1.3 Profiad o anhwylder panig
Hyd yma, rydych wedi dysgu sut mae gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl yn diffinio pyliau o banig ac anhwylder panig. Fodd bynnag, ydy barn y gweithwyr proffesiynol yn cyd-fynd â barn y rheini sy’n cael diagnosis o anhwylder panig? Sut beth yw anhwylder panig? Dyma’r cwestiynau y byddwch yn edrych arnynt yn y gweithgaredd canlynol.
Gweithgaredd 3 Sut beth yw anhwylder panig?
Yn y clip sain canlynol byddwch yn gwrando ar y Seicolegydd Roger Baker, sef arbenigwr panig, yn siarad â thri o bobl sydd wedi profi pyliau o banig dros y blynyddoedd. Mae profiadau’r tri o gael pyliau o banig wedi difetha eu bywydau, ac oherwydd hynny, gellir ystyried bod ganddynt anhwylder panig. Mae Natalie wedi ymddeol fel athrawes ac mae hi’n hyfforddi i fod yn gwnselydd. Mae Tim yn rheolwr mewn cyfleuster iechyd meddwl ac mae Alan yn gogydd hyfforddedig nad yw yn gweithio ar hyn o bryd. Er bod pob un ohonynt yn wahanol, mae’r clip sain yn dangos yn glir bod panig yn gallu cael effaith ddifrifol ar fywyd unrhyw un. Gwrandewch ar y clip sain canlynol ac yna ateb y cwestiwn isod.
Darparwyd y fersiwn sain Gymraeg gan artistiaid trosleisio. Mae’r ffeil sain wreiddiol ar gael yma [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .
Transcript: Clip sain 1 Profi panig
Beth mae Tim, Natalie ac Alan yn ei ddweud am eu profiadau o byliau o banig?
Discussion
Mae Tim, Natalie ac Alan yn siarad am deimladau corfforol, fel teimlo bod eich calon yn rasio, neu deimlo’n sâl yn gorfforol. Maen nhw hefyd yn siarad am y teimladau (teimlo’n ddagreuol) a’r meddyliau negyddol (“Dwi’n colli arni’, Dwi’n fethiant’) sy’n codi pan maen nhw’n cael pwl o banig.
Nawr, gwrandewch ar y ddau glip sain byr nesaf, gyda Tim yn siarad am ei bwl o banig cyntaf erioed a Natalie yn siarad am bwl o banig a gafodd mewn siop.
Transcript: Clip sain 2 Pwl o banig cyntaf Tim
Transcript: Clip sain 3 Pwl o banig Natalie
Tim a Natalie yn rhannu eu profiadau o byliau o banig. Beth sy’n sefyll allan i chi?
Discussion
Bydd pobl wahanol yn sylwi ar bethau gwahanol yn ymateb Tim a Natalie ond un peth allai fod yn amlwg yw gymaint mae profi pwl o banig yn llethu rhywun – mae’n ddwys, yn amhosibl ei stopio ac yn gwneud i chi deimlo wedi ymlâdd wedyn.