Note: This course will be removed from OpenLearn on 1st November 2024. Please make sure you have finished studying the course by then.
Mae parchu hunaniaeth pob person yn un o werthoedd canolog gwaith cymdeithasol ond, fel y mae'r term yn awgrymu, mae gwaith cymdeithasol yn golygu mwy na safbwyntiau unigol: mae hefyd yn digwydd o fewn cyd-destun cymdeithasol. Mae cymdeithas, demograffi, daearyddiaeth, deddfwriaeth genedlaethol, polisi cenedlaethol ac iaith oll yn chwarae rhan bwysig, ym mywydau defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr ac ymarfer gweithwyr cymdeithasol. Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno i bwysigrwydd cydnabod bod ymarfer gwaith cymdeithasol yn digwydd mewn cyd-destun. Yn benodol, byddwch yn dysgu beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer gwaith cymdeithasol yng Nghymru - yn y cyd-destun Cymreig.
Deilliannau dysgu'r cwrs
Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:
datblygu dealltwriaeth o ystyr y gair 'cymdeithasol' mewn ymarfer gwaith cymdeithasol
ystyried effaith y cyd-destun Cymreig ar ymarfer gwaith cymdeithasol yng Nghymru er mwyn gweld pa werthoedd ac agweddau sy'n sail i ymarfer gwaith cymdeithasol.