Transcript

Claire
Doedd fy nghyfnod yn yr ysgol ddim yn brofiad da iawn i mi; ces i fy mwlio'n eithaf gwael ac mae hynny'n rhywbeth dwi'n teimlo'n gryf yn ei gylch, oherwydd effeithiau bwlio, oherwydd dwi ddim yn teimlo i mi wneud yn dda iawn yn yr ysgol; fe wnes i aros gartref o'r ysgol y rhan fwyaf o'r amser oherwydd yr hyn roeddwn i'n mynd drwyddo. Ar ôl ysgol, fe wnes i ddau gwrs gofal plant pan oeddwn i'n byw yn Lerpwl ac fe wnes i gwblhau'r cyrsiau hynny yn llwyddiannus ond wedyn fe fu'n anodd i mi ymdopi â'm problemau fy hun a'm hiechyd meddwl fy hun. Fe wnes i geisio dod o hyd i swydd ond gwnes i ddim llwyddo ac wedyn fe wnes i roi'r gorau i hynny oherwydd doeddwn i ddim yn teimlo'n hyderus iawn ac wedyn fe wnes i gwrdd â'm partner felly fe ddes i'n ofalwr eto a dyna fu fy swydd a'm rôl i erioed.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cyn i'm mam farw, roeddwn i'n ystyried dysgu iaith arwyddion ac, ers iddi farw, dwi wedi dechrau arni - roedd hynny ym mis Medi 2013. Fe wnes i lefel ragarweiniol yn 2013-2014 a llwyddo i'w chwblhau - dwi ddim yn gwybod sut y gwnes i hynny. Ond bu'n rhaid i mi gymell fy hun i fynd i'r noson gyntaf oherwydd roeddwn i'n nerfus iawn. Roeddwn i'n nerfus iawn am fynd i mewn i'r lleoliad hwnnw a'r amgylchedd hwnnw am fy mod i wedi cael fy mwlio yn y gorffennol ond llwyddais i oresgyn hynny a dwi nawr yn gwneud IBSL Lefel 1 a ddechreuodd fis Medi diwethaf. Mae gen i arholiad nos yfory, mae'r cwrs yn gorffen ym mis Mehefin ac yna, croesi bysedd, mi fyddai i'n llwyddo a dwi'n gobeithio y galla' i fynd nôl ym mis Medi i wneud Lefel 2.