Fy Nghofnod Myfyrio
Gallwch gwblhau'r gweithgareddau mewn ambell i ffordd:
- Wrth i chi weithio drwy Beth amdana i? Cliciwch ar y taflenni a ddarparwyd gennym. Gellir eu llawrlwytho.
- Neu
- Defnyddiwch Fy Nghofnod Myfyrio, adnodd personol sy'n cofnodi eich hynt ar y cwrs wrth i chi gyflawni'r gweithgareddau a'r tasgau amrywiol. Gallwch ychwanegu nodiadau a sylwadau pellach ato ar unrhyw bryd. Ar ôl i chi gwblhau'r cwrs, gobeithio y bydd y Cofnod hwn yn ffynhonnell gyfeirio bwysig ac yn sail i'ch camau nesaf mewn bywyd neu wrth astudio neu weithio.
Cynlluniwyd Fy Nghofnod Myfyrio i'w lawrlwytho a'i arbed i'ch cyfrifiadur neu gofbin. Efallai y byddai'n ddefnyddiol gwneud hynny nawr. Yna, gellir ei agor ac ychwanegu ato fel sydd angen - ond cofiwch ei arbed bob tro rydych yn ei ddefnyddio. Os yw'n well gennych, gallwch argraffu'r Cofnod a'i ddefnyddio i nodi eich meddyliau.
Sut bynnag rydych yn ei ddefnyddio, bydd yn ddefnyddiol gwneud nodiadau naill ai yn eich Cofnod neu mewn llyfr nodiadau wrth i chi weithio drwy'r cwrs.
OpenLearn - Beth amdana i? - Cwrs datblygu personol i ofalwyr yng Nghymru
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.
