Gwerthoedd
Mae gan bob un o bedair gwlad y DU ei rheoleiddiwr ei hun ar gyfer y proffesiwn gwaith cymdeithasol. Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC) yw'r rheoleiddiwr yng Nghymru. Caiff ymarfer gweithwyr cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru ei lywodraethu gan y Côd Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] sy’n cynnwys safonau rheoleiddio ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol yn eu gwaith o ddydd i ddydd tra bod y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC, CGC 2011), sy'n nodi safonau y cytunwyd arnynt o gymhwysedd ar gyfer y proffesiwn. Mae dogfen arall, 'Y Gweithiwr Cymdeithasol' http://www.cgcymru.org.uk/ canllawiau-ymarfer-i-weithwyr-cymdeithasol/ (CGC, 2014) yn cynnwys canllawiau ymarferol i weithwyr cymdeithasol cofrestredig a dyma'r canllaw cyntaf o'i fath yn y DU. Mae'n cynnwys diffiniad rhyngwladol o waith cymdeithasol ac yn ymhelaethu ar y Côd Ymarfer Proffesiynol, ond mae diben rheoleiddiol iddo hefyd oherwydd gall unrhyw weithwyr cymdeithasol cofrestredig nad ydynt yn ei ddefnyddio golli eu cofrestriad.
Mae'r dogfennau hyn yn adlewyrchu ideoleg a gwerthoedd Llywodraeth Cymru o ran sut y dylid gwneud gwaith cymdeithasol yng Nghymru. Fodd bynnag, caiff diben gwaith cymdeithasol ei ddiffinio gan fwy nag athroniaethau a chredoau llywodraethau neu gynulliadau gwledydd unigol; mae sefydliadau sy'n cynrychioli gweithwyr cymdeithasol hefyd yn hyrwyddo safbwyntiau ar y rôl broffesiynol. Cafodd y diffiniad canlynol o waith cymdeithasol ei gyhoeddi ar y cyd gan Ffederasiwn Cenedlaethol y Gweithwyr Cymdeithasol (IFSW) a'r Gymdeithas Ryngwladol Ysgolion Gwaith Cymdeithasol (IASSW) yn 2001. Dyma'r diffiniad o waith cymdeithasol y mae CGC hefyd yn ei ddefnyddio yn ei ganllawiau ymarfer a nodir uchod:
[Mae'r proffesiwn gwaith cymdeithasol yn] hybu newid cymdeithasol, datrys problemau mewn perthnasau dynol a grymuso a rhoi rhyddid i bobl i wella lles. Drwy ddefnyddio damcaniaethau ynghylch ymddygiad dynol a systemau cymdeithasol, mae gwaith cymdeithasol yn ymyrryd lle mae pobl yn rhyngweithio â’u hamgylcheddau. Mae egwyddorion hawliau dynol a chyfiawnder cymdeithasol yn hanfodol i waith cymdeithasol.
Cwblhawyd adolygiad o'r diffiniad hwn a chyflwynwyd fersiwn newydd yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol IFSW/IASSW ym mis Gorffennaf 2014:
“Social work is a practice-based profession and an academic discipline that promotes social change and development, social cohesion, and the empowerment and liberation of people. Principles of social justice, human rights, collective responsibility and respect for diversities are central to social work. Underpinned by theories of social work, social sciences, humanities and indigenous knowledge, social work engages people and structures to address life challenges and enhance wellbeing.
The above definition may be amplified at national and/or regional levels”.
Mae'r fersiwn newydd yn adeiladu ar y pwys a roddwyd yn yr hen ddiffiniad ar gyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol. Fodd bynnag, mae hefyd yn cydnabod cymhlethdod gwaith cymdeithasol yn fyd-eang. Mae gofal cymdeithasol yn ymwneud â helpu unigolion a chydweithio â chymunedau i herio strwythurau cymdeithasol a allai greu anfantais a bygwth lles. Mae hwn yn ddatganiad grymus o'r rhan 'gymdeithasol' ehangach o gylch gorchwyl gwaith cymdeithasol, yn wyneb disgwyliadau o'r proffesiwn sy'n newid yn gyson.
Gweithgaredd 4: Codau moeseg cenedlaethol a rhyngwladol
Ewch i wefan Ffederasiwn Cenedlaethol y Gweithwyr Cymdeithasol.
Daliwch y cyrchwr dros y tab 'Resources', yna cliciwch ar 'Policies', sgroliwch i lawr ac edrychwch dros y 'Statement of ethical principles'. Gwnewch nodiadau ar bwyntiau allweddol y datganiad hwn, yn eich barn chi.
Ar waelod y sgrin, ewch i'r adran 'National codes of ethics' a dewch o hyd i god moeseg y DU ar gyfer gwaith cymdeithasol, a gafodd ei ddatblygu gan Gymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain. Canolbwyntiwch ar y cyflwyniad (t. 4), ac yn enwedig y datganiad bod gweithwyr cymdeithasol yn cael eu cyfyngu gan yr adnoddau sydd ar gael a'r polisïau sefydliadol sydd ar waith mewn cymdeithas. Mae hyn yn cysylltu'n benodol ag ystyriaethau polisi cymdeithasol.
Mae hon yn ddogfen hir sy'n awgrymu 17 o egwyddorion y dylai gweithwyr cymdeithasol eu dilyn ac yn nodi sut y dylai ymarferwyr lynu wrth werthoedd craidd yn eu hymarfer. Ar hyn o bryd, dim ond brasddarllen y ddogfen y dylech ei wneud.
Ceisiwch ddod o hyd i enghraifft o'ch profiad bywyd neu'ch profiad gwaith eich hun sy'n dangos yr her o rymuso a hyrwyddo lles pan fo adnoddau'n brin.
Sut allai gweithiwr cymdeithasol ddefnyddio Côd Ymarfer Proffesiynol - Gofal Cymdeithasol Cymrui lywio ei ymarfer pan fydd yn wynebu cyfyng-gyngor fel hyn?
Gadael sylw
Rhoddodd ymarferydd gwaith cymdeithasol enghraifft dda o'r cyfyng-gyngor hwn pan ddisgrifiodd ymdrech i helpu plant a oedd yn ceisio lloches ar eu pen eu hunain, a oedd yn cael eu dal mewn canolfan gadw ac a oedd wedi profi trawma difrifol. Dywedodd iddo deimlo ei fod mewn cyfyng-gyngor proffesiynol wrth gytuno i weld plant a oedd yn cael eu cadw. Dywedodd gweithiwr cymdeithasol arall wrthym ei bod yn anhapus iawn â pholisi ei hawdurdod lleol o ailgartrefu teuluoedd digartref gannoedd o filltiroedd i ffwrdd o'r man lle roeddent yn byw yn Llundain, yn enwedig pan roedd hyn yn golygu y byddai'r plant yn gorfod gadael eu hysgol, eu ffrindiau a'u teulu. Teimlai fod y polisi hwn yn gwbl groes i bopeth a wyddai am yr hyn sydd ei angen ar blant a theuluoedd, ond bod disgwyl iddi weithio gyda rhieni i ddod o hyd i ysgolion newydd mewn cymunedau nad oeddent yn gwybod dim amdanynt. Roedd hyn yn un enghraifft o'r ffordd y mae polisi cymdeithasol yn effeithio ar waith cymdeithasol, yn ei barn hi.