Sefydliadau cymorth i ofalwyr

Name of organisation Information Contact details
Ymddiriedolaeth y Gofalwyr ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru Cymorth ar-lein 24 awr y dydd; ble i ddod o hyd i'ch gwasanaethau gofalwyr lleol; help a chyngor penodol gan gynnwys hawl i fudd-daliadau, asesu anghenion gofalwyr a llawer mwy. www.carers.org
Canolfannau a gwasanaethau gofalwyr lleol

Mae canolfannau gofalwyr yn elusennau annibynnol sy'n darparu ystod eang o wasanaethau cymorth lleol sy'n diwallu anghenion gofalwyr yn eu cymunedau eu hunain. Mae pob canolfan gofalwyr yn darparu'r gwasanaethau craidd canlynol, naill ai dros y ffôn neu mewn cyngorfeydd galw heibio neu allgymorth:

  • cymorth emosiynol
  • gwybodaeth a chyngor;
  • llais gofalwyr.

I ddod o hyd i'ch canolfan gofalwyr leol ewch i:

www.carers.org

Cynlluniau Gofal Croesffyrdd Mae cynlluniau Gofal Croesffyrdd yn rhwydwaith o elusennau annibynnol lleol sy'n darparu gwasanaethau seibiant yn y cartref gan alluogi gofalwyr i gymryd seibiant. Gellir eu darparu naill ai fel rhan o becyn gofal wedi'i ariannu gan yr awdurdod lleol neu telir amdanynt yn breifat.

I ddod o hyd i'ch cynllun Gofal Croesffyrdd agosaf ewch i:

www.carers.org

 

Beth mae eich Bwrdd Iechyd Lleol a'ch Awdurdod Lleol yn ei gynnig i ofalwyr

Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru O dan Fesur Strategaeth Gofalwyr (Cymru) 2010 mae'n ofynnol i bob Bwrdd Iechyd gyhoeddi a gweithredu Strategaeth Ymgynghori a Gwybodaeth Gofalwyr leol sy'n hysbysu gofalwyr am y wybodaeth a'r cymorth y mae ganddynt hawl i'w cael er mwyn eu helpu i gyflawni eu rôl ofalu.

Er mwyn gweld beth mae eich Bwrdd Iechyd Lleol yn ei wneud, ewch i wefan 'GIG Cymru' a theipiwch 'gofalwyr' neu 'carers' yn y bar chwilio:

www.wales.nhs.uk/

 
Cymorth a ddarperir gan eich Awdurdod Lleol Hefyd, bydd gan eich Awdurdod Lleol fanylion am gymorth i ofalwyr a'r hyn a ddarperir ganddynt.

Rhestrir pob un yn y ddolen isod. Cliciwch ar eich rhanbarth a theipiwch 'gofalwyr' neu 'carers' yn y peiriant chwilio.

http://gov.wales/topics/localgovernment/unitary-authorities/?skip=1&lang=cy

Canolfannau Cyngor ar Bopeth Cyngor am ddim ar ystod eang o faterion - yn agored i bawb yng Nghymru a ledled y DU.

https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/