Gweithgaredd olaf

Eich gweithgaredd olaf yw crynhoi'r hyn rydych wedi'i ddysgu o'r cwrs hwn.

Gweithgaredd 5.4 Beth rwyf wedi'i ddysgu?

Dylech dreulio tua 10 munud ar y gweithgaredd hwn.
Ffigur 5.5

Dyma'r deilliannau dysgu a restrwyd gennym yn y cyflwyniad i'r cwrs hwn:

  • gwell dealltwriaeth o'ch profiadau fel gofalwr a hefyd yn eich rolau ehangach
  • dealltwriaeth o'r sgiliau amrywiol rydych wedi'u datblygu fel gofalwr ac yn eich rolau ehangach a sut y gellir eu trosglwyddo i sefyllfaoedd eraill
  • gwerthfawrogiad o rinweddau personol a ddatblygwyd drwy eich rôl ofalu
  • cyfle i feddwl am eich nodau a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol
  • syniad o sut y gallech weithio tuag at y nodau hynny a ble y gallech gael help a chefnogaeth
  • y gallu i ddefnyddio technoleg gwybodaeth (TG) er mwyn cyflawni gweithgareddau myfyriol o ran ysgrifennu a chyfathrebu
  • y gallu i ddefnyddio'r we er mwyn dod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol
  • y gallu i archwilio a defnyddio ffyrdd newydd o fynegi syniadau.

Nodwch y deilliannau dysgu rydych yn meddwl eich bod wedi'u cyflawni, naill ai'n llawn neu'n rhannol. Hefyd nodwch unrhyw beth arall a gyflawnwyd gennych yn eich barn chi nad oedd ynddynt, fel gwneud ffrindiau newydd, dysgu bod pawb yn wynebu anawsterau o ryw fath ac ati.

Gallwch ddefnyddio taflen Gweithgaredd 5.4 i gwblhau'r gweithgaredd hwn

NEU

Ewch i Weithgaredd 5.4 yn eich Cofnod Myfyrio Pan fyddwch wedi cwblhau'r gweithgaredd, gwnewch yn siŵr eich bod yn arbed y ddogfen eto.

Gobeithio eich bod wedi mwynhau astudio'r cwrs. Gobeithio eich bod wedi dysgu rhywfaint amdanoch eich hun: faint y gallwch ei wneud a beth yr hoffech ei wneud yn y dyfodol. Mae gan bawb gryfderau, rhinweddau a galluoedd ac weithiau mae angen help arnom i'w hadnabod a'u defnyddio. Gobeithio y byddwch yn mynd ymlaen i gyflawni pethau gwych gyda'ch doniau!

Os nad ydych wedi gwneud yn barod, efallai y byddwch am edrych ar yr adran Rhagor o wybodaeth ar ddiwedd y cwrs. Mae'n cynnwys dolenni gwybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer adnoddau a chymorth pellach gan gynnwys gwasanaethau cymorth i ofalwyr, gyrfaoedd, addysg a hyfforddiant.