Transcript
TIM
Iawn. Cefais y pwl o banig cyntaf yn y gwaith. Roeddwn i’n eistedd wrth fy nesg. Ar y pryd, roeddwn i’n gweithio mewn canolfan alwadau yn gwerthu ffonau symudol ac roedd grŵp ohonom ni – roedd y tîm o fy amgylch. Roedd y galwadau wedi tawelu felly roedd pawb yn sgwrsio. Mae’n debyg fy mod yn dal sylw pobl gyda beth roeddwn i’n ei ddweud a hanner ffordd trwy’r sgwrs gwnes i anghofio’n llwyr am beth roeddwn i’n siarad a doeddwn i ddim yn gallu cofio beth oedd yn dod nesaf ac yna – fel dwi’n ei ddweud, roedd ganddo’i fywyd ei hun. Yn amlwg, ar y pryd roedd yr adrenalin yn cynyddu’n sylweddol. Doeddwn i ddim yn gallu siarad. Roeddwn i’n teimlo bod pobl yn edrych arnaf i. Felly, mae ymdeimlad o gyfrifoldeb a rhywfaint o gywilydd ac yna dwi’n methu cofio beth rydw i’n ei wneud. Gwnes i ddechrau teimlo’n wirion. Gwnes i ddechrau teimlo’n rhyfedd – mae fel ffynnon sy’n llenwi, ac mae’n swnio’n ddramatig ond does dim modd ei reoli –
Mae’n rhyfedd iawn oherwydd mae’n debyg bod y profiad ond yn para tua deg neu ugain eiliad i bobl eraill ond mae’n teimlo fel ei fod yn para dyddiau ar y tu mewn. Mae popeth yn arafu i lawr. Gwnes i rewi. Gwnes i rewi oherwydd doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd. Doeddwn i ddim yn gallu siarad. Roeddwn mewn ystafell yn llawn o bobl, ac mae’n debyg roeddwn eisiau iddyn nhw fy mharchu a chymryd sylw ohonof i. Dwi ddim yn gwybod. Felly dydy hyn ddim ar eich meddwl - ddim ar ein meddyliau pan rydyn ni’n siarad ond pan fydd pwl o banig yn dod yn rhan ohono, mae'n ymddangos bod y ffaith eich bod yn chwilio am sylw a pharch yn dod yn rhan o’r sefyllfa. Ydy hynny’n gwneud unrhyw synnwyr? Yn sydyn, mae popeth yn bwysig. Allwch chi ddim meddwl. Mae fel pêl eira. Mae hyn yn bwysig. Mae hyn yn bwysig. Mae’n rhaid i chi wneud hyn. Dylech wneud hynny. Mae’n rhaid i chi ddianc. Mae cannoedd o feddyliau yn dod i’ch pen ar unwaith ac dydych chi ddim yn gallu dal gafael ar un penodol oherwydd mae un arall yn dod sy’n bwysicach na’r un blaenorol ac mae’n anodd ymdopi. Ond yr unig beth dwi’n cofio ydy fy mod i wedi rhewi. Fel bachgen un ar hugain oed, wnes i ddim cymryd y peth o ddifrif, gan ddweud mod i ddim yn gwybod beth ddigwyddodd a chwerthin gyda fy ffrindiau. Ond roedd o wedi fy nychryn ac ar ôl cael pwl o banig, dwi’n teimlo wedi ymlâdd. Mae’n newid fy niwrnod. Os ydw i’n cael pwl o banig, mae’r diwrnod sy’n dilyn am fod yn un drwg hefyd.