Sgiliau a rhinweddau

Suzanne

Gwrandewch ar Suzanne yn siarad am y sgiliau a'r rhinweddau y mae wedi'u datblygu drwy ei rôl fel gofalwr.

Ffigur 3.2

Felly sgiliau a rhinweddau Suzanne yw:

  • ymchwilio
  • casglu gwybodaeth
  • cefnogi
  • peidio â bod ofn anghytuno.

Gweithgaredd 3.1 Meddwl am fy sgiliau a rhinweddau i

Dylech dreulio tua 15 munud ar y gweithgaredd hwn.

Beth yw eich barn ar restr o sgiliau a rhinweddau Claire a Suzanne?

A ydych wedi meddwl am y rhinweddau personol sydd gennych chi a sut y gallech eu defnyddio? Pa sgiliau a rhinweddau ydych chi wedi'u datblygu drwy eich profiadau gofalu? Pa sgiliau eraill sydd gennych, er enghraifft o'ch addysg neu yrfa?

Dewiswch ddigwyddiad neu bwynt ar eich llinell amser pan fu'n rhaid i chi weithredu er mwyn datrys rhywbeth. Gallai ymwneud â theulu, gwaith neu faterion ymarferol fel y cartref ac arian.

Edrychwch ar dabl James lle mae'n disgrifio penderfyniad anodd a wnaeth, y sgiliau a ddefnyddiodd a'r rhinweddau a ddangosodd.

Tabl 3.1

Y digwyddiad yn fy mywyd
Gwrthod swydd y gweithiais yn galed amdani oherwydd cyfrifoldebau gofalu
Yr hyn a wnes
Cael cyfweliad a chysgodi fy mos a oedd yn ymddeol am chwe wythnos ac yna wrthod y rôl - anodd iawn
Pa sgiliau a ddefnyddiwyd gennyf
Bod yn agored, eglurder, rhesymeg, cyfathrebu
Pa rinweddau a ddangosais

Cadw fy emosiynau dan reolaeth

Aros yn benderfynol

Nawr gwnewch restr o'r hyn wnaethoch chi ac yna meddyliwch am y sgiliau a ddefnyddioch a'r rhinweddau sydd gennych, a allai fod wedi eich helpu. Ysgrifennwch eich nodiadau ar daflen Gweithgaredd 3.1

NEU

Ewch i Weithgaredd 3.1 o'ch Cofnod Myfyrio. Pan fyddwch wedi cwblhau'r gweithgaredd, gwnewch yn siŵr eich bod yn arbed y ddogfen eto.

Os ydych yn gweithio fel grŵp, efallai y byddwch am drafod gyda'ch gilydd. Neu efallai y byddwch am drafod â ffrind.

Myfyrio

Meddyliwch am y cwestiynau canlynol a gwnewch rai nodiadau yn eich Cofnod Myfyrio neu lyfr nodiadau:

  • A oeddech yn defnyddio rhai o'r un sgiliau â Claire, Suzanne neu James?
  • A wnaethoch ddarganfod unrhyw sgiliau eraill, nad oeddech efallai yn ymwybodol ohonynt?
  • A ydych nawr yn ymwybodol o rinweddau sydd gennych ond nad oeddech wedi'u hystyried o'r blaen?