Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Dechrau gyda seicoleg
Dechrau gyda seicoleg

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5 Pwysau gan grwpiau

5.1 Cyflwyniad

A ydych yn cofio clywed am 'Heaven's Gate', cwlt Dydd y Farn yng Nghaliffornia a gyfunodd elfennau o Gristnogaeth â'r gred bod pethau hedegog anhysbys (UFOs) yn bodoli? (Mae nifer o raglenni teledu poblogaidd, gan gynnwys CSI a The Simpsons, wedi selio straeon ar y cwlt hwn.) Ym mis Mawrth 1997, cyflawnodd 39 o aelodau'r grŵp hunanladdiad, o dan arweiniad Marshal Applewhite a Bonnie Nettles, yn y gred y câi eu henaid ei drosglwyddo i long ofod a oedd yn cuddio y tu ôl i gomed Hale-Bopp. Roedd y rhan fwyaf o aelodau'r cwlt wedi torri cysylltiad â'u teuluoedd ac wedi gwerthu eu holl eiddo bydol. Roeddent wedi ymrwymo i fywyd anghydweddog, ac roedd wyth o'r dynion wedi ymostwng i gael disbaddiad gwirfoddol (yn ôl pob tebyg, er mwyn paratoi ar gyfer lefel newydd di-ryw o fodolaeth).

Pam y gwnaeth yr aelodau hyn o'r grŵp ymddwyn mewn ffordd mor eithafol? A gawsant eu pwylldreisio? A oeddent yn syml yn wan ac yn agored i niwed, mewn gwirionedd yn dargedau hawdd i ddylanwadu arnynt? Er bod seicolegwyr yn cynnig amrywiaeth o esboniadau, byddai'r rhan fwyaf ohonynt yn cydnabod bod cyfuniad o ffactorau emosiynol a chymdeithasol yn berthnasol a byddai'r rhan fwyaf ohonynt yn dweud bod y ffactorau hyn yn mynd y tu hwnt i'r unigolyn, ei bersonoliaeth a'i rolau. Yn aml caiff bondiau cwlt eu creu drwy ffactorau megis yr ymlyniad emosiynol i'r grŵp a'r ffaith bod ofn arweinwyr pwerus yn gwneud i bobl deimlo'n ddibynnol ar y grŵp (Margaret Singer, 1995). Gall pobl gael eu denu gan y sicrwydd a gynigir drwy fod yn aelod o grŵp, lle bydd gennych ffrindiau o'ch amgylch bob amser ac y byddwch yn teimlo bod rhywun yn gofalu amdanoch a'ch bod yn ddiogel.

Mae'n werth edrych yn ddyfnach ar y ffordd y mae seicolegwyr cymdeithasol wedi ystyried y ffyrdd y mae grwpiau a hunaniaeth grŵp yn dylanwadu ar y ffordd y mae pobl yn meddwl ac yn ymddwyn. Yn yr adran hon, byddwch yn ystyried gwahanol feysydd ymchwil sy'n ymwneud â grwpiau poblogaidd/amhoblogaidd ('in-groups/out-groups' yn Saesneg), a 'phwysau gan grwpiau a chydymffurfiaeth'.