Transcript
PAT SPOORS
Pat Spoors ydw i. Hoffwn ystyried digwyddiad Zidane o safbwynt biolegol.
DR. PETER NAISH
Doctor Peter Naish ac rwy'n Seicolegydd gwybyddol.
DR. JOVAN BYFORD
Doctor Jovan Byford ydw i. Rwy'n seicolegydd cymdeithasol.
PAT SPOORS
Mae'n gwbl amlwg bod rhywfaint o densiwn wedi bod yn adeiladu rhwng Materazzi, y chwaraewr Eidalaidd a Zidane yn ystod y gêm bêl-droed arbennig hon. Yn gynharach yn ystod y gêm, dechreuodd Materazzi ddal gafael yng nghrys Zidane ac wedyn, wrth gwrs, yn ddiweddarach, dywedodd rywbeth a ddehonglwyd gan Zidane fel rhywbeth arbennig o sarhaus yn union cyn i Zidane droi o amgylch a'i ben-fytio yn ei frest. Credaf ei bod yn ddealladwy fod Zidane wedi teimlo'n ddig iawn, wedi'i gythruddo gan yr hyn a ddigwyddodd, ond roedd yn anarferol y byddai rhywun yn ymateb mewn ffordd mor ffrwydrol yn y math hwnnw o sefyllfa. Ni fyddai pawb wedi ymateb drwy ben-fytio felly mae'n rhaid bod cyfuniad o ffactorau wedi dod ynghyd ar yr adeg benodol honno er mwyn i Zidane ymateb yn y fath fodd. A hoffwn awgrymu bod rhai o'r ffactorau hyn, nid pob un ohonynt, dim ond rhai o'r ffactorau yn ymwneud â chyflwr biolegol Zidane.
DR. PETER NAISH
Fy null i o ymdrin â'r cwestiwn yw ei isrannu. Ymddengys fod nifer o ddigwyddiadau rhyfedd gan ddechrau, yn ôl pob tebyg, â'r chwaraewr Eidalaidd yn dal Zidane o'r tu ôl. Yn rhyfedd, nid yw Zidane yn ymateb i hyn felly hoffwn wybod pam hynny. Onid oes ots ganddo? Ac wedyn ar ôl cyfnod o amser, ymddengys ei fod yn sylwi fod rhywbeth yn digwydd. Ceir cyfnewid geiriau nad ydynt yn edrych yn eiriau arbennig o groes, ac wedyn maent yn rhannu ac unwaith eto, ymddengys fod popeth yn iawn. Felly pam y cyfnod hwnnw o amser wedi'i ddilyn, wrth gwrs, gan ei benderfyniad i droi o amgylch a'r pen-fytiad enwog.
DR. JOVAN BYFORD
Pan welais rownd derfynol cwpan y byd a gweld ymddygiad Zidane, daeth sawl cysyniad seicolegol i'm meddwl fel ffordd o esbonio beth a ddigwyddodd. Gallwn edrych ar y digwyddiad hwn fel enghraifft o amlygu hunaniaeth fel rôl gymdeithasol yr oedd Zidane yn ei chwarae yn y sefyllfa benodol honno ac hefyd yr effaith ar ddiwylliant ac ymddygiad pobl.
Nawr, fe gofiwch ym mhennod pump o 'Dechrau gyda Seicoleg', ein bod wedi ymdrin â'r cysyniadau penodol hyn ac mai un o'r pethau a ddaeth i'r amlwg o'r bennod honno yw bod yn rhaid i ni reoli a chyflwyno gwahanol hunaniaethau fel rhan o'n bywydau beunyddiol. Ac nid yw enwogion y byd pêl-droed fel Zidane yn wahanol i bobl gyffredin o ran hunaniaethau lluosog. Ar y cae pêl-droed hwnnw yn y stadiwm Olympaidd yn Berlin, chwaraewr pêl-droed proffesiynol oedd prif hunaniaeth Zidane. Roedd yn aelod o dîm o 11 o ddynion yr oedd yn rhannu ymdeimlad o gyfeillgarwch â hwy ac yn anad dim, nod gyffredin. Ond ar yr un pryd, roedd yn gwisgo crys Ffrangeg felly roedd yn cynrychioli hunaniaeth ehangach, sef hunaniaeth Ffrancwr ac roedd yn rhannu'r hunaniaeth hon gyda miliynau o ddilynwyr eraill Ffrengig. Ond nid Ffrancwr cyffredin oedd Zidane. Fel Ffrancwr o Algeria, roedd hefyd i ryw raddau yn symbol ac fe'i ystyriwyd gan sawl un yn Ffrainc fel symbol o natur amlddiwylliannol Ffrainc ac hunaniaeth genedlaethol fwy cynhwysol.
Yn drydydd, roedd Zidane hefyd yn berson preifat, yn rhywun â'i orffennol personol ei hun. A gwyddom fod Zidane wedi cael ei fagu yn ardal dociau Marseille mewn ardal arbennig o arw o'r enw La Castellane ac mae hyn yn rhywbeth a oedd hefyd yn rhan o hunaniaeth Zidane. Ac yn wir, gwyddom o gyfweliad a roddodd yn 2004 mai'r peth cyntaf a ddywedodd, pan ofynnwyd iddo ddisgrifio ei hun, oedd ei fod yn rhywun o ardal La Castellane. Roedd yn falch iawn o'i gefndir dosbarth gweithiol yn yr ystyr hwn.
PAT SPOORS
Un o'r ffactorau biolegol cyntaf i'w ystyried yw bod Zidane yn ddyn a bod dynion yn llawer mwy tebygol o ymateb gyda'r ymosodedd corfforol, gelyniaethus hwn yn enwedig tuag at ddyn arall nag y byddai merch. Byddai'n anarferol iawn gweld merch yn pen-fytio rhywun arall yn y fath fodd ymosodgar. Nid wyf yn awgrymu nad yw merched yn ymosodgar oherwydd maent yn ymosodgar, ond maent yn dueddol o ddangos eu hymosodedd mewn ffyrdd gwahanol. Felly byddent yn fwy tebygol o fod yn sarhaus ar lafar - gan alw rhywun yn enwau cas neu allgáu rhywun, peidio â bod yn ffrindiau â nhw neu ledaenu gwybodaeth negyddol amdanynt. Ac os oeddent yn bwriadu bod yn ymosodgar yn gorfforol, mae'n fwy tebygol y byddent yn pigo ar wrthrych - clecian drws neu dorri plât.
Nawr o ran y gwahaniaeth hwn rhwng dynion a merched, gallwn weld y gwahaniaeth hwn o oedran cynnar iawn ac mae ymosodedd corfforol ymhlith dynion yn debygol o gyrraedd uchafbwynt tua adeg y glasoed. Mewn gwirionedd, os ydych am wybod y gyfradd troseddau treisgar ar gyfer unrhyw wlad benodol, y cyfan sydd angen i chi ei wybod yw pa gyfran o'r boblogaeth sy'n ddynion ifanc. Ac os bydd cyfran y dynion ifanc yn cynyddu, bydd y gyfradd troseddau treisgar hefyd yn cynyddu ac i'r gwrthwyneb. Ac nid dim ond y ffaith ein bod yn gweld y gwahaniaeth hwn o oedran cynnar sy'n bwysig, rydym hefyd yn gweld y math hwn o wahaniaeth ymhob math o ddiwylliannau dynol ni waeth beth fo'r cefndir diwylliannol na sut y cafodd pobl eu magu, y pwysau diwylliannol arnynt, rydym yn dal i weld bod dynion yn dueddol o fod yn fwy ymosodgar yn gorfforol na merched. Mae hyn yn wir ymhlith anifeiliaid yn ogystal â phobl. A chan ein bod yn gweld y gwahaniaeth hwn rhwng dynion a merched mor aml, mae'n awgrymu efallai bod rhagdueddiad genetig i ddynion fod yn fwy ymosodgar yn gorfforol na merched. Os gallwch gofio darllen eich llyfr cwrs, rhagdueddiad genetig, ceir tuedd etifeddol i arddangos rhai nodweddion penodol. Felly dim ond tuedd ydyw. Nid yw'n golygu'n awtomatig bod pob dyn yn ymosodgar ac nad yw merched. Tuedd ydyw felly mae'n golygu bod ffactorau eraill fel cefndir a sefyllfa unigolyn yn chwarae rhan hefyd.
DR. JOVAN BYFORD
Mae diwylliant pêl-droed cyfoes hefyd yn ddiwylliant sy'n gwerthfawrogi gwrywdod. Um, mae'n ddiwylliant y mae ei werthoedd yn cynnwys cryfder corfforol, cystadleuaeth. Mae'n clodfori heterorywioldeb ac yn clodfori pŵer dynion, pŵer corfforol dynion. Ac mae hynny hefyd yn rhywbeth y mae angen i ni ei ystyried wrth egluro llawer o bethau sy'n digwydd ar y cae pêl-droed, gan gynnwys yr hyn a ddigwyddodd yn y 110fed munud o'r rownd derfynol dyngedfennol honno yng nghwpan y byd. Gwyddom fod Zidane wedi ymateb i rywbeth a ddywedodd Marco Materazzi wrtho. A sawl wythnos ar ôl y digwyddiad, eglurodd Matarazzi ei fod wedi gwneud sylw anllad, amhriodol am chwaer Zidane ac mai dyna a gythruddodd Zidane i ymateb. Nawr sawl wythnos yn ddiweddarach, anerchodd y cyfryngau a gwrthododd ymddiheuro am ymosod ar Materazzi. Roedd yn difaru gwneud hynny ar deledu byw ond dywedodd y byddai'n gwneud yr un peth eto. Dywedodd dro ar ôl tro wrth y cyfryngau yn Ffrainc y byddai'n rhywbeth y byddai'n ei wneud eto. Um, ac wrth iddo egluro a cheisio cyfiawnhau ei ymddygiad, dywedodd rhywbeth diddorol iawn. Dywedodd ei fod yn anodd iawn iddo, fel dyn, wrando ar sylwadau sarhaus am ei chwaer. Felly wrth gyfiawnhau ei ymddygiad, ni soniodd am y ffaith ei fod yn bêl-droediwr proffesiynol, ni soniodd am y ffaith ei fod yn Ffrancwr. Soniodd am ei hunaniaeth wrywaidd. Hynny yw, y rheswm pam y gwnaeth ymateb oedd fod hynny'n rhywbeth y disgwyliwyd ganddo fel dyn er mwyn amddiffyn anrhydedd ei deulu, er mwyn amddiffyn aelodau benywaidd ei deulu. Roedd yn cyfeirio at rôl draddodiadol dyn mewn cymdeithas, rôl a gaiff ei phennu gan ein hideolegau penodol a'n disgwyliadau diwylliannol o fewn cymdeithas gyfoes.
DR. PETER NAISH
Mewn seicoleg gwybyddol, cyflwynir y cysyniad o sgema. Mae'n ffordd law fer o wybod beth i'w ddisgwyl mewn sefyllfa benodedig. Felly hyd yn oed os bydd darn penodol o wybodaeth ar goll, rydych fwy neu lai'n ei gymryd yn ganiataol, gan ei fod yn rhan o'r sgema. Ac yn y sgema pêl-droed hwn, un o'r pethau y gellid disgwyl yw bod chwaraewr o'r tîm arall yn mynd i weiddi sylwadau sarhaus arnoch. Felly er enghraifft, os na chlywodd Zidane beth a ddywedwyd yn iawn, gellid disgwyl y byddai ei sgema yn dweud wrtho heb feddwl ymhellach ei fod yn sarhaus ac felly gallai ymateb yn unol â hynny.
PAT SPOORS
Un peth y mae seicolegwyr biolegol wedi ymchwilio iddo yw p'un a oes cyswllt rhwng ymosodedd dynion a thestosteron. Hormon yw testosteron. Hormon rhyw dynion ydyw. Mae gan ddynion a merched yr hormon hwn ond mae gan ddynion gyfeintiau llawer uwch ohono. Ac yn sicr, mae ymchwilwyr wedi honni eu bod wedi canfod enghreifftiau lle mae gan ddynion sy'n ymosodgar iawn lefelau uchel o destosteron. Fodd bynnag, nid yw'r dystiolaeth yn glir o bell ffordd. Ymddengys fod cyswllt rhwng ymosodedd a thestosteron ond y cwestiwn yw beth sy'n achosi beth? Ai'r testosteron sy'n achosi'r ymddygiad ymosodgar neu ai'r ymddygiad ymosodgar sy'n achosi cynnydd yn lefel testosteron y corff?
DR. PETER NAISH
Mae ein sylw yn ddetholus iawn ac yn aml iawn, ni fyddwn yn sylwi ar lawer iawn o bethau. Fel arfer, nid ydym yn sylwi ar ein dillad yn cyffwrdd â'n croen. Gallwn aros a meddwl am y peth a bod yn ymwybodol eu bod yn gwneud hynny. Um, yn yr achos hwn, yn amlwg canolbwyntiodd Zidane ar beth sydd wedi digwydd i'r bêl. Mae'r ymennydd yn prosesu gwybodaeth sy'n dod i mewn mewn rhanbarthau yn debyg i gyfrwy fel hyn. Ond wedyn blaen yr ymennydd, dyna'r rhan sy'n dweud wrthych i ba gyfeiriad yr aiff eich sylw. Felly er y gall fod llawer o weithgarwch o'ch cwmpas, gan gynnwys rhywun yn ymosod arnoch o'r tu ôl, um, mae eich holl sylw ar y darn hwnnw sy'n gwylio'r bêl ac nid ydych yn gwybod beth arall sy'n digwydd. Ond wedyn mae'r tensiwn wedi diflannu - mae'r bêl wedi mynd allan neu rywbeth ac ar unwaith, caiff y sylw ei gyffredinoli a meddyliwch, 'mae'r dyn 'ma yn dal gafael arna i'. Mae'n troi o amgylch, ceir cyfnewid geiriau ac wedyn mae'n cerdded ymaith. Ymddengys fod popeth yn iawn ond pam y cyfnod hwnnw o amser? Un posibilrwydd yw na wnaeth brosesu'r hyn a ddywedwyd yn llawn. Um, mae angen mwy byth o bŵer yr ymennydd i brosesu'r peth a ddywedwyd os y'i dywedwyd gan rywun o dramor nad oedd yn siarad ei famiaith - efallai iddo gael gair yn anghywir, rhywbeth fel yna. Er, ac mae angen canolbwyntio er mwyn gwrando ar yr hyn sy'n cael ei ddweud o dan yr amgylchiadau hynny. Nid oedd Zidane yn canolbwyntio rhyw lawer. Roedd yng nghanol gêm bêl-droed a dylai unrhyw un sy'n amau ei bod yn anodd gwneud dau beth fel yna ar unwaith roi cynnig ar wneud cyfrifeg yn y pen tra'n loncian. Mae'n rhyfeddol o anodd. Felly efallai fesul tipyn, ei fod yn meddwl am y wybodaeth - prosesu o'r brig i'r bôn - fel y byddai pethau roedd yn gwybod amdanynt yn ei helpu i broses beth a ddywedwyd. Um, y dehongliad unwaith eto, y cyd-destun felly'r sgema a gymhwyswyd i'r gêm bêl-droed neu yn wir i'w gefndir ei hun, ei ddiwylliant oll yn dylanwadu a) ar y ffordd y caiff ei ddehongli a b) wedyn sut y byddwch yn ymateb. Felly yn y pen draw, efallai bod y geiniog yn disgyn a dyna'r adeg y mae'n troi o amgylch, dyna a ddywedodd ac mae'n ymosod. Pam yr ymosodiad penodol hwnnw? Pam peidio â bod yn rhy dreisgar? Efallai mai er mwyn dangos ei anfodlonrwydd ond nad oedd am fynd dros ben llestri.
Posibilrwydd arall: dychwelwn at brosesu o'r brig i'r bôn ac effaith y sgema eto. Gêm bêl-droed ydoedd. Nid ydych yn defnyddio eich dwylo, nid ydych yn dyrnu, rydych yn penio ac efallai mai dyna a ddigwyddodd.
DR. JOVAN BYFORD
Mae'n debygol yn ardal La Castellane yn Marseille y byddech yn sarhau chwaer rhywun ac yn disgwyl na fyddai unrhyw oblygiadau i hynny. Hynny yw, ymateb diwylliannol ydoedd i sarhad personol tuag at ei deulu. Yn yr ystyr hwnnw, wrth ystyried pam yr ymatebodd Zidane yn y fath fodd, mae angen i ni ystyried pwy oedd Zidane, mae angen i ni ystyried ei hunaniaeth ac mae angen i ni ystyried sut yr amlygwyd yr hunaniaeth honno yn y sefyllfa benodol honno.
PAT SPOORS
Yr hyn sy'n glir iawn yn nigwyddiad Zidane yw bod Zidane mewn sefyllfa lle roedd o dan bwysau sylweddol. Roedd yn chwarae yn rownd derfynol Cwpan y Byd 2006 a dyma fyddai ei gêm olaf cyn iddo ymddeol. Roedd yn gapten ar ei dîm ac roedd yn chwaraewr medrus iawn a thalentog iawn. Felly roedd cryn dipyn o bwysau arno i sgorio'r golau roedd Ffrainc am eu cael. Ni chredaf y gallech ddychmygu sefyllfa a fyddai'n rhoi mwy o bwysau ar bêl-droediwr. Byddai'r lefel hon o bwysau yn sicr wedi achosi newidiadau biolegol yng nghorff Zidane. Byddai cyfradd curiad ei galon wedi cynyddu. Byddai ei bwls yn gyflym. Byddai'n anadlu yn gyflymach. Byddai'n chwysu mwy. A byddai hormon o'r enw adrenalin wedi cael ei ryddhau i'w lif gwaed. Nawr mae adrenalin yn hormon a gaiff ei gynhyrchu gan y chwarennau uwcharennol ac mae gennym ddwy chwarren o'r fath. Maent wedi'u lleoli uwchben yr arennau ar ddwy ochr y corff a phan fyddwn o dan bwysau, bydd y corff yn rhyddhau adrenalin er mwyn paratoi'r corff hwnnw i ymateb. Mae'r adrenalin, um, yn sicrhau bod digon o ocsigen a glwcos ar gael i'r ymennydd ac i'r cyhyrau ac mae hefyd yn atal unrhyw weithgareddau corfforol eraill nad oes gwir eu hangen, fel y system dreulio. Oherwydd os ydym yn paratoi i weithredu, um, nid ydym yn debygol o aros i gael brechdan felly ni fydd angen i'r system dreulio fod yn weithredol. Felly bydd yr adrenalin yn y corff yn achosi i ni baratoi i weithredu a dyna pam y cyfeirir ato'n aml fel yr hormon dianc neu ddadlau ('flight or fight' yn Saesneg). Yn sicr, bydd ein cyndeidiau, eh, ein gorffennol esblygol yn nodi y gallai ymateb yn y fath ffordd i bwysau fod yn synhwyrol iawn oherwydd meddyliwch am ein cyndeidiau cynhanesyddol - y math o bethau a fyddai'n eu rhoi dan bwysau - fyddai pethau bygythiol fel anifeiliaid mawr neu bobl eraill. Ac mae ganddynt ddewis syml iawn i'w wneud: A ddylwn aros yn fy unfan a dadlau? A yw hynny'n rhy beryglus? Ac a ddylwn ddianc? Felly p'un a fyddant yn dewis dadlau neu ddianc, yna mae bod yn barod i weithredu yn ymateb eithaf defnyddiol i'w gael. Nid yw mor ddefnyddiol heddiw o fewn cymdeithas fodern gan fod y math o bwysau rydym yn dueddol o'i ddioddef yn cael ei achosi gan bethau fel biliau mawr neu ymweliad â'r deintydd ac ni fydd dadlau neu ddianc yn ymateb defnyddiol yn y naill o'r sefyllfaoedd hynny.
Fodd bynnag, roedd yn ymateb eithaf da i Zidane ei gael pan oedd o dan bwysau yn ei sefyllfa benodol ef oherwydd roedd yn gwneud yn siŵr ei fod yn barod i weithredu. Roedd yn barod i ymateb i'r newid yng ngofynion y gêm bêl-droed honno. Mae gwahaniaeth rhwng dynion a merched o ran eu hymateb i bwysau. Mae dynion yn dueddol o ymateb yn llawer cyflymach. Maent yn ymateb mewn ffordd ddwysach ac mae eu hymateb yn para'n hirach. Felly yn achos dyn, bydd lefel yr adrenalin yn cynyddu'n gyflymach. Bydd yn cynyddu'n uwch a bydd yn aros yn uchel am gyfnod hwy na merched.
Mae gwaith ymchwil wedi dangos i ni pa bryd bynnag y byddwn wedi cynhyrfu mewn sefyllfa o'r fath yna ni waeth pa emosiwn y byddwn yn ei deimlo, byddwn yn teimlo'r emosiwn hwnnw yn ddwysach na phe byddem wedi ymlacio fwy. Mae gwneuthurwyr ffilmiau arswyd yn manteisio ar hyn. Eh, os ydych wedi gwylio ffilm arswyd, byddwch yn ymwybodol bod y tensiwn yn uchel, y gallwch weld eich hun neu'r bobl o'ch amgylch yn y sefyllfa honno sy'n llawn tensiwn a phwysau, pan nad ydych yn siŵr beth sy'n mynd i ddigwydd, bydd eich cyhyrau yn llawn tensiwn, bydd eich anadl yn cyflymu, efallai y byddwch yn eistedd ar flaen eich sedd - ac wedyn yn sydyn, bydd y peth erchyll yma yn digwydd a byddwch yn neidio nôl, efallai y byddwch hyd yn oed yn sgrechian. Os byddwch gartref, efallai y byddwch hyd yn oed yn cerdded o amgylch yr ystafell i gael gwared ar rywfaint o'r egni sydd wedi cronni yn eich corff.
Ymddengys yn ymateb eithafol braidd i rywbeth rydych wedi'i wylio, rydych yn gwybod nad oedd yn wir a'ch bod yn ei wylio o ddiogelwch eich ystafell fyw.
DR. JOVAN BYFORD
Nawr hefyd, a sonnir am hyn unwaith eto ym mhennod pump, ceir y syniad o wrthdaro rhwng rolau. Roedd Zidane, fel y dywedwyd gennym, ar yr un pryd yn bêl-droediwr proffesiynol a oedd yn cynrychioli hunaniaeth genedlaethol Ffrainc ac, fel y gwelsom, yn rhywun yr oedd gwrywder yn ffynhonnell bwysig o falchder a hunaniaeth. Mae gwahanol ddisgwyliadau yn gysylltiedig â'r tair rôl hyn. Fel pêl-droediwr proffesiynol, dylai fod wedi'i anwybyddu, dylai fod wedi anwybyddu'r ymgais i'w gythruddo; Fel rhywun sy'n cynrychioli'r tîm cenedlaethol, dylai hefyd fod wedi anwybyddu beth ddigwyddodd. Ond ar yr adeg benodol honno, ni wnaeth. Hynny yw, rhoddodd ei yrfa yn y fantol. Rhoddodd ei enw da yn y fantol er mwyn cynnal yr hunaniaeth benodol hon.
Nawr ni wyddom beth a ddigwyddodd ym mhen Zidane ar yr adeg benodol honno. Ni wyddom pa brosesau meddwl oedd ar waith ond weithiau mae hefyd yn bwysig ystyried hunaniaeth fel perfformiad, fel gweithred ac fel arfer, os hoffech, yn hytrach nag fel rhywbeth sy'n digwydd ym mhen pobl. Mae'n rhywbeth y mae pobl yn i wneud, yn rhywbeth y maent yn ei ddefnyddio i ddangos i'r byd ac i'r bobl o'u hamgylch pwy ydynt ac yn yr achos hwn, yr hunaniaeth amlwg a ddylanwadodd ar weithred Zidane oedd pêl-droediwr gwrywaidd, o gefndir garw sy'n ymdrin â sylwadau personol sarhaus yn y ffordd benodol hon.
PAT SPOORS
Pam y'i gwnaeth ar yr adeg benodol honno? Roedd y gêm wedi mynd i amser ychwanegol felly roedd digon o gyfleoedd o hyd. Roedd yn adeg hanfodol a phwysig yn llawn pwysau yn ystod y gêm a byddai Zidane wedi bod o dan bwysau penodol, wedi cynhyrfu'n sylweddol felly ni fyddai angen llawer o bryfocio er mwyn iddo ymateb mewn ffordd gymharol eithafol.