Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Dechrau gyda seicoleg
Dechrau gyda seicoleg

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4 Cydberthnasau rhwng oedolion a chydberthnasau personol agos

4.1 Cyflwyniad

Wrth i bobl ifanc yn y DU dyfu i fod yn oedolion, mae'r potensial ar gyfer meithrin cydberthnasau agosach yn cynyddu'n sylweddol pan fyddant yn gadael cartref i fynd i'r brifysgol, yn ymgymryd â hyfforddiant galwedigaethol, neu'n symud yn uniongyrchol i'r gweithlu. Mae pob un o'r newidiadau hyn yn darparu cyfleoedd newydd i ddod i gysylltiad ag amrywiaeth o bobl wahanol. Mae'r lleoliadau newydd hyn yn aml yn cynnwys cyfleoedd i feithrin cydberthnasau personol agos.

Mae'r rhan fwyaf o waith ymchwil am gydberthnasau wedi canolbwyntio ar gydberthnasau mewn cymdeithasau gorllewinol, gyda'i syniad sylfaenol o gariad rhamantus a dewis rhydd o ran partneriaid. Dylid cofio nad dyma ymagwedd pob cymdeithas at gydberthnasau hirdymor o bell ffordd. A fyddech yn synnu o glywed bod y rhan fwyaf o briodasau ledled y byd wedi'u trefnu neu'n seiliedig fwy neu lai ar ystyriaethau y tu hwnt i gysyniadau o gariad rhamantus? Astudiodd David Buss (1994) ddinasyddion o wahanol wledydd a chafodd ganddo eu bod yn dueddol o nodi gwahanol resymau dros briodi. Er mwyn rhoi rhai enghreifftiau, nododd yn Iran fod ffactorau megis addysg, uchelgais a diweirdeb yn bwysicach wrth ddewis cymar ond yn Nigeria, roedd dinasyddion yn rhoi blaenoriaeth i iechyd da, coethder/taclusrwydd ac awydd am gartref/plant. Hefyd, mae'r rhan fwyaf o'r gwaith ymchwil yn y maes hwn wedi canolbwyntio ar gydberthnasau heterorywiol. Fodd bynnag, canfuwyd bod llawer mwy o nodweddion tebyg rhwng cydberthnasau hoyw a chydberthnasau heterorywiol na gwahaniaethau.

Mae'r adran hon yn canolbwyntio ar brofiadau pobl o gydberthnasau agos o ran beth sy'n creu'r atyniad cychwynnol a beth sy'n golygu ein bod yn aros gyda'n gilydd yn y tymor hwy.