Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Pyliau o banig: beth ydyn nhw a beth allwch chi ei wneud amdanyn nhw
Pyliau o banig: beth ydyn nhw a beth allwch chi ei wneud amdanyn nhw

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.2 Ymateb ag ofn

Mae pwl o banig yn cynnwys rhywun yn profi cyfres o adweithiau corfforol sy’n gysylltiedig â theimlo’n ofnus, ond yn aml mae hyn heb unrhyw beth i’w ofni.

Gelwir y gyfres hon o ymatebion corfforol yn ‘ymateb ag ofn’. Yn y set nesaf o ddarlleniadau, mae’r Athro Roger Baker yn disgrifio sut gallech ymateb ag ofn os byddai rhywun yn sydyn yn eich bygwth â chyllell.

Gweithgaredd 5 Ymateb y corff i ofn

Timing: Allow approximately 15 minutes

Darllenwch y rhan lle mae’r Athro Roger Baker yn trafod ymateb ag ofn here [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .

Gallwch wylio’r Athro Roger Baker yn siarad am ymateb ag ofn yn Saesneg yma.

Yn eich barn chi, pam gallai ymateb ag ofn fod yn beth da?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Discussion

Mae ofn yn paratoi’r corff i ymateb i beryg – i frwydro neu redeg i ffwrdd. Mae’n ymateb pwysig yn y corff er mwyn goroesi!

Nawr darllenwch yr ail gyfweliad hwn, lle mae’r Athro Roger Baker yn egluro beth fydd yn digwydd pan fydd ofn yn cael ei sbarduno mewn camgymeriad yn ystod pwl o banig.

Gallwch wylio'r Athro Roger Baker yn Saesneg yma.

Beth yw neges allweddol yr Athro Roger Baker?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Discussion

Mae’r Athro Roger Baker yn nodi bod yr ofn yn gorfod bod yn ddwys er mwyn eich helpu allan o beryg. Ond mae hefyd yn dweud na fydd ymateb ag ofn yn achosi niwed, hyd yn oed os yw’r teimlad yn annymunol. Ni fydd yn eich lladd – dim ond teimlo fel y gallai.

Er mwyn pwysleisio’r pwynt hwn, rhowch gynnig ar y gweithgaredd canlynol.

Gweithgaredd 6 Ofn bod ofn

Timing: Dylech ganiatáu tua 5 munud

Dylech baru’r atebion cywir â’r datganiad.

Gan ddefnyddio'r ddwy restr ganlynol, parwch bob eitem sydd wedi'i rhifo â'r llythyren gywir.

  1. fel y gall eich achub chi mewn argyfwng

  2. ond mae wedi’i ddylunio i’ch achub chi (nid eich lladd)

  3. ofni ymateb ag ofn

  • a.Mae ofn yn deimlad ofnadwy:

  • b.Un o'r prif bethau sy’n sbarduno pwl o banig yw:

  • c.Mae ofn yn ymateb cryf iawn:

The correct answers are:
  • 1 = c
  • 2 = a
  • 3 = b

Discussion

Gan fod teimlo ofn yn ddirybudd yn frawychus iawn, mae pobl yn ofni’r teimladau corfforol hynny er nad ydyn nhw byth bron yn achosi niwed. Ac mae bod ofn yr ymateb hwn yn golygu bod pobl yn dod yn sensitif i ymatebion eu corff – sy’n ei gwneud yn fwy tebygol y gallai person gael pwl o banig arall.