Yr hyn rwyf wedi'i ddysgu o brofiad blaenorol
Yn y gweithgaredd nesaf, hoffem i chi feddwl am eich profiadau blaenorol a cheisio nodi beth rydych wedi'i ddysgu ohonynt.
Gweithgaredd 2.3 Dysgu o brofiad
Edrychwch ar eich llinell amser eich hun eto a meddyliwch am yr hyn rydych wedi'i ddysgu o'ch profiad. Wrth edrych ar y pethau da a'r pethau drwg, a yw'n eich helpu i gofio sut roeddech yn teimlo ar bob adeg? Beth a ddysgoch o bob sefyllfa? Efallai y gwnaethoch ddysgu mwy am eich rhinweddau unigol a'r math o waith sy'n gweddu i chi: rhinweddau fel 'gweithio'n galed', 'bod yn addfwyn' neu'n 'wydn', efallai? Neu efallai y gwnaethoch ddarganfod bod angen i chi newid cyfeiriad?
Bydd profiad pawb yn wahanol. Nid oes ateb cywir nac anghywir.
Gallwn weld bod dysgu yn digwydd yn barhaus drwy gydol ein bywydau, drwy'r da a'r drwg.
Ychwanegwch eich barn ar hyn at eich llinell amser mewn lliw gwahanol neu defnyddiwch daflen gweithgaredd 2.3
NEU
Ewch i Weithgaredd 2.3 yn eich Cofnod Myfyrio. Pan fyddwch wedi cwblhau eich gweithgaredd, gwnewch yn siŵr eich bod yn arbed y ddogfen eto.
Os ydych yn gweithio mewn grŵp, naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb, efallai y byddwch am rannu hyn.
OpenLearn - Beth amdana i? - Cwrs datblygu personol i ofalwyr yng Nghymru
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.
