Transcript

James
Un o'r pethau wnes i pan adawais i waith llawn amser - fe wnes i feddwl, wel, fe wnes i radd nôl pan oeddwn i...dwi ddim yn gwybod, tua 25 mlynedd yn ôl pan raddiais gyntaf nôl ar ddiwedd y 80au neu ddechrau'r 90au, ac roeddwn i wastad wedi bod eisiau gwneud gradd meistr, felly drwy fynd yn rhan amser fe ges i gyfle i gofrestru ar gwrs lleol. Felly, dwi'n agosáu nawr at ddiwedd blwyddyn gyntaf fy MSc mewn Seicoleg ac mae wedi bod o gymorth mawr i mi. Mae wedi bod yn rhywbeth newydd, rhywbeth na fyddwn i wedi gallu ei wneud pe bawn i wedi bod yn gweithio'n llawn amser, rhywbeth dwi wir wedi ei fwynhau ac mae wedi helpu i dynnu fy meddwl oddi ar y sefyllfa - mae wedi gwneud i mi feddwl am bethau eraill. Ond mae'n od bod yn fyfyriwr eto ac i fod nôl mewn byd o draethodau ac arholiadau ond mewn ffordd ryfedd...mae'n gysur ac yn eithaf lleddfol. Yn rhyfedd ddigon, dwi'n teimlo bod addysg yn rhywbeth sy'n tawelu'r meddwl yn hytrach na rhywbeth a oedd efallai y tro cyntaf yn peri pryder i mi ac yn rhywbeth roeddwn am lwyddo ynddo. Bryd hynny, y peth pwysig oedd cael swydd a gyrfa. Y tro hwn, mae'n teimlo fel pe bawn i'n gwneud y peth am fy mod i'n ei fwynhau ac yn gwneud rhywbeth sydd o fudd i mi fy hun.