doeddwn i dal ddim wedi gwella’n llwyr o bell ffordd.

 

Trisha Goddard

Roeddwn i'n meddwl, dim ond imi gymryd digon o dabledi, ac yfed digon, o leiaf mi ga’ i noson dda o gwsg. Doedd hynny ddim yn ffordd synhwyrol o feddwl ac yna cyn gynted ag y sylweddolais i beth oeddwn i wedi’i wneud, mi ffoniais i rywun i ofyn iddi hi ofalu am y plant, ond mi wnes i hynny mewn llais digynnwrf iawn. Roedd hi’n digwydd bod yn ffrind da iawn i mi oedd yn seicolegydd ac yn feddyg. Roedd hi wedi deall y sefyllfa, wedi gweld trefn pethau. Mi aethon nhw â fi i'r ysbyty ac yn y diwedd mi fues i yno am bum wythnos. Ac mi eisteddais i ar droed y gwely ... pan ddes i ataf fy hun roeddwn i'n flin iawn bod rhywun wedi fy neffro [chwerthin], ac mi eisteddais i ar erchwyn y gwely heb symud, heb ddweud dim, achos roeddwn i'n meddwl pe bawn i'n aros yn  berffaith llonydd, mi fyddai fy mhroblemau a’r byd yn diflannu ac mi fyddai pobl yn gadael llonydd imi.

 

Yn 2006 roedd Stephen Fry yn ffilmio rhaglen ddogfen am ei frwydr ag iechyd meddwl pan gafodd bwl tywyll o iselder.

 

Stephen Fry Secret Life  

 

Stephen Fry (troslais)

Dros yr ychydig ddyddiau diwethaf roeddwn i wedi bod yn teimlo’n fwy a mwy isel.

 

Stephen Fry (i'r camera)

Cyfnod tywyll iawn ar y funud ac y ... mi fyddwn i wrth fy modd pe bawn i’n rhywle arall heblaw fan hyn a bod yn onest. Rydw i'n gwbl ymwybodol fy mod i’n berson ofnadwy iawn i fod yn ei gwmni. Rydw i'n ei chael yn anodd edrych i lygad pobl. Rydw i’n ei chael yn anodd iawn creu cyswllt â phobl, dwi’n ei weld o’n um ...  Y cwbl sydd arna i eisiau ydi bod ar fy mhen fy hun a dweud y gwir. Dim ond gweddïo y bydd yn mynd heibio, achos mae’n fucking codi fy ngwrychyn i a dwi’n casáu fy hun amdano. Dydw i erioed wedi meddwl fy mod i'n clywed lleisiau ond mi ydw i, mi ydw i, mi ydw i um mi ydw i’n clywed llais yn fy mhen drwy’r amser yn dweud wrtha'i fy mod i’n ****[bîp] llwyr.

 

Stephen Fry (troslais)

Fel arfer, pan ydw i’n teimlo fel hyn, mi fyddai’n cuddio. Alla i ddim gwneud hynny y tro yma. Dwi’n cael profiad o'r math hwnnw o iselder sy'n lladd bob teimlad tair neu bedair gwaith y flwyddyn ac mae o’n para rhwng wythnos a deg diwrnod. Dwi’n treulio'r amser yn y tŷ yn syllu ar y nenfwd.

 

Sylwadau

Mae newid difrifol mewn hwyliau yn parhau i fod yn nodwedd ganolog o fywyd Stephen Fry. 

 

Stephen Fry

I mi, mae hwyliau fel y tywydd. Os ydi hi’n bwrw glaw, waeth ichi heb na dweud nad ydi hi ddim: mae o’n beth go iawn, wyddoch chi. Mae'r dŵr yna wirioneddol yn disgyn o'r awyr. Mae o’n gallu dal rhywun yn annisgwyl, achos mae o’n gallu digwydd mewn rhyw fath o gyfnod o drawsnewid yn eich hwyliau chi, pan rydych chi'n teimlo mewn hwyliau eithaf da mewn gwirionedd, a dydych chi ddim yn deall y peth achos mae o fel petai’r cymylau yn dod i mewn ond rydych chi'n teimlo’n dda. Felly, rydych chi’n meddwl, ‘Mae hyn yn wirioneddol od, beth oedd hyn’na?’ ac wedyn, ac wedyn, rydych chi’n gwybod, ddau ddiwrnod yn ddiweddarach efallai, ei fod wedi mynd yn drymach ac yn drymach.  

 

Trisha Goddard

Mi gyrhaeddais i’r pwynt pan oedd yn rhaid i mi roi taw ar yr holl leisiau yn fy mhen ac mi arweiniodd hynny at orddos. Nawr mae pobl wedi dweud, ‘O, mi wnaethoch chi geisio lladd eich hun’. Eto, yn fy mhen, dydw i ddim yn ystyried hynny’n hunanladdiad a phan fyddai’n siarad â phobl sy’n teimlo fel lladd eu hunain, dydw i byth yn gofyn y cwestiwn hwnnw iddyn nhw. Rydw i’n gofyn iddyn nhw, ‘Wyt ti eisiau iddo fo stopio?’ Mae yna wahaniaeth. Mae o’n wahaniaeth cynnil, ond mae o’n wahaniaeth. Mae llawer o bobl yn dweud dydyn nhw ddim yn teimlo fel lladd eu hunain, ond bod arnyn nhw eisiau i'r sŵn yn eu pennau stopio, neu eu bod nhw am weld diwedd ar y marweidd-dra, ac rydych chi’n cyrraedd sefyllfa lle byddech ch’n gwneud unrhyw beth i’w stopio.   

 

Sylwadau

I Trishia, roedd gwneud y pethau bach, bob dydd i ofalu amdani hi ei hun a’i theulu eto yn rhan o’i hadferiad. Ond roedd angen help arni i wneud hynny.

 

Two hands together

 

Trisha Goddard

Roedd gen i nani ar y pryd, diolch i’r drefn, ac fe fu bron iddi hi â dod yn nani i mi hefyd.  Roedd hi’n arfer dweud, ‘Rydw i wedi rhoi bath i'r plant, mae 'na ddŵr yn fan’na, mewn â ti’. Mi fyddai hi’n rhoi cnoc ar y drws ar ôl cyfnod penodol o amser a dweud ‘Wyt ti am fy helpu i wneud bwyd i'r plant?’. Felly, doedd hi ddim yn fy ngadael i ar fy mhen fy hun am gyfnod rhy hir yn y bath. Roedden nhw wedi deall bod yn rhaid i mi gael rhywbeth i'w wneud a dyna sut y des i drwyddi.   

 

Sylwadau

Drwy ddarllen y dechreuodd gwellhad Jim Brown.

 

Jim Brown

Mi ddechreues i ddarllen. Rydw i’n darllen llawer o lyfrau hunangymorth a dydi rhai ohonyn nhw ddim yn dda iawn, ond mae un neu ddau yn sefyll allan. Roedd yna un gan feddyg teulu o'r enw Dr Brian Roet, oedd yn sôn am y pethau mae pobl yn eu gwneud i geisio datrys eu problemau ond sydd, mewn gwirionedd, yn gwneud y broblem yn waeth ac yn ei chynnal hi. Mi ddechreues i ddarllen yn fwy eang ac mi ddarllenais i lwyth o lyfrau gan bobl uchel eu parch sy'n gwybod, sydd wedi cael profiad o iselder eu hunain ac sydd wedi dod o hyd i ffordd ymlaen. Ac mi gymerais i berchnogaeth o'r peth a dweud gwir, fel rhywbeth gwirioneddol werthfawr.

 

Reading by a tree

 

Sylwadau

Drwy ddarllen, dechreuodd Jim Brown archwilio cwnsela a seicotherapi, a'r amrywiol ddulliau oedd yn cael eu defnyddio yn y meysydd hyn. Aeth Stephen Fry i weld therapydd ar ôl cael gwybod bod ganddo anhwylder deubegynol.

 

Stephen Fry

Y therapi siarad gorau mewn gwirionedd ydi therapi gwrando, dydi o ddim yn therapi siarad o gwbl. Mae ganddyn nhw ystafell lle gallwch chi siarad â chi eich hun a'r cleient neu'r claf sy’n gwneud y rhan fwyaf o'r siarad, wyddoch chi. Ac wedyn, o bryd i'w gilydd, mi gewch chi'r peth arferol, wyddoch chi, lle rydych chi’n dweud ‘Dwi’n gwybod na ddylwn i’. Wedyn maen nhw’n dweud ‘Pam ydych chi’n dweud na ddylech chi?’  Ac rydych chithau’n dweud ‘Na, rydych chi'n iawn, o ia’, wyddoch chi .... mi gewch chi ychydig bach o hyn’na.

 

Two women talking

 

Trisha Goddard

Math arall o gwnsela ydi Therapi Gwybyddol Ymddygiadol. Mae hwn yn aml yn cael ei ddefnyddio i fynd i'r afael â phatrymau ymddygiad, syniadau a meddyliau problemus ac i ddatblygu strategaethau ymdopi newydd.

 

Jim Brown

Mae'r ymarferion Therapi Gwybyddol Ymddygiadol yn arbennig o dda, achos ... maen nhw’n eich gorfodi chi i feddwl am sut rydych chi'n meddwl a’r tybiaethau rydych chi'n eu gwneud. Rydw i’n trïo meddwl am enghraifft um - mae 'trychinebu’ yn enghraifft dda. Mae sawl un ohonom yn tueddu i ddechrau drwy ddweud ‘Wel, dydw i ddim yn teimlo’n dda iawn heddiw’, ac wedyn yn ychwanegu at hynny drwy ddweud rhywbeth fel ‘Wel, dydw i byth yn teimlo’n dda, dwi bob amser yn teimlo’n ofnadwy’, ac, wrth gwrs, nid felly y mae hi.  

 

Trisha Goddard

Roedd angen i mi gael therapi gwybyddol ymddygiadol dim ond er mwyn imi allu dod drwy'r pyliau o banig a phethau felly ac oherwydd fy mod i angen arweiniad o ran ‘cymryd y cam nesaf, sut ydw i’n mynd i reoli hyn’.  Felly fe wnaeth therapi gwybyddol ymddygiadol fy helpu i, hwnnw a seicotherapi - hynny yw, ailedrych ar pam roedd hyn i gyd wedi digwydd a pha batrymau roeddwn i’n eu hailadrodd drosodd a throsodd. Mi wnaeth hynny ddechrau rhoi rhyw ymdeimlad o reolaeth i mi. Roeddwn i'n gallu rheoli'r pyliau o banig o ddydd i ddydd, y newid yn fy hwyliau a'r siarad â mi fy hun ac roedd gen i reswm drostynt. Doedd o ddim oherwydd fy mod i’n wan nac yn wirion neu beth bynnag. Roedd gen i reswm pam roeddwn i’n cael fy hun mewn sefyllfaoedd a pherthnasoedd penodol o hyd. Roeddwn i’n gallu gweld problemau o bell yn hytrach na cherdded ar fy mhen i drafferth.

 

Ac ymarfer corff - alla i ddim dweud wrthoch chi gymaint mae cerdded wedi achub fy mywyd i. Mi alla i ddweud hynny’n bendant. Roeddwn i wedi gwneud ymarfer corff yn y gorffennol, ond doedd gen i ddim arian na dim byd felly. Felly, roeddwn i’n ymarfer drwy gerdded yn egnïol, hynny yw, cerdded yn gyflym iawn, gydag un babi yn y gwarbac - yr ieuengaf - oedd yn saith mis oed ar y pryd a'r hynaf - oedd yn bedair oed - yn y goetsh gadair fawr ac mi fyddwn i’n rhoi melinau gwynt - wyddoch chi, y melinau gwynt tegan plastig hynny i blant - ar y goetsh gadair ac yn cerdded mor gyflym ag y gallem ni gan ganu. Mae'r merched yn cofio o hyd ‘Ni yw'r merched Goddard’. Roeddwn i'n teimlo’n hollol wag y tu mewn ond mi fyddwn i’n canu mor uchel ac yn cerdded mor gyflym ag y gallwn i. Roedden ni’n gwneud hynny bob bore. Doeddwn i ddim yn sylweddoli ar y pryd, ond yr hyn roedd hynny’n ei wneud oedd fy nghymdeithasoli i ar adeg pan oeddwn i eisiau dianc rhag y byd.  Byddai pobl yn fy ngweld bob dydd ac yn dweud ‘Helo’ neu ‘Su’mai’ ac, yn raddol, mi ddysgais i edrych i lygaid pobl yn hytrach nag edrych ar y llawr. Os nad oeddwn i o gwmpas ar adeg benodol i weld pobl, ‘O - wnes i ddim eich gweld chi bore 'ma, roedden ni’n poeni’. Os ydych chi'n clywed hynny’n ddigon aml, rydych chi’n ei gredu.

 

People exercising

 

Sylwadau

Gwelodd Jim Brown hefyd mai dim ond rhan o'r ateb oedd cwnsela a hunanfyfyrio. Roedd ymarfer corff hefyd yn allweddol o ran creu newid ffisiolegol.

 

Jim Brown

Dim ots pa mor wael rydw i’n teimlo ... A dweud y gwir, po waethaf ydw i’n teimlo, y mwyaf tebygol ydw i o fynd allan a dechrau rhedeg. Mae hynny’n bendant yn gweithio. Mae’n gwneud rhywbeth i gemegau eich corff. Mae’n rhyddhau cemegau sy’n gwneud ichi deimlo’n well. A, wyddoch chi, mae unrhyw un sy’n gallu rhedeg yn gallu gwneud hynny.

 

Sylwadau

Mae gweld teimladau mewn ffordd wahanol a’u cysylltu â rhyw ystyr arall yn un ffordd o newid ein perthynas â’r byd y tu mewn inni.

 

Jim Brown

Er fy mod i’n teimlo’n bryderus o hyd, erbyn hyn rydw i’n ystyried y pryder hwnnw’n ffynhonnell wybodaeth ychwanegol ddefnyddiol yn hytrach na phoen. Ei bwrpas ydi eich goleuo chi ynghylch rywbeth. Rydyn ni'n gallu meddwl yn rhesymegol am rywbeth a meddwl ‘Wel, does yna ddim byd yn y sefyllfa hon i godi ofn ar rywun’, ond er hynny, rydyn ni’n gallu teimlo’n bryderus o hyd. A 'dwi’n amau bod y pryder hwnnw yn dweud rhywbeth wrthon ni. Wrth wybod fy mod i’n bryderus, mae yna benderfyniad i'w wneud. Ydi'r pryder yn dweud wrthoch chi gilio er mwyn diogelwch neu ffordd o’ch ysgogi chi i berfformio’n well o dan yr amgylchiadau ydi o?

 

Peth arall sydd wedi bod yn help mawr i mi ydi'r cysyniad nad oes yn rhaid i chi fod yn gweithio drwy'r amser. Does yna ddim byd o gwbl o’i le mewn gwneud rhywbeth am hwyl a dim byd arall. A dyna pam wnes i ailgydio mewn tenis. Rydw i’n chwarae unwaith yr wythnos. Dydw i ddim yn arbennig o dda am chwarae tenis, ond mae o’n rhywbeth rydw i’n ei fwynhau - mynd allan i'r haul, chwifio raced yn ôl ac ymlaen, mae’n wych. Mae’n gwneud imi deimlo’n dda.

 

Jim Bowen playing tennis

 

P’un ai a ydych chi’n dewis dull sy’n canolbwyntio ar y person, Therapi Gwybyddol Ymddygiadol neu beth bynnag, rydych chi’n dod i bwynt pan mae’n rhaid ichi dderbyn eich hun a symud ymlaen. Rydw i’n teimlo gymaint mwy gobeithiol am bethau a bod yna bwynt i'r hyn rydw i’n ei wneud.

 

Stephen Fry

Ymdeimlad o ddyfodol ydi'r peth sy’n cadw rhywun yn fyw - bod yna yfory ac yfory mae’n rhaid imi wneud hyn a'r diwrnod wedyn mae’n rhaid imi wneud hyn’na. Nid fod yna bwrpas rhesymegol penodol i unrhyw rai o'r pethau hyn neu fod ganddyn nhw ryw reswm argyhoeddiadol i fodoli, ond rhywsut neu’i gilydd, maen nhw’n cadw rhywun i fynd. Yng ngeiriau Dorothy Parker, y bardd a'r awdur ffraeth, yn ei cherdd - ‘Llawn cystal iti fyw’.

 

Sylwadau

I lawer o bobl, un o brif fuddion therapi yw canfod patrymau yn eu hymddygiad a dod o hyd i ffyrdd gwahanol o ymdopi.

 

Trisha Goddard

Bu’n rhaid imi ailedrych ar fy ngorffennol i gyrraedd ble rydw i. Oni bai fy mod i wedi cael y therapïau siarad hynny, byddwn wedi dal ati i ailadrodd yr un hen batrymau drosodd a throsodd a drosodd a throsodd eto. Rydw i wedi gweld llawer o bobl yn cyrraedd y cam pan maen nhw’n meddwl mai eu hanlwc nhw ydi’r pethau sy’n digwydd iddyn nhw. Pan rydych chi’n dechrau meddwl ‘F’anlwc i ydi hyn i gyd’, rydych chi’n gwneud eich hun yn ddioddefwr ac mae hynny’n gwneud pethau’n waeth. Rydych chi'n dechrau anobeithio a theimlo nad ydych chi’n gallu newid dim byd, bod lwc yn rhywbeth dieithr sy’n digwydd i chi. Pan rydych chi’n dechrau gweld patrwm yn y ffordd rydych chi’n ymdopi neu ddim yn ymdopi â phethau – rydw i’n dweud:  ‘Mae pethau gwael yn digwydd, y ffordd rydyn ni’n delio â nhw sy'n bwysig’. Wrth ichi ddechrau edrych ar y patrymau hynny, wrth ichi fagu gwytnwch, defnyddio mecanweithiau ymdopi ac ati, rydych chi'n teimlo wedi’ch grymuso.  Ac rydw i’n grediniol mai ymdeimlad o fod wedi'ch grymuso ydi’r adnodd gorau o safbwynt rheoli a dysgu sut i fyw â gorbryder, iselder, anhwylder gorfodaeth obsesiynol a'r holl bethau hynny. Felly, i mi – ac i'r mwyafrif o bobl – mae therapïau siarad yn hanfodol. Pa therapi siarad? Wel, dadl arall ydi honno.

 

Trisha Goddard talking

 

Traciau yn y podlediad hwn:

1. Ymdopi ag Iselder

Stephen Fry, Trisha Goddard a Jim Brown sy'n rhannu eu profiadau o orbryder ac iselder. Chwarae nawr.

Iselder: diagnosis a stigma.   

Golwg ar gael diagnosis o salwch meddwl. Chwarae nawr.

Iselder a defnyddio cyffuriau.   

Profiadau nifer o bobl o gyffuriau rhagnodedig a chyffuriau hamdden. Chwarae nawr.

 

Mae’r adnodd hwn yn rhan o ‘Gasgliad Llesiant ac Iechyd Meddwl’ wedi ei greu gan y Brifysgol Agored yng Nghymru. Gallwch ddysgu mwy a dod o hyd i gyrsiau, erthyglau a gweithgareddau eraill ar dudalen hafan y casgliad.


 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?