Transcript
James
Fe ddechreuais i yn fy rôl ofalu go iawn pan roeddwn i'n 40 oed ac fe fydda' i'n 46 oed ym mis Gorffennaf. Cafodd fy mam wybod bod ganddi Alzheimer pan oedd hi tua 75 oed. Mae'n 80 oed nawr. Mae wedi mynd i gartref gofal preswyl yn ddiweddar gan fod y clefyd a'r salwch wedi datblygu i'r pwynt lle roedd angen iddi fod mewn amgylchedd mwy diogel nag amgylchedd byw'n annibynnol.
Gwnaeth y sefyllfa droi fy mywyd wyneb i waered. Fe es i o fod â gyrfa brysur iawn, yn gweithio'n galed yn fy ugeiniau a'm tridegau, ar ôl bod yn y coleg a dilyn y llwybr arferol, i'r sefyllfa hon lle roedd y salwch ofnadwy hwn wedi cyrraedd ac roedd angen i ni fod yno iddi. Roedd hi'n byw tua 35 milltir i ffwrdd oddi wrtha' i i ddechrau, a byddwn i'n mynd draw bob penwythnos. Fe wnes i hynny am tua 20 mis, gan fynd â bwyd gyda mi. Un o ganlyniadau ei salwch oedd ei bod wedi rhoi'r gorau i fwyta, felly roedd hi'n bwysig iawn ar lefel ymarferol bod bwyd yn mynd i'r tŷ a'i bod yn cael ei hannog i fwyta. Wrth gwrs, beth ddigwyddodd wedyn oedd...byddwn i'n mynd i ffwrdd ac ni fyddai'n bwyta yn ystod yr wythnos. Felly, beth bynnag, ar ôl tua 20 mis, gwnaethon ni benderfynu ei symud hi'n agos iawn ata' i felly fe symudodd hi i mewn i fyngalo tua 500 llath i fyny'r ffordd. Fe fues i'n gweithio wedyn yn llawn amser am tua dwy flynedd, ond doedd hynny, hyd yn oed, ddim yn ddigon, roedd angen i mi dreulio mwy o amser gyda hi nag yr oedd swydd lawn amser yn caniatáu i mi ei wneud. Felly, flwyddyn i fis Mawrth diwethaf, fe wnes i gymryd diswyddiad gwirfoddol ar ôl 15 mlynedd mewn un sefydliad roeddwn wedi bod yn gweithio iddo er mwyn rhoi mwy o amser i mi ac fe fues i'n lwcus iawn; fe ges i swydd ran amser yn NEWCIS yn fuan wedyn a rhoddodd hynny fwy o amser i mi fynd â hi i apwyntiadau ysbyty, apwyntiadau meddyg a gwneud pethau ymarferol bob dydd tra'n ceisio byw fy mywyd fy hun hefyd - fy nghydberthnasau fy hun, fy nghartref fy hun ac ati. Ond roedd hi'n anodd, hyd yn oed wedyn roedd hi'n eithaf anodd, oherwydd gydag unrhyw salwch cronig sy'n derfynol ac sydd ond yn mynd un ffordd, mae'n anochel y bydd yn mynd yn waeth, mae'n mynd yn anoddach, felly aeth pethau'n fwy anodd yn hytrach na'n haws.