Cyflwyniad i waith cymdeithasol yng Nghymru
Cyflwyniad
Cewch eich cyflwyno i nodweddion y cyd-destun Cymreig a fydd yn datblygu eich dealltwriaeth o'r hyn sydd ei angen i fod yn ymarferydd effeithiol yng Nghymru. Wrth astudio, byddwch yn dod i ddeall datganoli a'i effaith ar ddeddfwriaeth, polisi ac, yn y pen draw, ymarfer gwaith cymdeithasol yng Nghymru. Byddwch hefyd yn ystyried rhai agweddau pwysig ar anghenion iaith a dewis iaith. Cewch eich cyflwyno i rai o'r rolau a'r tasgau a gyflawnir gan ymarferwyr, sut mae deddfwriaeth a pholisi cymdeithasol yn effeithio arnynt a sut y maent yn seiliedig ar y codau ymarfer a'r sylfaen gwerthoedd proffesiynol.
Mae'r uned hon yn cynnwys darnau wedi'u haddasu sy'n berthnasol i KZW113 Foundations for social work practice
Mae'r uned hon hefyd ar gael yn Saesneg ar OpenLearn [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .