Transcript
Alana
Fy enw i yw Alana. Dwi'n 17 oed ac yn gofalu am fy mam a'm chwaer. Fel rhan o'm rôl ofalu, dwi weithiau'n coginio, yn glanhau, yn egluro'r hyn y mae'r meddygon wedi'i ddweud ac, os nad ydw i'n deall yr hyn y maen nhw wedi'i ddweud, yna mae'n rhaid i mi fynd i ffwrdd a cheisio symleiddio hynny. Dwi'n gwneud 'DIY' a llawer o bethau eraill. Dwi'n mynd ati i ddatrys problemau bwlio, sefyllfaoedd...dwi'n disgyblu fy chwaer fach gan ei bod hi'n gwthio'r ffiniau gyda fy mam. Llawer o bethau. Mae fy chwaer yn 11 oed. Mae ganddi ddyslecsia a llawer o anawsterau dysgu. Mae'n ei chael hi'n anodd magu hyder a gwneud gwaith cartref a phethau felly. Mae wedi bod yn her dros y blynyddoedd. Fe ddechreuais i ofalu amdanyn nhw pan oedd mam a dad yn byw gyda'i gilydd oherwydd roedd gan dad lawer o anawsterau hefyd. Ar ôl i dad adael, roedd e'n rhywbeth awtomatig; roedd rhaid i fi ofalu amdanyn nhw gan nad yw fy mam yn ymdopi'n dda iawn mewn rhai sefyllfaoedd.
Rydych yn cael cyfnodau da a chyfnodau gwael. Rydych yn wynebu heriau. Mae'n rhaid i chi fynd ati i ddelio â nhw. Gall rhai ohonyn nhw fod yn ergyd drom, gall rhai ohonyn nhw wneud i chi feddwl "o wel, gwnaeth hynny ddigwydd", ac mae rhai pethau da yn digwydd - mae'n rhaid i chi ddelio â phob un.
Wel, gyda fy mam, dyw hi ddim yn dda iawn am dreulio amser gyda fi a'm chwaer. Mae wedi mynd â ni allan i lefydd, rydym wedi cael ein sbwylio, rydym ni wedi mynd ar wyliau a phethau felly, ac mae hynny'n gwneud i chi deimlo'n dda, ond rydym wedi cael cyfnodau gwael hefyd.
O ran cefnogaeth, rydym yn mynd allan unwaith y mis gyda Gofalwyr sy'n Oedolion Ifanc. Os oes angen help arnoch, mae ar gael. Dwi'n cwrdd ag un o weithwyr Gofalwyr sy'n Oedolion Ifanc unwaith yr wythnos i siarad oherwydd dyw'r sefyllfa gartref ddim yn dda ar y foment. Mae'r gefnogaeth honno yn ddefnyddiol. Pe na bai'r gefnogaeth honno ar gael, dwi ddim yn credu y byddwn i yma oherwydd...mae'n anodd...yn anodd, mae bywyd yn anodd iawn, iawn.
Yn y coleg, dwi'n gwneud cwrs Trin Gwallt Lefel 1 ac mae'n dda iawn, dwi'n ei fwynhau. Fe ges i fy nghymhwyster ddoe felly dwi'n gwella drwy'r amser. Dwi'n mynd i wneud Lefel 2 ym mis Medi a Lefel 3 hefyd gobeithio.
Dwi'n mwynhau'r coleg yn fawr; dwi'n cael yr holl gymorth sydd ei angen arna' i. Maen nhw'n deall fy mod i'n ofalwr ifanc ac mae yn achosi problemau ond dwi'n dweud wrthyn nhw bod gen i gerdyn A-2-A. Mae'n rhaid i mi ddweud wrthyn nhw oherwydd mae'n anodd bod yn y coleg, gweithio a mynd adref i ofalu am y teulu. Fe syrthiais i ymhell ar ei hôl hi gyda'r gwaith a dwi wedi bod yn hwyr weithiau...dydyn nhw ddim wedi lleihau fy EMA oherwydd dwi wedi dangos fy ngherdyn A2A, sy'n rhyddhad.
Yn y dyfodol, dwi'n gobeithio trin gwallt a gwneud rhyw fath o waith gwirfoddol hefyd oherwydd dwi am fynd i weithio dramor. Dyna wnaeth fy nghyfnither ac roeddwn i'n hoffi'r syniad o wneud hynny, dwi'n hoffi'r syniad o her.