Transcript

NATALIE
Dwi’n cofio un adeg, ond ddim yn siŵr pa flwyddyn oedd hi - tua 2008 efallai, roeddwn i’n ceisio twyllo fy hun i feddwl mod i’n iawn a bod popeth mewn trefn oherwydd dyna beth sy’n fy helpu i ddelio â fy mhyliau o banig. Dwi angen gwybod i ble rwy’n mynd, pryd, pwy fydd yno a sut fydda i’n gadael y sefyllfa. Dyna un o’r ffyrdd rydw i’n lleihau fy mhanig. Gwnes i berswadio fy hun fy mod i’n iawn i wneud rhywfaint o siopa Nadolig y flwyddyn honno ac roedd fy nhad am fy ngyrru i’r dref. Roeddwn i’n gwybod yn union i ba dair siop roeddwn yn mynd, ac yna roedd fy mam am ddod i fy nôl. Cyrhaeddais yn y dref. Roedd y profiad yn ysgubol. Alla i ddim egluro. Roedd yn ormod i mi. Roedd yr holl bobl yn cerdded i fy nghyfeiriad. Daeth rhywun ataf i’n ceisio gwerthu Big Issue a doeddwn i ddim yn gallu delio â’r bobl. Roedd popeth yn ormod i mi. A dwi’n cofio rhedeg – ac roedd hynny’n gwneud i mi deimlo cywilydd – i mewn i Debenhams a bod yn sâl yn y toiledau. Dim ond ers pum munud oeddwn I wedi bod yno. Roeddwn i’n crynu fel deilen. Doeddwn i ddim yn gallu siarad yn iawn a dwi’n cofio, dal yn y ciwbicl toiled, ffonio fy mam i ofyn iddi ddod i fy nôl a’i hymateb hi oedd ‘beth?’ Beth sy’n bod – beth sy’n bod arnat ti? Roedd fy nghoesau fel jeli ac roedd yn teimlo bod popeth o fy amgylch yn digwydd yn araf. Dryswch llwyr.