Edrych yn ôl, edrych ymlaen

Yn Sesiwn 1 gwnaethoch ddechrau edrych ar eich rolau, sgiliau a rhinweddau eich hun. Y pwynt allweddol yma oedd, drwy fyfyrio ar ein profiadau, ein bod yn dysgu rhywbeth sy'n ein helpu i symud ymlaen.

Mae Sesiwn 2 wedi dangos sut mae tynnu llinell amser o fudd wrth olrhain beth ddigwyddodd a phryd, a sut rydym yn teimlo am y profiadau hyn; beth rydym wedi'i ddysgu ohonynt a sut maent wedi helpu i'n llunio fel unigolion.

Rydych wedi bod yn edrych yn ôl ar eich profiadau mewn bywyd, neu gyfnod o'ch bywyd. Dangosodd llinellau amser Claire a Christine fod profiadau da a drwg a bod ffactorau eraill wedi dylanwadu ar eu llinellau amser.

Gweithgaredd 2.4 Dylanwadau a dewisiadau

Dylech dreulio tua 15 munud ar y gweithgaredd hwn.

Yn y sesiwn nesaf byddwch yn edrych ymlaen ac yn ystyried y ffactorau sy'n dylanwadu ar y dewisiadau rydych yn eu gwneud am eich dyfodol. I ddechrau arni, edrychwch ar Ffigur 2.7. Mae'r diagram gwe pry cop hwn yn ffordd graffig o ddangos cysylltiadau.

Ffigur 2.5 Diagram gwe pry cop o brif ffactorau posibl bywyd Claire

Gan feddwl am yr amrywiaeth o ffactorau yn eich bywyd sy'n dylanwadu ar eich dewisiadau am y dyfodol, ceisiwch dynnu diagram gwe pry cop i chi'ch hun ar daflen Gweithgaredd 2.4 a ddarparwyd [link to asset 60]

NEU

Ewch i Weithgaredd 2.4 o'ch Cofnod Myfyrio. Pan fyddwch wedi cwblhau'r gweithgaredd, gwnewch yn siŵr eich bod yn arbed y ddogfen eto.