Transcript

Christine
Fe enw i yw Christine. Dwi'n gofalu am fy mab sy'n 19 oed ym mis Medi. Mae ganddo Nychdod Cyhyrol Duchenne a chymhlethdodau eraill fel cardiomyopathi, scoliosis sy'n anllawdriniadwy oherwydd ei gyflwr cardioresbiradol ac anawsterau dysgu cymhleth.
Dwi'n berson gofalgar iawn yn naturiol beth bynnag, dwi'n berson sy'n hoffi cofleidio pobl. Dwi'n weinyddes feithrin. Mae'n rhywbeth y syrthiais i mewn iddo yn yr ysgol. Doeddwn i ddim yn ddisgybl academaidd felly fe fydden i'n gofalu am y plant iau, yn mynd â nhw i nofio ac yn treulio amser gyda nhw gyda'r nos. Felly, fe syrthiais i mewn i'r gwaith. Roeddwn i wrth fy modd gyda rôl nani - bod yn fam mewn gwirionedd, yn ddirprwy fam. Yna, bu'n rhaid i mi aros cryn amser cyn priodi a chael plentyn a dwi'n ei chael hi'n anodd iawn galw fy hunan yn ofalwr gan mai fi yw ei fam. Mae hynny, i ryw raddau, wedi gwneud i ni benderfynu mai'r peth gorau iddo fyddai mynd i ysgol - neu, yn hytrach, goleg preswyl - ac yna dod nôl atom ar gyfer gwyliau.
Dwi'n credu mai'r pwynt isaf yw'r teimlad o unigedd. Dwi'n hapus i ddelio â hynny fy hun ond dwi ddim am i'm mab orfod delio â hynny, a pha mor anodd yw hi i ofalu am blentyn, yn enwedig bachgen yn ei arddegau sy'n defnyddio cadair olwyn a'r diffyg darpariaeth gofal cymdeithasol yn y gymuned. Does dim byd ar gael, rydych yn mynd yn feudwy a dyw hi ddim yn deg. Mae fy mab yn golygu popeth i mi, mae wedi dysgu cymaint i mi am fy mywyd fy hun, mae'n anhygoel. Mae wedi dysgu mwy i mi amdana' i fy hun a phawb arall yn y byd. Problemau a phryderon ynghylch fy iechyd corfforol a meddyliol mewn gwirionedd. Rhai emosiynol yn fwy na rhai meddyliol mewn gwirionedd ond dwi'n gallu eu rheoli nawr. Ie...dwi ddim yn siwr...mae'n anodd gan y bydd e'n mynd i ffwrdd i'r coleg mewn tri mis ac mae popeth yn dibynnu ar sut y bydd pethau'n mynd, felly dwi'n ceisio bod yn gadarnhaol, ond dwi'n gwybod y bydd hi'n anodd. Ac rwy'n ddiolchgar fy mod i a'r gŵr gyda'n gilydd o hyd...ein bod ni gyda'n gilydd o hyd ac yn gweithio drwy bethau gyda'n gilydd. Mae pawb yn siarad byth a beunydd am "syndrom nyth gwag" ac ydy...mae'n rhywbeth y mae'n rhaid i bawb fynd drwyddo, p'un a ydych yn ofalwr neu p'un a yw'r plentyn yn mynd i ffwrdd i'r brifysgol neu'n mynd ar gwch i fyw ar ochr arall y byd. Onid yw pob un o'r rhain yn achosi trawma?
Mae'r sgiliau dwi wedi'u datblygu yn cynnwys empathi - dwi'n credu fy mod i'n berson sympathetig iawn ond dwi'n credu bod gen i empathi nawr. Dwi'n benderfynol. Byddwn i'n sefyll i fyny drosto. Galla' i roi pobl eraill o flaen fy hun. Does dim ofn arna' i ddweud na fel arfer...dwi ddim yn gwybod beth arall i'w ddweud...dwi'n credu fy mod i'n berson cryfach. Ydw...dwi wedi bod drwyddi. Dwi wedi'i wneud fy hun lawer o weithiau ond mae rhywun wedi fy sicrhau ac wedi dweud mai dyna'r hyn y mae pob un ohonom yn ei wneud.