Transcript

Suzanne
Dwi'n credu mai un o'r pethau cadarnhaol ynghylch gofalu yw bod pobl yn datblygu'n gryfach o lawer nag arfer. Mae'n debyg y gall weithio'r ffordd arall ond mae gan ein teulu ni yn sicr gydberthnasau teuluol cryf iawn. Mae fy chwaer a minnau, a'm mam a minnau, wedi dod yn agosach oherwydd hyn. O ran fy nhad a minnau, rydym wastad wedi bod yn agos iawn. Mae 3000 o filltiroedd o bellter rhwng y ddau gartref, ond rydym yn siarad bob dydd ac nid dim ond am Steve; mae llawer ohono'n ymwneud â'r ffordd rwy'n cefnogi Dad, neu'r hyn sy'n digwydd yn fy mywyd, felly mae hynny wedi bod yn rhywbeth gwirioneddol gadarnhaol.
Drwy fod yn ofalwr, dwi wedi datblygu teimlad da iawn ynghylch fy ngreddfau mewnol fy hun: Dwi'n ymchwilydd da...bu'n rhaid i mi wneud llawer o waith ymchwil; dwi'n gallu ymchwilio i driniaethau ac opsiynau gofal gwahanol a chymryd camau dilynol, casglu gwybodaeth a'i rhannu â phobl eraill mewn ffordd ddealladwy. A does dim ofn arna' i ddweud "wel, a dweud y gwir, dwi ddim yn cytuno â chi", hyd yn oed os dwi'n siarad ag arbenigwyr: "ydych chi wedi edrych ar hwn? ydych chi wedi edrych ar y llall? pam?" Yn enwedig o ran meddyginiaeth Steven, oherwydd fe gymerodd gryn amser i ni ddod o hyd i feddyginiaeth nad oedd yn cael cymaint o sgil-effeithiau fel na allai weithredu, felly roedd hynny'n anodd iawn.