Crynodeb
Nod y sesiwn hon oedd eich annog i feddwl am eich bywyd a phopeth rydych wedi'i ddysgu o'ch profiad hyd yma. Drwy feddwl am eich gorffennol, rydych yn darganfod sut mae eich profiadau, boed yn dda neu'n ddrwg, wedi eich helpu i dyfu a faint rydych wedi'i ddysgu ohonynt. A fu'r gweithgareddau hyn yn ddefnyddiol? A wnaethoch ddysgu unrhyw beth newydd o hyn nad oeddech wedi sylwi arno o'r blaen?
Rydych bellach wedi cwblhau Sesiwn 2; byddwch yn ystyried y syniadau hyn ymhellach yn Sesiwn 3.
Os hoffech gael rhagor o ganllawiau ar unrhyw faterion a godwyd yn sgil y gweithgareddau hyn, efallai y bydd rhai cysylltiadau defnyddiol yn yr adran Rhagor o wybodaeth ar ddiwedd y cwrs neu ewch i Carers.org i ddod o hyd i'ch gwasanaeth cymorth lleol agosaf neu i siarad â rhywun ar-lein.
...
OpenLearn - Beth amdana i? - Cwrs datblygu personol i ofalwyr yng Nghymru
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.
