Transcript

MERCH AR Y STRYD
Rhwystredigaeth ymosodgar lwyr am wn i.
DYN AR Y STRYD
Yn fy marn i, roedd wedi blino'n feddyliol ..um..roedd ar ddiwedd gêm hir - ar ddiwedd ei yrfa hefyd felly roedd llawer o emosiynau yn mynd drwy ei ben ar y pryd. Eh, a beth bynnag a ddywedodd Materazzi, roedd yn amlwg wedi cael effaith fawr arno, mae'n rhaid bod ei feddwl dros y lle i gyd rhwng popeth ac fe gollodd reolaeth lwyr - roedd e wedi cynhyrfu.
MERCH2 AR Y STRYD
Dwi ddim yn ddyn ond dwi'n deall bod angen iddyn nhw ryddhau eu teimladau rywsut pan fyddan nhw'n rhwystredig iawn. Hynny yw, dydych chi ddim fel arfer yn gweld merched sy'n chwaraewyr tennis yn taflu eu racedi o gwmpas, ond mae dynion yn gwneud hynny. Dwi'n cymryd ei fod yn rhywbeth tebyg.
MERCH3 AR Y STRYD
Byddech chi'n siŵr o gael ffit neu rywbeth.
DYN2 AR Y STRYD
Dywedwyd bod rhywun wedi'i brofocio ond um..mae'n rhywbeth um..sy'n digwydd ar unwaith sbo. Dwi ddim yn gwybod.
DYN3 AR Y STRYD
Ro'n i'n siomedig iawn achos doedd e ddim yn bwysig ofnadwy i Ffrainc ennill ar y noson ond roedd yn bwysig y byddai Zidane yn gorffen y gêm fel yr arweinydd roedd wedi datblygu i fod ym mlynyddoedd diwethaf ei yrfa. Felly ro'n i'n drist ac yn siomedig drosto.