Transcript
Suzanne
Fy enw i yw Suzanne a dwi'n helpu i ofalu am fy mrawd sy'n saith mlynedd yn iau na fi ac sydd â sgitsoffrenia. Rydym ni...mae ein teulu wedi gwybod bod gan Steven broblemau iechyd meddwl ers tua 15 mlynedd, ac mae wedi byw gydag aelodau gwahanol o'r teulu, ond datblygodd ei sgitsoffrenia a chafodd ddiagnosis yn 2010. Ar yr adeg honno, llwyddais i fynd i America lle'r oedd wedi'i garcharu a lle'r oedd bellach yn ddigartref er mwyn mynd i'w ôl a gofalu amdano heb yn wybod i'm rhieni oherwydd bu tipyn o anghydweld pan gafodd ei garcharu.
Dwi'n credu mai un o'r pethau cadarnhaol ynghylch gofalu yw bod pobl yn datblygu'n gryfach o lawer nag arfer. Mae'n debyg y gall weithio'r ffordd arall ond mae gan ein teulu ni yn sicr gydberthnasau teuluol cryf iawn. Mae fy chwaer a minnau, a'm mam a minnau, wedi dod yn agosach oherwydd hyn. O ran fy nhad a minnau, rydym wastad wedi bod yn agos iawn. Mae 3000 o filltiroedd o bellter rhwng y ddau gartref, ond rydym yn siarad bob dydd ac nid dim ond am Steve; mae llawer ohono'n ymwneud â'r ffordd rwy'n cefnogi Dad, neu'r hyn sy'n digwydd yn fy mywyd, felly mae hynny wedi bod yn rhywbeth gwirioneddol gadarnhaol oherwydd pe na bawn wedi bod yn canolbwyntio ar ddatblygiad Steve a'r ffaith ein bod am iddo gael y mwyaf allan o fywyd, efallai na fyddai gennym gydberthynas mor agos; rydym wedi bod drwy lawer gyda'n gilydd.
Wrth dreulio amser gydag ef, roeddwn i'n gweld bod personoliaeth fy mrawd wedi newid cymaint; roeddwn i'n gwybod bod angen iddo gael ei drin yn wahanol. Dyna oedd y rhan anoddaf oherwydd roeddwn i'n teimlo'n eithaf unig. Oeddwn...
Drwy fod yn ofalwr, dwi wedi datblygu teimlad da iawn ynghylch fy ngreddfau mewnol fy hun: Dwi'n ymchwilydd da...bu'n rhaid i mi wneud llawer o waith ymchwil; dwi'n gallu ymchwilio i driniaethau ac opsiynau gofal gwahanol a chymryd camau dilynol, casglu gwybodaeth a'i rhannu â phobl eraill mewn ffordd ddealladwy. A does dim ofn arna' i ddweud "wel, a dweud y gwir, dwi ddim yn cytuno â chi", hyd yn oed os dwi'n siarad ag arbenigwyr: "ydych chi wedi edrych ar hwn? ydych chi wedi edrych ar y llall? pam?" Yn enwedig o ran meddyginiaeth Steven, oherwydd fe gymerodd gryn amser i ni ddod o hyd i feddyginiaeth nad oedd yn cael cymaint o sgil-effeithiau fel na allai weithredu, felly roedd hynny'n anodd iawn.
Roedd y cymorth ges i yn NEWCIS yn wych. Roeddwn i'n gwybod, pan ddechreuais i ofalu am fy mrawd yn llawn amser fel gofalwr, fy mod yn gallu dal fy llaw i fyny a dweud fy mod am gysylltu â'r elusen leol i ofalwyr i weld pa gymorth y gallwn ei gael. Roedden nhw'n wych. Roeddwn yn gallu cael gwasanaeth cwnsela am ddim. Roeddwn yn gallu manteisio ar yr hyfforddiant yma ac roedd hynny'n fuddiol iawn, yn enwedig o ran rheoli straen. Ac roedd y ffrindiau dwi wedi'u hadnabod ers pan oedd fy mhlant yn ifanc iawn yn ffantastig. Roedden nhw wedi cwrdd â'm brawd o'r blaen, pan roedd e'n holliach, ond roedden nhw wir am fod yng nghwmni fy mrawd - roedden nhw'n dod draw i'r tŷ, yn mynd i'r theatr, beth bynnag. Os oedd e'n ymddwyn mewn ffordd anarferol, doedden nhw ddim yn cynhyrfu. Ac roedd e'n wych gallu chwerthin gyda nhw! Roedd fy mhlant hefyd yn gefnogol iawn i'w hewythr. Roedd pob un o'r plant yn y brifysgol ar y pryd ac, unwaith eto, roedden nhw wedi adnabod eu hewythr pan oedd e'n holliach. Roedd personoliaeth Steven yn hollol wahanol pan wnaethon nhw gwrdd ag ef ar ôl iddo ddod draw fan hyn i fyw, ac fe wnaethon nhw ymgysylltu ag ef. Fe wnaethon nhw hefyd siarad â mi am y ffordd roeddwn i'n teimlo, ac roedden nhw wir yn empatheiddio.
Dwi wir yn credu yn y gwaith y mae NEWCIS yn ei wneud i ddatblygu talentau gofalwyr a sicrhau nad yw eu bywyd i gyd yn ymwneud â'u rôl gofalu pan maent yn ymgymryd â'r rôl honno - mae angen gollyngfa ar bawb. Galla' i siarad â'm ffrindiau am y cynnydd y mae fy mrawd yn ei wneud o hyd; fe aethon nhw drwy hynny gyda mi mewn ffordd.
Dwi'n awdur ac yn weithiwr cymunedol, ac mae gen i radd mewn Saesneg - fe wnes i ran ohoni yn yr Unol Daleithiau a rhan ohoni yma. Ac yna fe wnes i hefyd radd mewn Gwyddoniaeth a Rheoli Cefn Gwlad ac roeddwn i'n geidwad am dipyn yn y mynyddoedd gerllaw. Dwi hefyd yn awdur creadigol ac, yn y gorffennol, tua saith mlynedd ers i'r bechgyn adael cartref - mae mwy a mwy o'm gwaith wedi'i gyhoeddi a dwi'n credu mai dyma'r hyn y bydda' i'n ei wneud yn y dyfodol.