Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Pyliau o banig: beth ydyn nhw a beth allwch chi ei wneud amdanyn nhw
Pyliau o banig: beth ydyn nhw a beth allwch chi ei wneud amdanyn nhw

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.2 Beth sy’n digwydd o ran therapi gwybyddol ymddygiadol ar gyfer panig?

Described image
Ffigur 9 Wynebu’r ofn

Mewn therapi gwybyddol ymddygiadol i drin panig, prif nod y therapydd yw newid credoau neu ddehongliadau (safbwyntiau) yr unigolyn am byliau o banig (meddyliwch yn ôl i Stanley Law). Y syniad y tu ôl i hyn yw bod yr unigolyn wedi gwneud camgymeriad mawr wrth geisio deall beth yw panig a beth allai ei wneud iddo. Os gellir cywiro’r credoau neu’r dehongliadau hyn, bydd yr unigolyn yn llai ofnus o banig, ac o ganlyniad i hynny, bydd y pyliau o banig yn llai difrifol ac yn digwydd yn llai aml.

Fel arfer, i ddechrau, mae'r broses yn cynnwys canfod beth sy’n digwydd drwy asesiad clinigol sy’n canolbwyntio ar ddeall pryd a sut mae’r pyliau o banig yn digwydd ac yna gweithio’n systematig i newid sut mae person yn ymateb i bwl o banig. Mae’r asesiad yn cynnwys adnabod dehongliad unigolyn o banig ac adnabod eu hymddygiad (amddiffynnol) o osgoi ac ymdopi.

Asesu dehongliadau o banig: Yr asesiad o gredoau unigolyn am banig/byliau o banig yw’r cam cyntaf mewn therapi. Mae gan bawb gredoau gwahanol am banig; fel arfer mae amrywiaeth eang o safbwyntiau cymhleth am banig a thasg y therapydd yw deall a datrys y rhain. Er enghraifft, efallai bydd unigolyn yn credu bod y teimladau panig yn arwydd ei fod ar fin cael trawiad ar y galon ac y bydd yn llewygu, neu efallai bydd yn meddwl mai’r panig yw cam cyntaf chwalfa nerfol na fydd byth yn gwella ohoni.

Asesu’r ymddygiad amddiffynnol: Yn ystod yr asesiad, mae’r therapydd yn gorfod canfod holl strategaethau’r unigolyn (neu ei ‘ymddygiadau amddiffynnol’) ar gyfer delio â’i drychinebau dychmygol. Er enghraifft, efallai bydd yr unigolyn yn yfed dŵr, yn cymryd cyffur i ladd poen, yn gorwedd i lawr, yn arafu os yw’n meddwl ei fod yn cael trawiad ar y galon, neu’n ceisio gwrthsefyll teimladau o afrealiti a phendro drwy ysgwyd ei ben, os yw’n meddwl bod yr hyn mae’n ei brofi’n un o gamau cyntaf chwalfa nerfol.

Ar ôl gorffen yr asesiad, fel arfer mae therapi gwybyddol ymddygiadol ar gyfer panig yn cynnwys dwy elfen:

  • Arbrofion ymddygiad lle bydd yr unigolyn yn dysgu drwy brofiad personol na fydd panig yn achosi niwed iddyn nhw. Mae hyn yn cynnwys yr unigolyn yn peidio â defnyddio ei ymddygiad amddiffynnol.
  • Ailstrwythuro gwybyddol, lle mae’r therapydd yn defnyddio dull ‘didactig’ (addysgol) i helpu’r unigolyn i edrych yn rhesymegol ar ei gredoau, er mwyn iddo ddeall bod y credoau yn ddi-sail ac yn anghywir.

Mewn ffordd, mae'r arbrofion ymddygiad yn gweithio ar lefel anymwybodol ac mae ailstrwythuro gwybyddol yn gweithio ar lefel ymwybodol. Gellir gwneud yr arbrofion yn swyddfa’r therapydd neu mewn lleoliad lle mae’r unigolyn yn debygol o deimlo panig, fel mewn archfarchnad. Mae ailstrwythuro gwybyddol fel arfer yn digwydd yn swyddfa’r therapydd. Mae’r mwyafrif o therapyddion therapi gwybyddol ymddygiadol yn defnyddio cyfuniad o’r ddau ddull, ond oherwydd ei bod yn gyflymach ac yn haws i’r therapydd weithio o’i swyddfa ei hun, maen nhw’n aml yn dibynnu ar y cleifion i wneud ‘gwaith cartref’ ar gyfer yr ymarferion ymarferol.

Gweithgaredd 9 Enghraifft o therapi llwyddiannus

Timing: Dylech ganiatáu tua 20 munud

Darllenwch ddarn o lyfr Roger Baker, sef Understanding Panic Attacks and Overcoming Fear. Mae’n cynnwys manylion am y therapi gwybyddol ymddygiadol a dderbyniodd Ralph, myfyriwr ôl-raddedig 28 oed sy’n dioddef o byliau o banig andwyol.

Ralph: enghraifft o therapi llwyddiannus [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]

Gadael sylw

Wrth i chi ddarllen y disgrifiad o therapi gwybyddol ymddygiadol Ralph ar gyfer anhwylder panig, fe welwch restr hir iawn o ymddygiadau osgoi ac ymdopi mae Ralph yn eu defnyddio rhwng ac yn ystod pyliau o banig. Byddwch yn sylwi ar sut mae’r therapydd (Roger) a Ralph yn gweithio gyda’i gilydd i ddeall sut mae hanes ei fywyd wedi arwain ato’n datblygu dehongliad trychinebus bod symptomau corfforol panig yn golygu ei fod yn dirywio ac yn colli arni. Mae’r achos enghreifftiol yn dangos pa mor gymhleth ac unigryw yw profiad unigolion o anhwylder panig a’r driniaeth maen nhw’n ei chael ar ei gyfer.