Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Pyliau o banig: beth ydyn nhw a beth allwch chi ei wneud amdanyn nhw
Pyliau o banig: beth ydyn nhw a beth allwch chi ei wneud amdanyn nhw

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.3 Rôl dehongliadau mewn pyliau o banig

Described image
Ffigur 5 Pan fydd ofn yn lliwio dehongliadau

Mae ymchwil yn awgrymu y bydd mwy nag un person o bob deg yn profi pwl o banig o leiaf unwaith yn eu bywydau, ond dim ond rhwng un o bob ugain ac un o bob chwe deg fydd yn datblygu anhwylder panig. Felly pam mai dim ond y lleiafrif o’r rheini sy’n cael pyliau o banig sy’n datblygu anhwylder panig? Yn unol â model gwybyddol anhwylder panig, mae un syniad yn cael ei ategu gan ymchwil, sef bod y rheini sydd â dehongliadau trychinebus yn fwy tebygol o ddatblygu anhwylder panig. Gan eu bod nhw’n bwysig, mae’r adran nesaf yn canolbwyntio ar ddysgu mwy am arfarniadau trychinebus.

Er mwyn deall hyn yn well, byddwch nawr yn darllen disgrifiad o bwl o banig sydd wedi’i ysgrifennu gan ddyn o'r enw Stanley Law.

Gweithgaredd 7 Adnabod dehongliadau

Timing: Dylech ganiatáu tua 15 munud

Yn y darn hwn, mae Stanley yn disgrifio ei bwl o banig cyntaf erioed. Fe ddigwyddodd ar ôl cyfnod hir o waith caled a phrofiadau dychrynllyd adeg y Blitz yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd newydd briodi ac ar ei wyliau yng Nghymru.

Wrth i chi ddarllen, meddyliwch sut gwnaeth Stanley Law ddehongli (gwneud synnwyr) ei bwl o bryder. Yn ei farn o, beth oedd o? Beth oedd o’n meddwl oedd yn digwydd a beth oedd o’n meddwl oedd am ddigwydd nesaf? Hefyd, dylech feddwl beth rydych chi’n meddwl sy’n digwydd.

Profiad Stanley Law o banig

Ar fore’r pumed diwrnod, es i dorri a golchi fy ngwallt a threfnais i gwrdd â fy ngwraig yn hwyrach ymlaen ger y cloc mawr wrth ymyl y pier. Roedd rhaid i mi aros pedwar deg munud cyn eistedd ar y gadair, a dechreuais deimlo’n anesmwyth. Am yr ugain munud cyntaf, roeddwn yn teimlo llonyddwch braf, doedd hyn ddim yn deimlad anghyfforddus nac annaturiol i rywun ar wyliau. Diflannodd y teimlad hwn yn araf a dechreuais deimlo’n anystwyth a doeddwn ddim yn deall pam. Roeddwn i’n ysu i’r driniaeth ddod i ben, roeddwn i eisiau mynd allan i’r awyr agored eto. Roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n iawn ar ôl mynd allan i’r haul.

Ond roedd codi a gadael yn beth hurt i’w wneud, yn arbennig ar ôl aros am gymaint o amser. Roedd y broses o dorri fy ngwallt yn iawn, roedd y barbwr yn llawn sgwrs. Plygais dros y sinc i olchi fy ngwallt a dechreuodd y tensiwn adeiladu unwaith eto. Roeddwn yn teimlo rhyddhad mawr wrth eistedd lawr unwaith eto er mwyn aros i rywun sychu fy ngwallt. Fel arfer, wrth gwrs, roedd sychwr gwallt trydan yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hyn ond nid oedd y cwmni yma’n defnyddio pethau modern a moethus fel hyn. Estynnodd y dyn dywel a dechrau rhwbio fy ngwallt gyda’i holl egni.

... dechreuodd teimladau cryfach a rhyfeddach nag oeddwn erioed wedi’u cael o’r blaen ruthro trwy fy nghorff. Roedd fy ngwddf yn teimlo ar dân; roedd yn sgrechian am ddŵr; roedd fy nghalon yn curo’n gyflym ac roeddwn yn meddwl fy mod ar fin marw. Neidiais i fyny, taflu fy arian at y barbwr a baglu allan i’r stryd.

Wrth gerdded yn ôl at y cloc ym mhen draw’r pier, roeddwn yn crynu’n wyllt. Roeddwn yn chwilio am fy ngwraig; ar y pryd roeddwn yn teimlo mai dim ond gweld Joyce fyddai’n fy achub. Nid oeddwn yn gallu ei gweld yn unman a chefais drawiad arall, un cryfach. Ceisiais gerdded i ffwrdd ond doeddwn i ddim yn gallu. Roeddwn yn gwbl anhyblyg, roedd fy nghoesau’n teimlo fel eu bod wedi’u clymu at bwysau, ond llwyddais i symud rhywfaint. Cefais ysgytiad yn fy nghorff, roedd fel cael sioc drydanol. Roeddwn i fel torch o weiren ddur. Ceisiais droi i gael gwared â’r teimladau dieflig a oedd yn fy meddiannu. Gwnes i gau fy llygaid ond roedd hyn yn gwneud pethau’n waeth. Roedd fy mhen yn troi. Roeddwn yn teimlo bod fflach o olau yn cymryd drosof ac yn cynyddu mewn pŵer a drygioni.

Roeddwn i bron â sgrechian, disgynnais ar fy ngliniau ac ysgwyd fy mhen yn wyllt. Roedd yn ymddangos bod popeth yn chwalu. Wrth blycio a chrynu, ceisiais wthio’r teimladau drwg o fy nghorff. Doeddwn i ddim yn gallu anadlu ac roedd fy nghalon yn rasio. Roedd fy ngwddf yn llosgi ac yn cau fel feis, a bob tro roeddwn i’n symud, roeddwn yn cael gwingiadau o ofn drwy fy nghorff.

Roeddwn i allan o wynt, ceisiais godi ar fy nhraed i ddianc oddi wrth y peth drwg hwn a oedd yn ceisio dwyn fy hunaniaeth, fy mywyd. Roeddwn i’n chwilio’n wyllt am Joyce ond roeddwn ond yn gallu gweld amlinelliad pobl yn mynd heibio.

Gyda fy nghalon yn curo fel gordd a chwys yn llifo o’m corff, roeddwn yn cael trafferth anadlu a byw. Mewn anobaith, taflais fy hun i’r ffordd. Yna, roedd rhywun yn ceisio fy nghodi, yn siarad â mi ac yn fy nghynnal.

‘Beth sy’n bod?’ dywedodd llais dyn. ‘Beth sy’n bod?’

(Law, 1975, tt. 52–3)

Yn y disgrifiad personol a bywiog hwn o Stanley yn profi ei bwl cyntaf o banig, mae’n ceisio rhoi ei brofiad hunllefus mewn geiriau. Mae’n ceisio gwneud synnwyr o beth sy’n digwydd iddo lawer gwaith yn ystod y profiad. A ydych chi’n gallu adnabod y dehongliadau mae Stanley yn eu gwneud? Ysgrifennwch eich ateb yn y blwch testun isod.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Discussion

Mae rhai o’r prif ddehongliadau mae Stanley’n eu gwneud wedi’u nodi mewn print trwm.

Ar fore’r pumed diwrnod, es i dorri a golchi fy ngwallt a threfnais i gwrdd â fy ngwraig yn hwyrach ymlaen ger y cloc mawr wrth ymyl y pier. Roedd rhaid i mi aros pedwar deg munud cyn eistedd ar y gadair, a dechreuais deimlo’n anesmwyth. Am yr ugain munud cyntaf, roeddwn yn teimlo llonyddwch braf, doedd hyn ddim yn deimlad anghyfforddus nac annaturiol i rywun ar wyliau. Diflannodd y teimlad hwn yn araf a dechreuais deimlo’n anystwyth a doeddwn ddim yn deall pam. Roeddwn i’n ysu i’r driniaeth ddod i ben, roeddwn i eisiau mynd allan i’r awyr agored eto. Roeddwn yn meddwl y byddwn i’n iawn ar ôl mynd allan i’r haul.

Ond roedd codi a gadael yn beth hurt i’w wneud, yn arbennig ar ôl aros am gymaint o amser. Roedd y broses o dorri fy ngwallt yn iawn, roedd y barbwr yn llawn sgwrs. Plygais dros y sinc i olchi fy ngwallt a dechreuodd y tensiwn adeiladu unwaith eto. Roeddwn yn teimlo rhyddhad mawr wrth eistedd lawr unwaith eto er mwyn aros i rywun sychu fy ngwallt. Fel arfer, wrth gwrs, roedd sychwr gwallt trydan yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hyn ond nid oedd y cwmni yma’n defnyddio pethau modern a moethus fel hyn. Estynnodd y dyn dywel a dechrau rhwbio fy ngwallt gyda’i holl egni.

... dechreuodd teimladau cryfach a rhyfeddach nag oeddwn erioed wedi’u cael o’r blaen ruthro trwy fy nghorff. Roedd fy ngwddf yn teimlo ar dân, roeddwn i’n meddwl fy mod ar fin marw. Neidiais i fyny, taflu fy arian at y barbwr a baglu allan i’r stryd.

Wrth gerdded yn ôl at y cloc ym mhen draw’r pier, roeddwn yn crynu’n wyllt. Roeddwn yn chwilio am fy ngwraig; ar y pryd roeddwn i’n teimlo mai dim ond gweld Joyce fyddai’n fy achub. Nid oeddwn yn gallu ei gweld yn unman a chefais drawiad arall, un cryfach. Ceisiais gerdded i ffwrdd ond doeddwn i ddim yn gallu. Roeddwn yn gwbl anhyblyg, roedd fy nghoesau’n teimlo fel eu bod wedi’u clymu at bwysau, llwyddais i symud rhywfaint. Cefais ysgytiad yn fy nghorff, roedd fel cael sioc drydanol. Roeddwn i fel torch o weiren ddur. Ceisiais droi i gael gwared â’r teimladau drwg a oedd yn fy meddiannu. . Gwnes i gau fy llygaid ond roedd hyn yn gwneud pethau’n waeth. Roedd fy mhen yn troi. Roeddwn yn teimlo bod fflach o olau yn cymryd drosof ac yn cynyddu mewn pŵer a drygioni.

Roeddwn i bron â sgrechian, disgynnais ar fy ngliniau ac ysgwyd fy mhen yn wyllt. Roedd yn ymddangos bod popeth yn chwalu. Wrth blycio a chrynu, ceisiais wthio’r teimladau drwg o fy nghorff. Doeddwn i ddim yn gallu anadlu ac roedd fy nghalon yn rasio. Roedd fy ngwddf yn llosgi ac yn cau fel feis, a bob tro roeddwn i’n symud, roeddwn yn cael gwingiadau o ofn drwy fy nghorff.

Roeddwn i allan o wynt, ceisiais godi ar fy nhraed i ddianc oddi wrth y peth drwg hwn a oedd yn ceisio dwyn fy hunaniaeth, fy mywyd. Roeddwn i’n chwilio’n wyllt am Joyce ond roeddwn ond yn gallu gweld amlinelliad pobl yn mynd heibio.

Gyda fy nghalon yn curo fel gordd a chwys yn llifo o’m corff, roeddwn yn cael trafferth anadlu a byw. Mewn anobaith, taflais fy hun i’r ffordd. Yna, roedd rhywun yn ceisio fy nghodi, yn siarad â mi ac yn fy nghynnal.

‘Beth sy’n bod?’ dywedodd llais dyn. ‘Beth sy’n bod?’

Ar y dechrau, mae’n meddwl bod y teimladau corfforol mae’n eu profi yn golygu ei fod am farw (‘roeddwn i’n meddwl fy mod ar fin marw’). Yna mae’n meddwl mai dim ond ei wraig (sydd ddim yno) fydd yn gallu ei achub rhag marwolaeth (‘roeddwn i’n teimlo mai dim ond gweld Joyce fyddai’n fy achub’). Nesaf, mae’n dehongli ei deimladau corfforol fel rhai ‘drwg’ ac yn arwydd ei fod yn cael ei feddiannu gan rywbeth drwg. Mae’n dweud bod y drwg yn ceisio ei ladd a’i ddileu hefyd (‘dwyn fy hunaniaeth’). Nid yw’n syndod bod Stanley’n panicio o ystyried y ffordd mae’n dehongli beth sy’n digwydd iddo.