Transcript

James
James: Fe ddechreuais i yn fy rôl ofalu go iawn pan roeddwn i'n 40 oed ac fe fydda' i'n 46 oed ym mis Gorffennaf. Cafodd fy mam wybod bod ganddi Alzheimer pan oedd hi tua 75 oed. Mae'n 80 oed nawr. Mae wedi mynd i gartref gofal preswyl yn ddiweddar gan fod y clefyd a'r salwch wedi datblygu i'r pwynt lle roedd angen iddi fod mewn amgylchedd mwy diogel na byw'n annibynnol.
Roedd yr effaith a gafodd ar fy mywyd yn anhygoel. Fe es i o yrfa brysur iawn, yn gweithio'n galed yn fy ugeiniau a'm tridegau, ar ôl bod yn y coleg a dilyn y llwybr arferol, i'r sefyllfa hon lle roedd ganddi'r salwch ofnadwy hwn ac roedd angen i ni fod yno iddi. Roedd hi'n byw tua 35 milltir i ffwrdd oddi wrtha' i i ddechrau, a byddwn i'n mynd draw bob penwythnos. Fe wnes i hynny am tua 20 mis, gan fynd â bwyd gyda mi. Un o ganlyniadau ei salwch oedd ei bod wedi rhoi'r gorau i fwyta, felly roedd hi'n bwysig iawn ar lefel ymarferol fy mod yn mynd â bwyd i'r tŷ ac yn ceisio ei hannog i fwyta. Wrth gwrs, beth ddigwyddodd wedyn oedd...byddwn i'n mynd i ffwrdd ac ni fyddai'n bwyta yn ystod yr wythnos. Felly, beth bynnag, ar ôl tua 20 mis, gwnaethon ni benderfynu ei symud yn agos iawn ata' i felly fe symudodd hi i mewn i fyngalo tua 500 llath i fyny'r ffordd. Fe fues i'n gweithio wedyn yn llawn amser am tua dwy flynedd, ond doedd hynny, hyd yn oed, ddim yn ddigon, roedd angen i mi dreulio mwy o amser gyda hi nag yr oedd swydd lawn amser yn caniatáu i mi ei wneud. Felly, flwyddyn i fis Mawrth diwethaf, fe wnes i gymryd diswyddiad gwirfoddol ar ôl 15 mlynedd mewn un sefydliad lle roeddwn wedi bod yn gweithio er mwyn rhoi mwy o amser i mi ac fe fues i'n lwcus iawn; fe ges i swydd ran amser yn NEWCIS yn fuan wedyn a rhoddodd hynny fwy o amser i mi fynd â hi i apwyntiadau ysbyty, apwyntiadau meddyg a gwneud pethau ymarferol bob dydd tra'n ceisio byw fy mywyd fy hun hefyd - fy nghydberthnasau fy hun, fy nghartref fy hun ac ati. Ond roedd hi'n anodd, hyd yn oed wedyn roedd hi'n eithaf anodd, oherwydd gydag unrhyw salwch cronig sy'n derfynol ac sydd ond yn mynd un ffordd, mae'n anochel y bydd y sefyllfa yn mynd yn waeth, yn mynd yn anoddach, felly aeth pethau'n fwy anodd yn hytrach na'n haws.
Felly, do, fe newidiodd pethau i mi. Un o'r pethau wnes i pan adawais i waith llawn amser - fe wnes i feddwl, wel, fe wnes i radd nôl pan oeddwn i...dwi ddim yn gwybod, tua 25 mlynedd yn ôl pan raddiais gyntaf nôl ar ddiwedd y 80au neu ddechrau'r 90au, ac roeddwn i wastad wedi bod eisiau gwneud gradd meistr, felly drwy fynd yn rhan amser fe ges i gyfle i gofrestru ar gwrs lleol. Felly, dwi'n agosáu nawr at ddiwedd blwyddyn gyntaf fy MSc mewn Seicoleg ac mae wedi bod o gymorth mawr i mi. Mae wedi bod yn rhywbeth newydd, rhywbeth na fyddwn i wedi gallu ei wneud pe bawn i wedi bod yn gweithio'n llawn amser, rhywbeth dwi wir wedi ei fwynhau ac mae wedi helpu i dynnu fy meddwl oddi ar y sefyllfa - mae wedi gwneud i mi feddwl am bethau eraill. Ond mae'n od bod yn fyfyriwr eto ac i fod nôl mewn byd o draethodau ac arholiadau ond mewn ffordd ryfedd...mae'n gysur ac yn eithaf lleddfol. Yn rhyfedd ddigon, dwi'n teimlo bod addysg yn rhywbeth sy'n tawelu'r meddwl yn hytrach na rhywbeth a oedd efallai y tro cyntaf yn peri pryder i mi ac yn rhywbeth roeddwn am lwyddo ynddo. Bryd hynny, y peth pwysig oedd cael swydd a gyrfa. Y tro hwn, mae'n teimlo fel pe bawn i'n gwneud y peth am fy mod i'n ei fwynhau ac yn gwneud rhywbeth sydd o fudd i mi fy hun. Felly dwi'n gwneud hynny un diwrnod yr wythnos; dwi'n gweithio yma'n rhan amser. Ac yn sicr, roedd bod yn ofalwr yn beth rhyfedd; dwi dal yn ofalwr i'r graddau bod gen i bŵer atwrnai dros iechyd a lles fy mam, ei heiddo a'i harian, a dwi'n ymweld â hi mor aml ag y galla' i. Ond mae'n wahanol nawr, nawr ei bod hi mewn cartref gofal preswyl. Mae'n newid gwahanol. Ond roedd e'n flinedig iawn, galla' i ddim wir ei ddisgrifio mewn unrhyw ffordd arall heblaw ei fod yn mynd â'm holl sylw ac amser i'r fath graddau fel fy mod wedi rhoi'r gorau i gymaint o bethau yn fy mywyd a doedd dim ots gen i wneud hynny. Y peth ofnadwy oedd, roedd y salwch yn cael effaith andwyol arna' i hefyd, fel gofalwr mae'n gwneud hynny...mae'n cael cymaint o effaith arnoch chi ag y mae'n ei chael ar y person sy'n sâl. Felly, dim ond nawr, a dim ond ychydig fisoedd wedi mynd heibio, dwi'n cymryd camau bach yn ôl i feddwl "iawn, fy mywyd i yw hwn nawr a dwi'n ganol oed felly mae gen i'r pethau hyn i'w gwneud".