Crynodeb
Nod Sesiwn 1 oedd eich helpu i ddechrau meddwl amdanoch chi'ch hun ac fe'i cynlluniwyd i'ch helpu i ddeall sut rydych yn teimlo am eich sefyllfa bresennol.
Mae'n siŵr y gwnaethoch ddarganfod eich bod yn gwneud llawer o bethau gan ddefnyddio amrywiaeth o sgiliau a galluoedd - efallai eich bod wedi darganfod rhai ohonynt drwy ofalu ac efallai fod gennych rai eraill cyn dechrau gofalu. Efallai na wnaethoch sylweddoli pa mor fedrus ydych mewn gwirionedd, na pha rinweddau sydd gennych? Un o nodau myfyrio yw eich helpu i gydnabod eich sgiliau a'ch doniau eich hun.
Rydych bellach wedi cwblhau Sesiwn 1. Yn Sesiwn 2 byddwch yn ystyried sut mae'r sgiliau, y galluoedd a'r rhinweddau hyn wedi datblygu dros amser.
OpenLearn - Beth amdana i? - Cwrs datblygu personol i ofalwyr yng Nghymru
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.
