Fy llinell amser

Ffigur 2.4

Gweithgaredd 2.2 Fy llinell amser

Dylech dreulio tua 15 munud ar y gweithgaredd hwn.

Ar ôl edrych ar enghreifftiau Claire a Christine, rhowch gynnig ar dynnu eich llinell amser eich hun.

Defnyddiwch daflen gweithgaredd 2.2 a ddarparwyd

NEU

Ewch i Weithgaredd 2.2 yn eich Cofnod Myfyrio. Pan fyddwch wedi cwblhau eich gweithgaredd, gwnewch yn siŵr eich bod yn arbed y ddogfen eto.

Cofiwch mai chi sy'n dewis beth i'w gynnwys a'r llinell amser rydych am ganolbwyntio arni - eich bywyd cyfan, neu gyfnod penodol. Nid oes angen i hyn fod yn or-fanwl . Rhoddir pethau drwg yn hanner waelod y dudalen a phethau da yn yr hanner uchaf, fel y mae Claire a Christine wedi'i wneud.

Os ydych yn astudio mewn grŵp, efallai y byddwch am rannu eich llinell amser ag eraill.