Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Dechrau gyda seicoleg
Dechrau gyda seicoleg

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.3 Llunio cysyniadau

Pan fyddwn yn meddwl am y byd, un ffordd o drefnu ein meddyliau yw drwy eu rhoi mewn categorïau. Gelwir y broses o ddatblygu categorïau yn llunio cysyniadau. Er enghraifft, mae 'anifail' yn gysyniad sy'n cynnwys is-gysyniadau eraill ac wedyn is-gysyniadau pellach. Gallem rannu anifeiliaid yn adar, pysgod, mamaliaid ac ati. Wedyn gellid rhannu adar yn frongochiaid, adar y to, tylluanod ac ati. Wrth gymhwyso ein cysyniadau, rydym yn dueddol o ddefnyddio cyfres o nodweddion diffiniol. Er enghraifft, byddem yn dosbarthu aderyn y to fel aderyn oherwydd bod ganddo nifer o nodweddion diffiniol rydym yn eu cysylltu ag adar megis adenydd, plu, pigau a hedfan. Fodd bynnag, er y gallai fod gennym gyfres o nodweddion diffiniol ar gyfer cysyniad megis aderyn, nid ydym yn eu cymhwyso mewn ffordd gaeth. Caiff pengwiniaid ac estrysod eu dosbarthu fel adar er nad ydynt yn hedfan.

Gweithgaredd 5: Diffinio cysyniad syml

Timing: 0 awr 5 o funudau

Beth sy'n gwneud bwrdd yn fwrdd? Mae gan bob un ohonom gysyniad o fwrdd a gallwn adnabod bwrdd yn hawdd boed yn fwrdd cinio, yn fwrdd gardd neu'n fwrdd coffi. A allwch gymryd eiliad i ysgrifennu rhestr o nodweddion diffiniol bwrdd?

Gadael sylw

Pan ofynnir y cwestiwn cymharol syml hwn, bydd y rhan fwyaf o bobl yn dweud wrthych fod gan fwrdd wyneb fflat, pedair coes i'w godi oddi ar y ddaear ac y gallwch roi pethau arno. Mae'n bosibl y byddant yn ychwanegu nodweddion eraill megis nodi mai eitem o ddodrefn ydyw ond ei fod yn aml wedi'i wneud o bren, er nad bob amser, ond y tair nodwedd gyntaf yw'r ymatebion a geir amlaf.

Fodd bynnag, edrychwch ar y llun isod.

Ffigur 7 Bwrdd annodweddiadol

Nid oes gan y bwrdd hwn bedair coes ond byddai'r rhan fwyaf ohonom yn dal i'w adnabod fel bwrdd gan fod ganddo wyneb fflat y gallwn roi pethau arno.

Yn yr un modd, gellid cymhwyso ein diffiniad o fwrdd fel eitem o ddodrefn â wyneb fflat a phedair coes yr un mor hawdd i stôl.

Profimedia International S.R.O/Alamy
Ffigur 8 Stôl

Felly er y byddem yn ei chael hi'n anodd dynodi ffordd o wahaniaethu rhwng bwrdd achlysurol bach a stôl, ni fyddem yn cerdded i mewn i ystafell fyw rhywun ac yn eistedd ar eu bwrdd achlysurol am ei fod yn rhannu'r un nodweddion â stôl. Felly, nid yw ein cysyniadau wedi'u diffinio'n glir ac ymddengys eu bod yn dibynnu ar yr hyn rydym yn disgwyl ei wneud â gwrthrych yn hytrach na sut rydym yn ei ddiffinio. Efallai y byddwch wedi clywed yr ymadrodd 'cysyniad aneglur' ('fuzzy concept' yn Saesneg) sy'n adlewyrchu'r anhawster a gawn wrth ddarparu diffiniadau manwl gywir.

Felly rydym yn adnabod y gwrthrych yn Ffigur 7 uchod fel bwrdd oherwydd gallem ei ddefnyddio i roi pethau arno fel llyfr, ein diod neu eitem addurnol. Stôl yw'r gwrthrych yn Ffigur 8 oherwydd byddem yn eistedd arno. Byddwn yn trefnu gwrthrychau o fewn yr un categori neu gysyniad os ydym yn gwneud yr un peth gyda hwy.

Rydym yn defnyddio cysyniadau mewn ffordd mor ddigymell fel mai anaml yr ydym yn ymwybodol ein bod yn eu defnyddio. Efallai ei bod yn haws gweld y broses hon ar waith pan fyddwn yn arsylwi plant yn datblygu eu ffordd o feddwl wrth iddynt geisio meistroli'r broses o ddatblygu cysyniadau. Mae plant yn aml yn gwneud camgymeriadau drwy orgyffredinoli cysyniad maent yn ceisio ei feistroli. Gallant fod wedi datblygu cysyniad ar gyfer ci fel anifail â blew, pedair coes a chynffon, ond wedyn gallent hefyd gymhwyso'r label hwn i gath neu ddafad neu hyd yn oed geffyl. Yn yr un modd, gallant ddysgu mai enw'r person tal â'r llais dwfn yw Dadi ac wedyn yn anffodus gyfeirio at unrhyw ddyn sy'n pasio fel Dadi.

Gall hefyd ddod yn amlwg faint rydym yn defnyddio cysyniadau wrth edrych ar ychydig o arbrofion cof. Rhowch gynnig ar yr arbrawf gyntaf yn y gweithgaredd isod drosoch eich hun.

Gweithgaredd 6: Prawf cof

Timing: 0 awr 10 o funudau

Darllenwch drwy'r rhestr geiriau isod unwaith gan geisio eu cofio ac wedyn sgroliwch y sgrîn hyd nes y bydd y rhestr yn diflannu ond y gallwch weld y ddolen 'Nawr darllenwch y drafodaeth' o hyd. Unwaith y byddwch wedi ysgrifennu cymaint o eiriau ag y gallwch eu cofio, cliciwch i ddarllen y drafodaeth.

  • Gwely

  • Eirin gwlanog

  • Het

  • Cadair freichiau

  • Cenhinen bedr

  • Crys

  • Rhosyn

  • Lemwn

  • Hosan

  • Llygad y dydd

  • Mefusen

  • Bwrdd

  • Blodyn menyn

  • Afal

  • Seidbord

  • Trowseri

Gadael sylw

Nawr eich bod wedi ysgrifennu'r holl eiriau y gallwch eu cofio, hoffwn i chi weld p'un a allwch gofio rhagor o eiriau gyda chymorth ambell i broc i'r cof. Mae'r rhestr yn cynnwys eitemau sy'n perthyn i'r categorïau canlynol; dodrefn, ffrwythau, dillad a blodau. A yw'r prociau wedi eich helpu i gofio rhagor o eiriau?

Edrychwch ar eich ymgais gyntaf i gofio'r geiriau. A wnaethoch sylweddoli bod y geiriau yn perthyn i gategorïau ac a wnaethoch eu cofio mewn clwsteri o gategorïau?

Os yn bosibl, gallech roi cynnig ar y prawf hwn gyda phobl eraill a chymharu eu canlyniadau gyda'ch canlyniadau chi.

Fersiwn syml o arbrawf gan Weston Bousfield (1953) yw'r arbrawf hwn. Gofynnodd Bousfield i'r cyfranogwyr ddysgu rhestr o 60 o eiriau y gellid eu rhannu i bedwar categori. Er bod y geiriau wedi'u cyflwyno ar hap, roedd y cyfranogwyr yn dueddol o'u cofio mewn grwpiau a oedd yn perthyn i'r un categori, felly pe byddent yn cofio afal, byddent wedyn yn cofio eirin gwlanog, lemwn a mefusen.

Yn ein fersiwn o'r arbrawf, gofynnwyd i chi hefyd roi ail gynnig ar gofio'r geiriau ar ôl i chi gael gwybod penawdau'r categorïau. Mae'r rhan fwyaf o gyfranogwyr yn y mathau hyn o arbrofion yn canfod er eu bod yn credu eu bod wedi cofio'r holl eiriau y byddant yn gallu eu cofio, y gallant mewn gwirionedd gofio mwy o eiriau unwaith y byddant wedi cael gwybod penawdau'r categorïau fel prociau.

Mae hyn yn dangos bod y wybodaeth hon ar gael iddynt ond na allent gael gafael arni heb y proc. Pan fyddwn yn ceisio cofio gwybodaeth wedi'i threfnu, ymddengys fod pob darn o'r wybodaeth yn darparu proc i'r darn nesaf gan ein bod wedi'i storio mewn ffordd drefnus yn hytrach nag ar hap.

Mae gwaith ymchwil gan George Mandler (1967) yn awgrymu drwy drefnu gwybodaeth ein bod yn ei dysgu er nad ydym yn gwneud unrhyw ymdrech i'w chofio. Cynhaliodd Mandler arbrawf lle rhoddwyd pecyn o 100 o gardiau yr un i ddau grŵp o gyfranogwyr. Roedd gair wedi'i argraffu ar bob cerdyn. Gofynnwyd i'r ddau grŵp o gyfranogwyr ddidoli'r cardiau i grwpiau. Caniatawyd iddynt gael sawl ymgais yn didoli'r cardiau. Yr unig wahaniaeth rhwng y ddau grŵp o gyfranogwyr oedd bod y grŵp cyntaf wedi cael cyfarwyddyd i geisio cofio'r geiriau ar y cardiau wrth iddynt eu didoli ond yr unig gyfarwyddyd a roddwyd i'r grŵp arall oedd i ddidoli'r cardiau. Yn ddiweddarach, pan brofwyd y ddau grŵp drwy ofyn iddynt ysgrifennu'r holl eiriau y gallent eu cofio, llwyddodd y grŵp y dywedwyd wrthynt ond i ddidoli'r geiriau gymaint o eiriau â'r grŵp y dywedwyd wrthynt i ddidoli a chofio'r geiriau.

Gweithgaredd 7: Nodi newidynnau eto

Timing: 0 awr 5 o funudau

Yn arbrawf Mandler, a allwch nodi'r newidynnau canlynol?

  1. y newidyn annibynnol

  2. y newidyn dibynnol

Gadael sylw

  1. Y newidyn annibynnol yw'r newidyn y mae'r arbrofwr yn dylanwadu arno, sef y cyfarwyddyd i geisio cofio'r geiriau a roddwyd i un grŵp yn unig.

  2. Y newidyn dibynnol yw nifer y geiriau a gofiwyd.

Gallech ddadlau, a hynny'n briodol, nad yw gallu cofio rhestrau o eiriau mewn grwpiau categori yn sgil arbennig o ddefnyddiol ar gyfer bywyd bob dydd. Fodd bynnag, gellir cymhwyso'r egwyddor o drefnu gwybodaeth fel bod eitemau cysylltiedig o fewn yr un grwpiau i weithgareddau fel darllen yr uned hon. Efallai y byddwch yn ymwybodol o dechneg mapio'r meddwl, sef ffordd o drefnu gwybodaeth er mwyn i chi allu gweld pa eitemau sy'n gysylltiedig â'i gilydd ac sut y maent yn berthnasol i eitemau eraill.

Mae cipddarllen yn ffordd dda o gael syniad cyffredinol o'r hyn a drafodir yn y deunydd rydych yn edrych arno. Gall y teitlau, yr is-deitlau, rhestrau o bwyntiau bwled a diagramau eich helpu i weld sut y trefnwyd y deunydd. Gall cadw'r drefn hon mewn cof fod yn ddefnyddiol wrth astudio. Gallwch ddechrau gyda braslun o'r ffordd y trefnwyd y deunydd ac wedyn ychwanegu ato neu ei ddiwygio wrth i chi wneud eich gwaith darllen manwl.

Nawr, edrychwn ar drydedd ffordd o drefnu ein meddyliau sy'n debyg iawn i'r broses o lunio cysyniadau ond yn fwy cynhwysfawr, sef defnyddio sgemâu.