3 Meddwl sy'n bwysig
3.1 Trefnu a'r gallu i gofio pethau'n well
Bydd yr adran hon yn canolbwyntio ar feddwl ac yn benodol sut rydym yn trefnu ein meddyliau, sut rydym yn gwneud synnwyr o'r byd a sut rydym yn cofio (neu weithiau'n anghofio) beth sy'n berthnasol.
Mae seicolegwyr sy'n astudio'r meddwl yn gweithio ym maes seicoleg gwybyddol. Ystyr gwybyddiaeth yw gwybodaeth felly mae gan seicolegwyr gwybyddol ddiddordeb mewn pa wybodaeth sydd gan bobl, sut maent wedi meithrin y wybodaeth hon a sut maent yn defnyddio'r wybodaeth hon. Mae hyn yn golygu bod y meysydd a astudir ganddynt yn cynnwys sylw, canfyddiad, cof, datrys problemau ac iaith.
Mae trefnu ein meddyliau yn cynnwys:
- defnyddio delweddau meddyliol
- ffurfio cysyniadau (rhoi gwybodaeth mewn categorïau)
- datblygu sgemâu (llunio pecynnau meddyliol o wybodaeth gysylltiedig).
Byddwn yn edrych ar y tri math hwn o drefnu yn fanylach.
OpenLearn - Dechrau gyda seicoleg
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.
