Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Pyliau o banig: beth ydyn nhw a beth allwch chi ei wneud amdanyn nhw
Pyliau o banig: beth ydyn nhw a beth allwch chi ei wneud amdanyn nhw

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.1 Therapi ar gyfer anhwylder panig

Mae sylfaen ymchwil sylweddol sy’n dweud mai therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) yw'r therapi mwyaf dibynadwy ac mae tystiolaeth gadarn o’i blaid fel therapi ar gyfer anhwylder panig. O ganlyniad, therapi gwybyddol ymddygiadol yw’r driniaeth seicolegol sy’n cael ei hargymell fwyaf ar gyfer pyliau o banig ym Mhrydain. Oherwydd hynny, yma byddwn yn canolbwyntio ar therapi gwybyddol ymddygiadol ar gyfer anhwylder panig. Wrth gwrs, er bod tystiolaeth yn dangos bod therapi gwybyddol ymddygiadol yn effeithiol ar gyfer anhwylder panig, nid yw’n dweud y bydd yn ‘gweithio’ i bawb.

Yn yr adran ddiwethaf roeddech wedi darllen bod tair elfen bwysig i’r model gwybyddol o anhwylder panig, sef:

  • ofni’r teimladau corfforol sy’n gysylltiedig ag ofn
  • dehongliadau trychinebus o’r teimladau corfforol hynny
  • osgoi ac ymdopi, sef yr ymddygiadau y mae unigolion yn eu defnyddio i geisio osgoi’r teimladau corfforol hynny

Yn rhesymegol, mewn therapi gwybyddol ymddygiadol sydd â’r nod o drin anhwylder panig, mae’r holl nodweddion hyn yn cael eu targedu. Dyma nodau’r therapi:

  1. adnabod dehongliadau trychinebus (bod anadlu rhywfaint yn gyflymach na’r arfer yn golygu fy mod am farw)
  2. creu dealltwriaethau eraill (rhai sydd ddim yn drychinebus) o symptomau corfforol (hynny yw, dydy anadlu ychydig yn gyflymach ddim yn golygu fy mod am fygu a marw, mae’n golygu nad ydw i’n ffit iawn)
  3. annog unigolyn i stopio osgoi ac ymdopi er mwyn gallu cyflawni 1 a 2.

Yn hollbwysig, yr hyn sy’n wahanol am therapi gwybyddol ymddygiadol ar gyfer anhwylder panig yw bod unigolion sy’n cael pwl o banig yn cael eu hannog i wneud arbrofion ymddygiad yn ogystal â siarad (sgwrsio) – mae rhagor o wybodaeth am hyn isod.