Transcript
James
O ran bod yn ofalwr, mae myfyrio...amser i fyfyrio, yn aml yn rhywbeth prin ac os gall pobl ddod i gwrs fel yr un rydych yn ei ddarparu heddiw, mae'n rhoi amser iddyn nhw feddwl "wel, efallai fy mod i'n treulio'r rhan fwyaf o'm mywyd yn y tŷ ac efallai bod angen i mi wneud llawer o dasgau ymarferol bob dydd er mwyn sicrhau bod fy anwylyd yn gynnes, wedi'i fwydo, wedi'i wisgo, yn lân, wedi cael ei feddyginiaeth ac ati" ond maen nhw hefyd yn feysydd bywyd sy'n rhoi profiadau i chi sy'n trosi'n sgiliau y gallwch eu defnyddio o bosibl i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol. Felly, er enghraifft, trefniadaeth, cyfathrebu...maen nhw'n bethau y mae llawer o ofalwyr yn eu gwneud drwy'r amser gydag amrywiaeth eang o bobl, ond mae'n bosibl na fyddent yn ystyried eu nodi ar gais am addysg neu gyflogaeth oherwydd maen nhw'n bethau y maen nhw'n eu gwneud gartref felly maen nhw'n bethau y maen nhw'n eu hystyried sy'n rhan ohonyn nhw eu hunain, rhinwedd bersonol yn hytrach na rhywbeth sydd â gwerth ar y farchnad, a dwi'n credu ei bod yn bwysig iawn bod pobl yn gallu ehangu eu gorwelion a meddwl "wel, mae gen i werth; mae gen i lawer o sgiliau felly fe fydda' i'n gallu mynd allan a hyrwyddo fy hun a chredu digon ynof i fy hun i allu gwneud yn dda mewn capasiti mwy academaidd neu gyflogaeth."