Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Dechrau gyda seicoleg
Dechrau gyda seicoleg

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.2 Defnyddio delweddau meddyliol

Fel oedolion, rydym yn dueddol o feddwl mewn geiriau gan fwyaf. Fodd bynnag, cynhaliwyd arbrofion niferus sy'n ategu'r awgrym y byddwn yn cofio gwybodaeth lafar neu ysgrifenedig yn well os byddwn hefyd yn ffurfio delwedd feddyliol o'r wybodaeth. Bydd y ddelwedd feddyliol yn rhoi awgrym arall i ni pan fydd yn bryd i ni gofio'r wybodaeth. Yn ogystal, bydd yr ymdrech a wnawn wrth ffurfio'r ddelwedd yn helpu i'w selio yn ein cof. Mae hyn yn gweithio orau os bydd y delweddau a ffurfiwn yn fawr, yn lliwgar ac yn rhyfedd gan ein bod yn dueddol o gofio eitemau gwahanol yn hytrach nag eitemau bob dydd.

Mae defnyddio delweddau meddyliol pan fyddwch yn dechrau dysgu iaith newydd am y tro cyntaf wedi profi'n effeithiol iawn wrth helpu pobl i feistroli geirfa sylfaenol. Dyma'r dechneg geiriau allweddol. Er enghraifft, ystyriwch y gair Ffrangeg 'poubelle' (a yngenir pooh-bell) sy'n cyfieithu fel 'bin' yn Saesneg. Y cam cyntaf yw meddwl am air neu eiriau Saesneg sy'n swnio fel y gair Ffrangeg neu ran o'r gair Ffrangeg. Dyma fydd eich gair allweddol. Wedyn, lluniwch ddarlun meddyliol o'r gair allweddol gyda'r cyfieithiad Saesneg. Felly yn yr enghraifft hon, gallech ddychmygu eich hun yn codi caead eich bin sydd wedi troi'n gloch ('bell' yn Saesneg) ac yn dal eich trwyn oherwydd yr arogl ('pooh' yn Saesneg).

Ffigur 4 La poubelle

Efallai bod hyn yn swnio'n gymhleth, ond mae ei wneud yn llawer haws na'i ddisgrifio. Mae'n llwyddiannus iawn ac mae'n llawer llai o ymdrech a mwy o hwyl na dysgu rhestrau o eirfa drwy ailadrodd y geiriau drosodd a throsodd.

Michael Raugh a Richard Atkinson (1975) a ddatblygodd y dechneg geiriau allweddol hon a gwnaethant gynnal arbrawf ar ddau grŵp o gyfranogwyr. Gofynnwyd i'r cyfranogwyr ddysgu rhestr o 60 o eiriau Sbaeneg ond dim ond hanner ohonynt y'u dysgwyd i ddefnyddio'r dechneg geiriau allweddol. Pan gawsant eu profi'n ddiweddarach, sgoriodd y cyfranogwyr a ddefnyddiodd eiriau allweddol gyfartaledd o 88 y cant o gymharu â dim ond 28 y cant i'r cyfranogwyr na wnaethant ddefnyddio geiriau allweddol.

Mae'r astudiaeth hon gan Raugh ac Atkinson yn enghraifft dda o arbrawf syml. Roedd gan yr arbrofwyr ddau grŵp o gyfranogwyr a dylanwadwyd arnynt er mwyn creu un gwahaniaeth rhwng y ddau grŵp. Addysgwyd y grŵp arbrofol i ddefnyddio geiriau allweddol ond nid addysgwyd y grŵp rheoli i wneud hynny. Wedyn rhoddwyd prawf cof i'r ddau grŵp. Mewn arbrofion, cyfeirir at yr elfen y mae'r arbrofwr yn dylanwadu arni fel y newidyn annibynnol a chyfeirir at yr elfen y bydd yr arbrofwr yn ei mesur fel y newidyn dibynnol. Pan fydd ymchwilwyr yn cynllunio arbrofion, mae angen iddynt ystyried p'un a allai unrhyw ffactorau neu newidynnau eraill fod yn dylanwadu ar eu canlyniadau. Mae'n bwysig bod yr arbrofwr yn ceisio cael gwared ar y newidynnau hyn neu eu rheoli.

Gweithgaredd 3: Nodi newidynnau

Timing: 0 awr 5 o funudau

In the Raugh and Atkinson experiment can you identify the following variables?

  1. y newidyn annibynnol
  2. y newidyn dibynnol
  3. newidyn y dylid ei reoli.

Gadael sylw

  1. Y newidyn annibynnol yw'r newidyn y mae'r arbrofwr yn dylanwadu arno, sef y cyfarwyddyd i ddefnyddio'r dechneg geiriau allweddol.
  2. Y newidyn dibynnol yw'r newidyn sy'n newid o ganlyniad i ddylanwadu ar y newidyn annibynnol. Mae'r arbrofwr yn mesur y newidyn hwn, sef nifer y geiriau Sbaeneg y gall y cyfranogwyr eu cofio.
  3. Un newidyn y gallai fod angen i'r arbrofwr ei reoli yw sicrhau nad oedd unrhyw un o'r cyfranogwyr wedi dysgu unrhyw Sbaeneg cyn yr arbrawf oherwydd gallai hyn effeithio ar eu sgôr yn y prawf cof.

Mae nifer o strategaethau cofyddiaeth neu strategaethau cof yn seiliedig ar ddefnyddio delweddau meddyliol. Strategaeth ar gyfer gwella'r cof yw cofyddiaeth ac rydych, fwy na thebyg yn gyfarwydd â sawl enghraifft, megis Caradog O’r Mynydd Gafodd Gig I’w Fwyta er mwyn cofio lliwiau’r enfys (Coch, Oren, Melyn Gwyrdd, Glas, Indigo, Fioled)

Datblygwyd dyfais gofyddiaeth hynafol o'r enw 'dull loci’ gan y bardd Simonides a oedd yn byw yng Ngroeg Hynafol yn y flwyddyn 500 Bc. Fel rhan o'r dechneg hon, mae'r dysgwr yn cysylltu delweddau meddyliol o'r eitemau y mae'n awyddus i'w cofio â dilyniant o leoliadau maent eisoes yn gyfarwydd â hwy.

Gweithgaredd 4: Dull loci

Timing: 0 awr 10 o funudau

Gadewch i ni ddefnyddio enghraifft syml. Tybiwch eich Bod am gofio rhestr o ddeg eitem y mae angen i chi siopa amdanynt.

Ffigur 5 Rhestr siopa

Byddech yn dychmygu pob un o'r eitemau hyn mewn amrywiol leoliadau o amgylch eich cartref neu wedi'u gosod ar wahanol bwyntiau ar hyd stryd rydych yn ei hadnabod yn dda. Cofiwch fod y dechneg hon yn gweithio orau os yw'r delweddau yn unigryw ac yn wirion yn hytrach na synhwyrol. Rwyf wedi awgrymu rhai delweddau ar gyfer ein rhestr yn y darn isod. Darllenwch drwy'r darn a chymerwch eiliad i greu'r darluniau meddyliol ond peidiwch â phoeni gormod am geisio cofio'r eitemau. Fodd bynnag, mae'n bwysig iawn eich bod yn creu'r darlun yn eich meddwl.

Ceisiwch ddychmygu eich drws ffrynt ond gyda banana enfawr yn lle'r handlen arferol. Pan fyddwch yn agor y drws ac yn cerdded drwy'r fynedfa, mae'r llawr wedi'i orchuddio ag wyau ac mae'n rhaid i chi gerdded dros yr wyau er mwyn cyrraedd yr ystafell fyw. Dychmygwch yr wyau yn cracio o dan eich traed a'r llanastr! Beth bynnag, mae llawer mwy o lanastr oherwydd wrth i chi agor drws yr ystafell fyw, bydd bron i chi gael eich taro i'r llawr gan yr afon o laeth a ddaw'n arllwys allan. Rydych yn gwegian at y ffenestr er mwyn agor y llenni sydd wedi troi'n ddwy dafell enfawr o fara. Rydych yn ceisio cynnau'r teledu ond yn methu gan fod pecyn mawr iawn o rawnfwyd wedi dod yn ei le. Mae'n bryd i chi eistedd, ond wrth i chi gwympo ar y soffa, rydych yn suddo i mewn i gacen sinsir maint soffa. Ewch i'r gegin i gael diod. Mae braidd yn anodd cerdded ar draws llawr y gegin gan fod siwgr hyd at eich pengliniau a phan gyrhaeddwch y tegell, mae wedi troi'n botel o win. Mae'n well gen i win gwin ond gallwch ddychmygu gwin coch os hoffech. Rhowch y gorau iddi ac ewch i gael mygaid o ddŵr. Yn anffodus, wrth i chi estyn myg o'r cwpwrdd, mae wedi'i lenwi â thusw o flodau a phan fyddwch yn troi'r tap, siocled sy'n llifo allan yn hytrach na dŵr.

Ffigur 6 Eich siopa

Gadael sylw

Gadewch y rhestr siopa nawr am o leiaf awr ac yn y cyfamser, ceisiwch beidio â rhoi cynnig i weld p'un a ydych wedi cofio'r eitemau. Fwy na thebyg, tua awr yn ddiweddarach, y byddwch yn gallu cofio'r rhan fwyaf o'r eitemau ar y rhestr. Byddwch hyd yn oed yn gallu ailadrodd y rhan fwyaf o'r rhestr rai diwrnodau'n ddiweddarach.

Enghraifft gymharol ddibwys yw hon oherwydd byddai'r rhan fwyaf ohonom yn ysgrifennu ein rhestr siopa. Fodd bynnag, gobeithio ei bod wedi dangos i chi y gall llunio delweddau meddyliol fod yn gymorth pwerus i'r cof. Gellir addasu'r dechneg ar gyfer sefyllfaoedd eraill mwy perthnasol. Fe'i profwyd ar fyfyrwyr a oedd yn adolygu ar gyfer arholiadau lle y cafwyd ei bod yn gwella'r gallu i gofio. Er enghraifft, pe byddai'n rhaid i chi sefyll arholiad seicoleg, gallech lunio delweddau meddyliol o enghreifftiau o'r gwaith ymchwil rydych wedi'i ddarllen a threfnu'r delweddau hyn yn ddilyniant rhesymegol o amgylch eich cartref.

Gall defnyddio delweddau meddyliol i drefnu ein meddyliau wneud ein ffordd o feddwl a chofio yn llawer mwy effeithlon. Fodd bynnag, mae egwyddorion trefniadol eraill a all hefyd fod yn ddefnyddiol megis didoli gwybodaeth i gategorïau.