Dysgu o brofiad

Rydym i gyd yn cael profiadau cyfnewidiol mewn bywyd - pethau da a drwg. Beth bynnag fo'n profiad, rydym yn dysgu wrth fynd yn ein blaenau. Nid ydym yn rhoi'r gorau i ddysgu pan drown yn oedolyn. Mae dysgu yn beth gydol oes. Mae peth o'r dysgu amdanom ni'n hunain: y math o berson ydym a'n cryfderau a'n rhinweddau. Mae a wnelo mathau eraill o ddysgu â sgiliau, cymwysterau, deall syniadau a chysyniadau, neu'r gymdeithas rydym yn byw ynddi.

Nawr, hoffem i chi roi'r gorau i ystyried beth ddigwyddodd, pryd a meddwl am yr hyn rydych wedi'i ddysgu o'r gwahanol rolau a phrofiadau hyn, a sut rydych wedi datblygu fel unigolyn dros amser.

Gwyliwch James, gofalwr a gweithiwr cymorth sy'n gweithio gyda gofalwyr, yn siarad am werth myfyrio.

Nawr, meddyliwch am Claire eto. Mae wedi cael cryn dipyn o brofiadau cyfnewidiol. Beth a ddysgodd o'r profiadau hyn?

Enghraifft 1: Dysgu o Brofiad Claire

Edrychwch ar beth mae Claire yn dweud iddi ei ddysgu o'i phrofiad:

  • Wedi ei chael hi'n anodd nodi amseroedd penodol ar gyfer rhai pwyntiau.
  • Do, fe wnes i ddwyn teimladau ac atgofion i gof.
  • Rwyf wedi dysgu, ni waeth pa mor negyddol yw sefyllfa, gallwch ddysgu ohono.
  • Rhywbeth cadarnhaol ym mhopeth negyddol.
  • Ar ôl colli mam, peidio â phoeni am fân bethau, croesawu pawb a phopeth - mae bywyd yn rhy fyr.
  • Rwy'n gryfach nag oeddwn i'n ei feddwl gan fy mod wedi profi a chyflawni cymaint.
  • Rwy'n mynd i'r cyfeiriad cywir nawr, hyd yn oed os nad oeddwn i gynt.

Mae Claire yn myfyrio ar y ffaith, er iddi wynebu cyfnodau anodd, ei bod wedi sylweddoli ei bod yn gryfach nag a feddyliodd a, pha mor negyddol bynnag y mae sefyllfa, rydych yn dysgu ohoni.

Dyma rai ymadroddion allweddol o sylwadau Claire:

  • cryfach, dysgu, anodd, cyflawni, cyfeiriad cywir

Drwy fyfyrio ar ei phrofiad blaenorol, mae Claire wedi dysgu ei bod yn unigolyn cryf a all ddysgu hyd yn oed o sefyllfaoedd negyddol ac anodd, a'i bod o'r farn ei bod yn symud i'r cyfeiriad cywir.

Myfyrio

Cymerwch funud i feddwl am y cwestiynau canlynol:

  • A oedd unrhyw beth a ddysgodd Claire yn annisgwyl?
  • A wnaeth Claire ddysgu o brofiadau gwael yn ogystal â rhai da?