Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
Cwrs am ddim

Dechrau gyda seicoleg

Datganiad cyfranogiad am ddim wrth i chi gwblhau
Dechrau gyda seicoleg

Y 'pos mwyaf a phwysicaf' rydym yn ei wynebu fel pobl yw ni ein hunain (Boring, 1950, tud. 56). Mae pobl yn bos - yn bos cymhleth, cynnil ac amlhaenog, a daw'n fwy cymhleth fyth wrth i ni esblygu dros amser a newid o fewn cyd-destunau gwahanol.

Wrth ateb y cwestiwn 'Beth sy'n ein gwneud ni yn pwy ydym ni?', mae seicolegwyr yn cyflwyno amrywiaeth o esboniadau pam bod pobl yn teimlo, yn meddwl ac yn ymddwyn fel ag y maent. Pan fydd yn ymddangos bod seicolegwyr yn deall un rhan o 'pwy ydym ni', daw tystiolaeth newydd i ddangos ochr wahanol i'r amlwg! Nid yw'n hawdd nodi'r holl ddylanwadau.

Deilliannau dysgu'r cwrs

Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:

Ar ôl cwblhau'r uned, dylech allu gwneud y canlynol:

  • dadansoddi amrywiaeth o ffactorau o fewn a'r tu allan i unigolion sy'n dylanwadu ar y meddwl ac ar ymddygiad.
  • ystyried dylanwadau lluosog mewn astudiaethau achos;
  • disgrifio'r ffordd y mae dylanwadau wedi'u cysylltu mewn ffyrdd cymhleth;
  • trafod y ffactorau lluosog sy'n dylanwadu ar yr hyn sy'n ein gwneud yn hapus.

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/09/2019

Wedi'i ddiweddaru: 17/02/2020

Hepgor Graddau y Cwrs