Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cyflwyniad i waith cymdeithasol yng Nghymru
Cyflwyniad i waith cymdeithasol yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2. Beth yw 'cyd-destun Cymreig' gwaith cymdeithasol?

Mae'n bwysig bod pob gweithiwr cymdeithasol yn deall y cyd-destun, ble bynnag y bo'n gweithio. Mae themâu fel ardaloedd gwledig, tlodi, diwydiannu ac ymfudo ac allfudo yn effeithio ar fywydau defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr a'r gwasanaethau a gânt yng Nghymru gymaint ag y maent yn Glasgow neu yng Nghernyw. Fodd bynnag, ni fydd y nodweddion hyn yr un peth ymhob lleoliad neu wlad, neu hyd yn oed o fewn gwledydd, ac mae'n hollbwysig bod gweithwyr cymdeithasol yn datblygu dealltwriaeth o effaith y nodweddion cymdeithasol a demograffig hyn ar fywydau'r bobl y maent yn gweithio gyda nhw.

Er enghraifft, gwelwyd dirywiad diwydiannol sylweddol yng nghyn-gadarnleoedd diwydiannol cymoedd y De dros y ganrif ddiwethaf, gyda cholledion swyddi anochel. Gall gweithwyr cymdeithasol ystyried effaith y dirywiad hwn ar fywydau defnyddwyr gwasanaethau neu ofalwyr sy'n byw yn yr ardal hon. Gallwn gyferbynnu'r sefyllfa hon â rhywun sy'n byw mewn ardal wledig yn y canolbarth, sydd wedi'i hynysu'n gymdeithasol ac sydd â chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwael sy'n golygu ei bod yn anodd defnyddio gwasanaethau, neu brofiad teulu sy'n ceisio lloches sy'n byw mewn ardal wasgaru fel Abertawe, Casnewydd neu Wrecsam. Yn amlwg, bydd gan ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr sy'n byw mewn ardaloedd gwahanol anghenion gwahanol, a rhan bwysig o rôl gweithiwr cymdeithasol yw ystyried cwestiynau'n ymwneud â'r cyd-destun wrth iddo asesu anghenion person a gweithio gydag ef i benderfynu sut i'w diwallu.

Er bod gweithwyr cymdeithasol yn gweithio gydag unigolion, grwpiau a chymunedau a bod ganddynt lawer yn gyffredin â'i gilydd o ran gwerthoedd a moeseg ledled y DU a thu hwnt, mae'r gwasanaethau y maent yn eu darparu a'u dealltwriaeth o'u proffesiwn yn dibynnu ar werthoedd llywodraeth y wlad y maent yn gweithio ynddi. Yng Nghymru, mae syniadau ynghylch y ddarpariaeth les wedi dechrau dilyn trywydd gwahanol i wledydd eraill y DU.

Mae'r broses ddatganoli wedi rhoi cyfrifoldeb deddfwriaethol llawn a chyfrifoldeb am lunio polisïau i Lywodraeth Cymru mewn nifer o feysydd, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, mae'n hanfodol bod ymarferwyr gwaith cymdeithasol yn gwybod pa ddeddfwriaeth, polisi neu strategaeth sy'n rheoli'r gwasanaeth y maent yn ei ddarparu, neu pa ddarn o ddeddfwriaeth y byddant yn ei ddefnyddio wrth gyflawni eu swyddogaethau statudol yng Nghymru.

Mae iaith hefyd yn rhan bwysig o'r cyd-destun Cymreig gan fod 19.8% o boblogaeth Cymru yn siarad Cymraeg (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2011). Er bod llawer o ieithoedd i'w clywed ledled y wlad, sydd hefyd yn haeddu sensitifrwydd ac y mae'n rhaid eu trin yn unol ag arfer da, mae dwy iaith swyddogol Cymru (Cymraeg a Saesneg) yn gosod gofynion penodol ar gyrff cyhoeddus ac, yn benodol, ar wasanaethau lles.

Gweithgaredd 1: Beth yw'r 'cyd-destun Cymreig'?

Timing: Dylech dreulio tua 15 munud ar y dasg hon

Dylech dreulio tua 15 munud ar y dasg hon.

  • Edrychwch ar y cwestiynau isod a nodwch eich ymatebion.
  • Ers faint rydych chi wedi byw yng Nghymru?
  • A ydych chi'n byw mewn cymuned wledig neu drefol?
  • Pa newidiadau sy'n digwydd yn eich cymuned a beth sy'n eu hachosi?
  • Pa wahaniaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud?
  • Sawl darn o ddeddfwriaeth Gymreig y gallwch chi eu henwi?
  • Beth yw eich dewis iaith?
  • Beth yw eich profiad o'r iaith Gymraeg?
  • A ydych chi'n gwybod faint o siaradwyr Cymraeg sy'n byw yn eich ardal?
  • A ydych chi erioed wedi gweithio gydag unrhyw ddefnyddwyr gwasanaeth Cymraeg?

Gofynnwch rai o'r cwestiynau hyn i gydweithwyr, ffrindiau neu deulu.

A wnaeth rhai o'r ymatebion eich synnu ac os felly, sut?

Gadael sylw

Efallai ichi gael eich synnu faint roeddech yn ei wybod (neu beidio) am y cwestiynau hyn. Mae rhai myfyrwyr, gan gynnwys myfyrwyr gwaith cymdeithasol, sydd wedi gwneud y gweithgaredd hwn wedi cael eu synnu nad oeddent hyd yn oed wedi meddwl am y mathau hyn o gwestiynau o'r blaen. Nid oedd gan lawer ohonynt unrhyw syniad faint o siaradwyr Cymraeg a oedd yn byw yn eu hardal na hyd yn oed a oedd eu llwyth achosion yn cynnwys unrhyw siaradwyr Cymraeg. Mewn rhai grwpiau, ysgogodd y cwestiynau drafodaeth eithaf dwys, er enghraifft, am hanes teuluol a hunaniaeth bersonol, gwerthoedd personol a phroffesiynol a materion gwleidyddol.

Mae angen i weithwyr cymdeithasol fod yn ymwybodol o'r cyd-destun sy'n berthnasol iddynt hwy oherwydd, yn amlwg, mae mwy nag un 'cyd-destun Cymreig'. Mae dyfodiad ffoaduriaid a cheiswyr lloches, er enghraifft, wedi cyflwyno heriau newydd i rai cymunedau ac ardaloedd ac mewn rhai ardaloedd eraill, er nad ydynt yn ffenomenon newydd, mae'n bosibl nad yw anghenion iaith defnyddwyr gwasanaethau neu ofalwyr Cymraeg wedi cael eu diwallu bob amser. Mae angen i weithwyr cymdeithasol fod yn gyfarwydd â'r ddeddfwriaeth a'r polisïau perthnasol i gefnogi eu hymarfer gwrthwahaniaethol a chael gafael ar y cymorth a'r gwasanaethau cywir i ddiogelu lles y bobl hyn.

Yn y gweithgaredd nesaf, byddwch yn ystyried ymhellach sut y gall fod yn bwysig i weithwyr cymdeithasol ystyried ffactorau cymdeithasol a demograffig.

Gweithgaredd 2: Ffeithiau a ffigurau: ystyried ffactorau cymdeithasol

Timing: Dylech dreulio tua 30 munud ar y dasg hon

Darllenwch grynodeb o'r adroddiad 'Monitro tlodi ac allgau cymdeithasol yng Nghymru 2013', [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] gan Sefydliad Joseph Rowntree (JRF, 2013).

Dewch o hyd i un darn o wybodaeth am effeithiau tlodi yn y crynodeb nad oeddech yn gwybod amdano o'r blaen. Gwnewch nodiadau cryno ar sut y gallai'r wybodaeth hon fod yn bwysig i weithwyr cymdeithasol.

Gadael sylw

Mae'r adroddiad yn dangos er nad yw cyfran y bobl sy'n byw mewn aelwydydd incwm isel yng Nghymru wedi newid rhyw lawer dros ddegawd, mae cyfran yr aelwydydd sy'n gweithio ac sydd ar incwm isel wedi cynyddu ers dechrau'r 2000au. Fodd bynnag, roedd cyfran y teuluoedd sy'n hawlio budd-daliadau mewn-gwaith neu allan-o-waith yn amrywio ledled Cymru, gyda niferoedd uchel o deuluoedd yn y Gorllewin, y Gogledd-ddwyrain a'r Dwyrain yn cael budd-daliadau mewn-gwaith. Yng nghymoedd y De roedd y niferoedd uchaf o deuluoedd a oedd yn hawlio budd-daliadau allan-o-waith.

Gyda chanran uwch o'r boblogaeth oed gwaith yn anweithgar (26.5%), roedd Cymru yn uwch yn y categori hwn na'r Alban a Lloegr a 3.5% yn uwch na chyfartaledd Prydain.

Mae'n drawiadol bod nifer fawr o bobl sy'n gweithio bellach mewn tlodi. Mae cysylltiad hirsefydledig rhwng tlodi ac iechyd a lles, ond eto i gyd mae annhegwch ataliadwy yn parhau (ac yn wir, yn cynyddu) ledled Cymru, ac mae'r rhain yn 'gofyn am ymrwymiad di-ball i sicrhau nad yw lle mae rhywunyn byw na’i amgylchiadau cymdeithasol yn arwain at ansawdd bywyd is nac atfarwolaeth gynamserol' (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2009).

Gan fod Cymru yn gymdeithas hynod o anghyfartal (Williams, 2011, t. 116), mae'n amlwg bod angen i weithwyr cymdeithasol sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r annhegwch hwn a wynebu'r her o weithio mewn ffordd wrthwahaniaethol. Byddwch yn dysgu mwy am ymarfer gwrthwahaniaethol yn Adran 4.

Mae gwefan Sefydliad Joseph Rowntree yn adnodd ardderchog i drafod ac ymchwilio llawer o agweddau ar waith cymdeithasol, ac efallai y bydd y wefan hon yn ddefnyddiol ichi ar adegau eraill hefyd. Gallwch hefyd gymharu ffigurau ledled y DU ar y wefan hon.