1. Cyd-destun cymdeithasol defnyddwyr gwasanaethau
Yn ogystal â deall y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol ac uniaethu â nhw fel unigolion unigryw, mae angen i weithwyr cymdeithasol hefyd werthfawrogi effaith ffactorau cymdeithasol ehangach ar fywydau defnyddwyr gwasanaethau. Mae gweithwyr cymdeithasol yn gweithio gyda rhai o'r grwpiau mwyaf ymylol yn ein cymdeithas, a all fod yn wynebu tlodi, anfantais a gwahaniaethu. Heb ddeall sut a pham mae cymdeithas wedi'i rhannu mewn ffordd nad oes gan unigolion fawr ddim rheolaeth drosti, byddai'n hawdd beio unigolion am amgylchiadau na wnaethant eu dewis. Mae tlodi a dosbarth cymdeithasol wedi'u cydnabod ers tro yn ffactorau mawr sy'n effeithio ar siawns bywyd pobl, ac mae themâu cyfarwydd iaith, ardaloedd gwledig, cydraddoldebau a thlodi yn effeithio yn y pen draw ar fywydau bob dydd defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr (Williams, 2001, t. xiii) yng Nghymru a thu hwnt. Felly, mae angen i weithwyr cymdeithasol ddeall y materion hyn er mwyn gweithio'n effeithiol gyda phobl Cymru i geisio dod o hyd i ffyrdd y gallant wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.