Profiadau dros amser

Yn yr adran hon gofynnir i chi dynnu llinell amser er mwyn olrhain eich profiad mewn bywyd. Chi fydd yn dewis y cyfnod dan sylw - gall gynnwys eich bywyd cyfan ers plentyndod, neu efallai y byddwch am ganolbwyntio ar brofiad gwaith neu astudio diweddar, neu ar rolau penodol a allai fod gennych (fel gofalwr, gwirfoddolwr neu fyfyriwr er enghraifft).

Mae'r llinell amser yn creu darlun graffig o'ch bywyd - neu gyfnod o'ch bywyd - a fydd yn eich helpu i nodi'r pethau da a drwg, a hefyd unrhyw batrymau neu themâu rheolaidd nad oeddech yn ymwybodol ohonynt efallai.

Gall fod yn anodd iawn edrych yn ôl dros ein bywyd neu ein profiadau; i rai pobl, gall hyn ddwyn i'r cof rai materion neu atgofion y byddai'n well ganddynt eu hanghofio. Os bydd y gweithgaredd hwn yn peri gofid i chi, efallai y byddwch am ei ddileu neu ei drafod â rhywun rydych yn ymddiried ynddo. Cofiwch, gallwch hefyd ddewis pa feysydd o'ch bywyd rydych am ganolbwyntio arnynt.

Os byddwch, ar unrhyw adeg, yn teimlo bod y cwrs wedi esgor ar emosiynau anodd yna gallwch ymweld â Carers.org i ddod o hyd i'ch gwasanaeth cymorth lleol agosaf neu siarad â rhywun ar-lein.

Cyn i chi geisio creu llinell amser o'ch bywyd eich hun, hoffem i chi edrych ar rai enghreifftiau ac ystyried sut y gallent ymwneud â'ch bywyd a'ch profiadau chi.

Gweithgaredd 2.1 Ystyried fy mhrofiadau dros amser

Dylech dreulio tua 10 munud ar y gweithgaredd hwn.

Edrychwch ar y llinellau amser enghreifftiol. Yna ceisiwch ateb y cwestiynau sy'n dilyn.

Enghraifft 1: Llinell amser Claire

Edrychwch ar sut allai llinell amser Claire edrych.

Ffigur 2.2

Mae'r darlun hwn yn dangos llinell amser Claire ar draws canol y dudalen gyda saethau yn pwyntio i fyny sy'n nodi uchafbwyntiau yn ei bywyd a saethau yn pwyntio i lawr sy'n nodi isafbwyntiau yn ei bywyd.

Enghraifft 2: Llinell amser Christine

Edrychwch ar linell amser Christine.

Ffigur 2.3

Mae'r darlun hwn yn dangos llinell amser Christine ar draws canol y dudalen. Mae wedi rhestru uchafbwyntiau ei bywyd uwchlaw'r llinell ac isafbwyntiau ei bywyd islaw'r llinell.

Myfyrio a thrafod

Ystyriwch y cwestiynau canlynol:

  • A ydych wedi cael unrhyw brofiadau sy'n debyg i Claire neu Christine?
  • A oes gennych unrhyw beth yn gyffredin?
  • Beth sy'n wahanol am eich profiad chi o fywyd?

Gwnewch nodiadau ar daflen Gweithgaredd 2.1 a ddarparwyd

NEU

Ewch i Weithgaredd 2.1 o'ch Cofnod Myfyrio. Pan fyddwch wedi cwblhau'r gweithgaredd, gwnewch yn siŵr eich bod yn arbed y ddogfen eto.

Os ydych yn gweithio mewn grŵp, efallai yr hoffech rannu eich atebion a thrafod eich nodiadau gyda'ch gilydd, neu eu trafod â ffrind neu fentor.