Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cyflwyniad i waith cymdeithasol yng Nghymru
Cyflwyniad i waith cymdeithasol yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.2 Datganoli

Ffigur 2 Adeilad y Senedd

Yn y Ddeddf Llywodraeth Cymru (1998) gyntaf, deddfwyd y dylid sefydlu Cynulliad Cenedlaethol (flwyddyn yn ddiweddarach) ac roedd iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg ymhlith yr 20 o feysydd polisi a gafodd eu datganoli i Gymru. O dan yr ail Ddeddf (2006), gwahanwyd y corff gweithredol (y llywodraeth) oddi wrth y corff deddfwriaethol a rhoddwyd mwy o bwerau deddfwriaethol i Lywodraeth Cynulliad Cymru (neu Lywodraeth Cymru fel y'i gelwir nawr). Yn y ddeddf hon, deddfwyd hefyd y gallai Cymru gael pwerau deddfu llawn yn y dyfodol, heb fod angen rhagor o ddeddfwriaeth. Yn 2011, ar ôl refferendwm, pleidleisiodd poblogaeth Cymru dros roi pwerau deddfu sylfaenol i Gymru. Felly, mae gan Gymru erbyn hyn ei phroses ddeddfu ei hun mewn 20 o feysydd datganoledig, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol (Llywodraeth Cymru, 2012).

Ers 1998, felly, mae deddfwriaeth a pholisi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi datblygu safbwynt Cymreig, unigryw. Mae traddodiad o gymryd rhan a gweithio mewn partneriaeth bob amser wedi bodoli ym maes datblygu polisi iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ond yn sgil datganoli crewyd amgylchedd lle gallai'r 'Ffordd Gymreig' symud ymlaen, gan ddarparu atebion Cymreig i broblemau Cymreig (Williams, 2011). O ganlyniad, mae gwasanaethau yng Nghymru wedi newid o fodel marchnad o ddarparu gofal, gan anelu yn lle hynny at fodel o ‘Gyffredinoliaeth Gynyddol’ (Drakeford, 2007) – hynny yw, gwasanaethau i bawb (lle mae'r holl ddinasyddion yn rhanddeiliaid) ond gan roi pwyslais penodol ar y mannau lle mae'r angen mwyaf. Mae hyn wedi arwain at (a bydd yn parhau i arwain at) newidiadau anochel i weithwyr cymdeithasol yng Nghymru wrth iddynt gefnogi dinasyddion Cymru, gan gynnwys oedolion sy'n agored i niwed a phlant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau. Bydd y newidiadau hyn yn cynnwys deddfwriaeth a pholisi, ymarfer gwaith cymdeithasol a gwasanaethau, anghenion ieithyddol a diwylliannol ac, wrth gwrs, dirwedd sy'n newid yn gyson o ran pobl Cymru a'u hanghenion, eu dymuniadau a'u dyheadau.

Caiff y 'Ffordd Gymreig' ei hadlewyrchu mewn polisi a deddfwriaeth ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a chaiff yr angen i ddiwallu anghenion pobl Cymru ei gynnwys yn yr holl bolisïau a deddfwriaeth a gaiff eu llunio gan Lywodraeth Cymru. O ran plant, pobl ifanc a theuluoedd, er enghraifft, mae mwy o ymrwymiad i ymgorffori egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ym mhob polisi a deddfwriaeth. Comisiynydd Plant Cymru [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] oedd y sefydliad hawliau dynol annibynnol cyntaf yn y DU a sefydlwyd yn benodol ar gyfer plant. Penodwyd dau Gomisiynydd arall ers hynny - Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg. Un o rolau'r tri chomisiynydd yw hyrwyddo hawliau dinasyddion yng Nghymru.

Mae ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau lleol sy'n rhoi pwyslais ar gydweithredu yn hytrach na chystadlu, a phartneriaeth yn hytrach na her (Williams, 2011, t. 26), yn golygu y bydd gwaith cymdeithasol, a ddarperir drwy adrannau gwasanaethau cymdeithasol Awdurdodau Lleol, yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth ddarparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar unigolion yng Nghymru. Bydd gwaith cymdeithasol yn hollbwysig er mwyn darparu atebion Cymreig i broblemau Cymreig.

Yn y Papur Gwyn ar Wasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy: Fframwaith Gweithredu (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2011), nodwyd yn glir flaenoriaethau gweithredu Llywodraeth Cymru i greu 'gwasanaethau cymdeithasol sy’n safonol, sy’n ymateb i anghenion ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn' (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2011, t. 3), gan ystyried newidiadau demograffig ac ariannol a 'r[h]oi lle mwy canolog eto igyfraniad proffesiynol gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasolyn y gwasanaethau hynny' (t. 28). At hynny, yr uchelgais yw, drwy weithio mewn partneriaeth â defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr i gynllunio a darparu gwasanaethau, y gellir sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed ar y cam hwn yn y broses o ddarparu gwasanaethau. Fel hyn, caiff defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr eu hystyried yn bartneriaid gyda llywodraeth leol, gan helpu i gyd-gynhyrchu gwasanaethau yn hytrach na dim ond derbyn yr hyn a roddir iddynt. Mae'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014) yn ceisio mynd i'r afael â'r materion a godwyd yn y Papur Gwyn ac mae’n cyfrannu tuag at y broses o drawsnewid gofal a chymorth cymdeithasol yng Nghymru ers dod i rym yn Ebrill, 2016. Gwneir hyn drwy weithio mewn partneriaeth â defnyddwyr gwasanaethau i nodi eu hanghenion a phenderfynu pa fath o wasanaethau fydd yn cynnal ac yn gwella eu lles ac yn hyrwyddo eu hannibyniaeth orau (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, 2012). Mae'r gwaith partneriaeth hwn sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ac sy'n rhoi sylw i lesiant pobl fel unigolion, fel rhan o'u teulu ac fel rhan o'u cymuned, yn nodwedd unigryw o'r agenda polisi a deddfwriaethol yng Nghymru.

Drwy fynd i wefan iechyd a gofal cymdeithasol Llywodraeth Cymru, dewch o hyd i strategaethau, adroddiadau a dogfennau Cymreig eraill sy'n ymwneud yn benodol ag amrywiaeth o grwpiau defnyddwyr gwasanaeth, ac mae gwefan yr Archifau Gwladol yn cynnwys dolenni i Fesurau (deddfwriaeth a grëwyd cyn 2011) a Deddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn y gweithgaredd nesaf, byddwch yn edrych ar yr hyn sydd gan bolisïau a deddfwriaeth yng Nghymru i'w ddweud am ddarparu gwasanaethau i grŵp penodol o ddefnyddwyr gwasanaeth.

Gweithgaredd 3: Adlewyrchu'r 'Ffordd Gymreig' mewn polisïau

Timing: Dylech dreulio tua 20 munud ar y dasg hon

Byddwch yn edrych yn fyr ar y strategaeth ar gyfer iechyd meddwl a lles yng Nghymru, sydd ar gael ar y we-dudalen: 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’.

Mae'r dudalen hon yn amlinellu prif themâu'r strategaeth. Ewch i waelod y dudalen a lawrlwythwch y strategaeth ei hun. Darllenwch y crynodeb gweithredol (tudalennau 5-10) a gwnewch rai nodiadau byr ar sut mae'r rhain yn adlewyrchu'r 'Ffordd Gymreig' yn eich barn chi, yn enwedig o ran gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a chynnwys defnyddwyr gwasanaethau/gofalwyr. Sut allai'r strategaeth effeithio ar y cyhoedd yn gyffredinol a thargedu anghenion penodol?

Gadael sylw

Mae Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn yr 21ain ganrif. Mae'n adeiladu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) (2010), sy'n gosod dyletswyddau cyfreithiol ar Fyrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol i wella'r cymorth sydd ar gael i bobl â salwch meddwl, a dylid ei ystyried ar y cyd â Law yn Llaw at Iechyd (2011), y strategaeth ar gyfer y GIG yng Nghymar, a Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2011), a grybwyllir uchod.

Y strategaeth hon yw strategaeth iechyd meddwl a lles gyntaf Cymru, ar gyfer oedolion a phlant, ac mae'n canolbwyntio ar hybu iechyd meddwl da, atal problemau iechyd meddwl, a gwella gwasanaethau iechyd meddwl. Drwy ganolbwyntio ar ganlyniadau (gyda chynllun cyflawni), mae'r strategaeth yn ceisio ystyried datblygiadau o safbwynt y defnyddiwr gwasanaeth a sicrhau bod ei hamcanion yn fesuradwy.

Mae gan bobl Cymru rôl bwysig i'w chwarae yn yr ymgyrch i fynd i'r afael â stigma a gwahaniaethu, ac mae'n rhaid cynnwys defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr wrth gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd meddwl. Bydd disgwyl i wasanaethau cymdeithasol ac iechyd gydweithio mewn ffyrdd newydd er mwyn mynd i'r afael â'r ffactorau ym mywydau pobl a all effeithio ar eu hiechyd meddwl a'u lles.

Fodd bynnag, bydd yn rhaid cyflawni'r bwriadau beiddgar hyn gan ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd a bydd hyn yn anodd o gofio'r toriadau cyllidebol presennol. Serch hynny, gellid dadlau bod y gwerthoedd sylfaenol, sy'n cynnwys hawliau dinasyddion, gwrando ar lais defnyddwyr gwasanaethau a symud oddi wrth fodel marchnad o ddarparu gofal yng Nghymru, yn gyfle braf i ddychwelyd i werthoedd y proffesiwn gwaith cymdeithasol. Wrth ichi feddwl am hyn, efallai yr hoffech ystyried a ydych yn cytuno â'r farn hon ai peidio.

Bydd y rhaglen ddeddfwriaethol yng Nghymru yn parhau i fynd rhagddi'n gyflym, gydag agenda sy'n gynyddol wahanol i wledydd eraill y DU. Mae'r cyfrifoldeb am ymyrryd ym mywydau pobl, a hynny'n groes i'w dymuniadau weithiau, yn golygu ei bod yn hollbwysig bod gweithwyr cymdeithasol yn gyfarwydd â'r cyd-destun deddfwriaethol a'r cyd-destun polisi yng Nghymru, gan mai dyma sy'n ategu ac yn llywio eu hymarfer ac, yn y pen draw, yn effeithio ar fywydau defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr.