Cyfleoedd addysg a hyfforddiant

Mae llawer o gyfleoedd ar gael i ddatblygu eich dysgu, naill ai'n anffurfiol gydag adnoddau ar-lein am ddim, fel y cwrs hwn neu drwy gyrsiau lleol a sesiynau rhagflas a all gael eu rhedeg drwy eich canolfan gofalwyr leol neu ddarparwr addysg i oedolion. Mae colegau lleol hefyd yn cynnig rhaglen o ddosbarthiadau addysg i oedolion.

OpenLearn (Y Brifysgol Agored) Gwefan â 10,000 awr o gynnwys dysgu am ddim sy'n cynnwys clipiau fideo a sain a chyrsiau byr. www.open.edu/openlearn
OpenLearn Cymru (Y Brifysgol Agored yng Nghymru) Gwefan ddwyieithog sy'n cynnwys cyrsiau am ddim yn Gymraeg ac yn Saesneg gan gynnwys y cwrs Beth amdana i?. www.open.edu/openlearncymru
FutureLearn Gwefan ag amrywiaeth o gyrsiau a gynigir am ddim gan wahanol brifysgolion. www.futurelearn.com
BBC Skillswise Gwefan am ddim sydd â chyrsiau a gweithgareddau i wella eich sgiliau ysgrifennu, mathemateg a TG. www.bbc.co.uk/skillswise
Cymdeithas Addysg y Gweithwyr Cymru Darparwr mwyaf dysgu oedolion yn y gymuned yng Nghymru. Yn darparu cyrsiau mewn lleoliadau cymunedol lleol. www.weacymru.org.uk
Colegau addysg bellach lleol Mae llawer o golegau addysg bellach lleol yn cynnig cyrsiau dysgu yn y gymuned.

Mae'r wefan hon yn rhestru'r holl golegau yng Nghymru a thrwyddi gallwch fynd i'w gwefannau. Mae'r colegau yn y Gogledd a'r Canolbarth yn cwmpasu ardaloedd mawr ac mae ganddynt lawer o ganolfannau lleol

www.collegeswales.ac.uk/wales_colleges-42.aspx

Learn Direct Wales / Cymru Amrywiaeth o gyrsiau ar-lein y mae rhai ohonynt am ddim http://www.learndirect.co.uk/wales-cym/

 

Gwybodaeth gyffredinol am astudiaethau prifysgol ac addysg uwch

UCAS

Gwybodaeth gyffredinol am astudiaethau prifysgol ac addysg uwch.

Er bod hon yn wefan ddefnyddiol mae'n ymdrin ag astudiaethau addysg uwch llawn-amser. Os hoffech astudio'n rhan-amser mewn prifysgol, dylech gysylltu â'r brifysgol benodol yn uniongyrchol.

www.ucas.com

 

Astudio'n ffurfiol gyda'r Brifysgol Agored

Gallwch astudio ar lefel israddedig ac ôl-raddedig gyda'r Brifysgol Agored. Hefyd, cynigiwn gyrsiau Mynediad i ddysgwyr sydd am feithrin eu hyder a'u sgiliau cyn iddynt ddechrau dilyn cwrs israddedig.

Mae astudiaethau'r Brifysgol Agored yn rhan-amser ac yn hyblyg felly gallant weddu i'ch rôl gofalu a'ch cyfrifoldebau eraill. Gall myfyrwyr hefyd gymryd saib rhwng modiwlau ac ennill cymhwyster ar eu cyflymdra eu hunain.

Y Brifysgol Agored Dyma brif wefan Y Brifysgol Agored. Edrychwch ar ein cyrsiau a'n cymwysterau, cyllid a chymorth ariannol a sut brofiad yw astudio gyda'r Brifysgol Agored.

www.open.ac.uk/study

Cyswllt: 029 2047 1170

E-bost: Wales@open.ac.uk

Gwasanaeth Cyngor Gyrfaoedd Y Brifysgol Agored Mae hon yn wefan ddefnyddiol o ran gyrfaoedd posibl sy'n gysylltiedig â chyrsiau a chymwysterau'r Brifysgol Agored. www.open.ac.uk/careers

 

Gwybodaeth gyrfaoedd

Gyrfa Cymru Gwefan gynhwysfawr ar yrfaoedd i bobl sy'n byw yng Nghymru. Mae'n addas i bob oedran a gallu ac mae'n cynnwys gwybodaeth am swyddi, cyrsiau, prentisiaethau. Mae'n safle rhyngweithiol dwyieithog sy'n cynnwys gwybodaeth benodol sy'n berthnasol i yrfaoedd a chyfleoedd yng Nghymru. http://www.careerswales.com/cy/
Directgov: Gwasanaeth gyrfaoedd cenedlaethol

Gwefan ar gyfer y DU gyfan sy'n cynnig gwybodaeth a chymorth gyda gyrfaoedd. Mae'n cynnig:

  • help i ddewis neu newid gyrfa
  • profion sgiliau, chwilio am gyrsiau, cyngor chwilio am swydd
  • cymorth personol gan gynghorwyr gyrfaoedd.
https://nationalcareersservice.direct.gov.uk/Pages/Home.aspx
Directgov: addysg a dysgu

Tudalennau gwe helaeth sy'n cwmpasu:

  • gwybodaeth am brentisiaethau a hyfforddi ar gyfer gwaith
  • derbyniadau ysgolion a chludiant
  • ysgolion a'r cwricwlwm
  • cyllid myfyrwyr
  • prifysgol ac addysg uwch.
Directgov: addysg a dysgu

 

Cyfleoedd gwirfoddoli

Gwirfoddoli Cymru Y brif wefan sy'n rhestru cyfleoedd gwirfoddol ledled Cymru. www.volunteering-wales.net