Eich cymorth a'r camau nesaf

  • A oeddech yn defnyddio rhai o'r un sgiliau â Claire, Suzanne neu Alana?
  • A wnaethoch ddarganfod unrhyw sgiliau eraill, nad oeddech efallai yn ymwybodol ohonynt?
  • A ydych nawr yn ymwybodol o rinweddau sydd gennych ond nad oeddech wedi'u hystyried o'r blaen?
  • A yw eich rhwydwaith cymorth yn debyg i rai Claire, Alana a Suzanne o gwbl?

Soniwyd am deulu a ffrindiau ond hefyd sefydliadau a allai eu helpu. Yn y gweithgaredd nesaf byddwch yn meddwl am y bobl a'r sefydliadau a allai eich helpu i gyflawni eich nodau yn eich barn chi.

Gweithgaredd 5.1 Fy rhwydweithiau cymorth

Dylech dreulio tua 15 munud ar y gweithgaredd hwn.

Meddyliwch am y bobl sydd wedi eich helpu neu a allai eich helpu yn y dyfodol gydag unrhyw gynlluniau sydd gennych.

Nawr gwnewch ddiagram gwe pry cop fel yr un ar gyfer Claire a Suzanne ar daflen Gweithgaredd 5.1 a ddarparwyd.

NEU

Ewch i Weithgaredd 5.1 o'ch Cofnod Myfyrio. Pan fyddwch wedi cwblhau'r gweithgaredd, gwnewch yn siŵr eich bod yn arbed y ddogfen eto.

Rydych bron wedi cyrraedd diwedd y cwrs hwn. Mae a wnelo Gweithgaredd 5.2 â chynllunio'r cam nesaf tuag at eich nodau - mae angen i chi feddwl yn ofalus am ble rydych yn ceisio ei gyrraedd.

Mae llawer o wybodaeth a chyngor ar gael os hoffech gael rhagor o arweiniad neu gymorth. Gallwch ymweld ag Ymddiriedolaeth y Gofalwyr, Gwasanaeth Cyngor Gyrfaoedd Y Brifysgol Agored,

Gallwch hefyd ddefnyddio'r adran Rhagor o wybodaeth ar ddiwedd y cwrs am ddolenni gwybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer rhagor o adnoddau a chymorth.

Gweithgaredd 5.2 Fy nod hirdymor a 'cham nesaf' cyntaf

Dylech dreulio tua 15 munud ar y gweithgaredd hwn.

Gan ddechrau gyda nawr a'ch sefyllfa bresennol, meddyliwch yn ofalus iawn am yr hyn y mae angen i chi ei wneud er mwyn cyflawni eich nod. Ystyriwch y gweithgareddau rydych wedi'u gwneud a'r hyn rydych wedi'i ddysgu ohonynt:

  • eich profiadau blaenorol (Gweithgaredd 2.3)
  • y sgiliau, y rhinweddau a'r galluoedd sydd gennych (Gweithgaredd 3.2)
  • unrhyw beth a wnaiff eich helpu, yn ogystal ag unrhyw anawsterau y gallai fod angen i chi eu goresgyn (Gweithgareddau 4.3 a 4.4)
  • unrhyw bobl a fydd yno i'ch helpu (Gweithgaredd 5.1).

Rydym wedi clywed gan Suzanne drwy gydol y cwrs - a dyma'r nodau hirdymor a'r camau nesaf cyntaf a nododd.

Tabl 5.1

Fy nod hirdymor
  • Byw rhwng Cymru ac UDA
  • Helpu dad gyda gofalu
  • Gwaith â thâl gydag ysgrifennu
Beth rwy'n mynd i'w wneud?
  • Treulio amser gyda Dad yr haf hwn ac ymchwilio i opsiynau yn UDA
O ble y caf help a chyngor?
  • Fy nhad
  • Asiantau tai
  • Swyddfa dreth ac ati
Pryd y gwnaf hyn?
  • Yr haf hwn

Defnyddiwch daflen Gweithgaredd 5.2 i fyfyrio ar eich nod hirdymor a'r camau y byddwch yn eu cymryd i'w gyflawni. Defnyddiwch y wybodaeth hon i ysgrifennu brawddeg sy'n dechrau: 'Y cam cyntaf rwyf am ei gymryd ...'

NEU

Ewch i Weithgaredd 5.2 yn eich Cofnod Myfyrio. Pan fyddwch wedi cwblhau'r gweithgaredd, gwnewch yn siŵr eich bod yn arbed y ddogfen eto.